Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennauLL+C
129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACCLL+C
(1)Mae person yn agored i gosb pan fo—
(a)y person yn rhoi dogfen i ACC, a
(b)amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.
(2)Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—
(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F1...
(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F2, neu
(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]
(3)Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.
(4)Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.
(5)Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—
(a)os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
(b)os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.
(6)Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 129(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 29(a)
F2A. 129(2)(d) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 29(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 129 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
130Swm y gosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACCLL+C
(1)Y gosb am anghywirdeb bwriadol yw [F3swm heb fod yn fwy na] 100% o’r refeniw posibl a gollir.
(2)Y gosb am anghywirdeb diofal yw [F4swm heb fod yn fwy na] 30% o’r refeniw posibl a gollir.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn a. 130(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 48(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F4Geiriau yn a. 130(2) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 48(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 130 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
131Gohirio cosb am anghywirdeb diofalLL+C
(1)Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.
(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,
(b)cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac
(c)amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.
(3)Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.
(4)Caiff amod gohirio bennu—
(a)cam sydd i’w gymryd, a
(b)cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.
(5)Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—
(a)os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a
(b)fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
(6)Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 131 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
132Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arallLL+C
(1)Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—
(a)person arall yn rhoi dogfen i ACC,
(b)y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac
(c)yr anghywirdeb i’w briodoli—
(i)i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu
(ii)i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,
gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.
(2)Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—
(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F5...
(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F6, neu
(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]
(3)Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.
(4)Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw [F7 100% o’r refeniw posibl a gollir.]
Diwygiadau Testunol
F5Gair yn a. 132(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 30(a)
F6A. 132(2)(d) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 30(b)
F7Geiriau yn a. 132(4) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 49; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 132 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 132 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3