Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/11/2017.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[F1(1)] Mae person [F2y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb o £100 os yw’r person yn methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny.
[F3(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 118(1): a. 118 wedi ei ailrifo fel a. 118(1) (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 9(a); O.S. 2018/35, ergl. 3
F2Geiriau yn a. 118 wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 39; O.S. 2018/34, ergl. 3
F3A. 118(2) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 9(b); O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 118 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—
(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a
(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—
(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.
(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—
(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond
(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.
(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).]
Diwygiadau Testunol
F4A. 118A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 74, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
(1)Mae person [F5y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
(2)Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—
(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a
(b)£300.
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn a. 119(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 40; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 119 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Mae person [F6y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
(2)Pan fo’r person, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen dreth, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, y gosb [F7yw—
(a) £300, neu
(b) swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.]
(3)Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (2), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—
(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a
(b)£300.
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn a. 120(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 41(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F7Geiriau yn a. 120(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 41(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 120 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, [F8118A,] 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).
(2)Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—
(a)dweud wrth ACC amdani,
(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac
(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.
(3)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
(b)ansawdd y datgeliad.
(4)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
(a)yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a
(b)fel arall, “wedi ei gymell”.
(5)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.
Diwygiadau Testunol
F8Gair yn a. 121(1) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 10; O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 121 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys