xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff ACC ostwng cosb sy’n daladwy o dan y Bennod hon pan fo person yn gwneud datgeliad cymwys.
(2)Ystyr “datgeliad cymwys” yw datgelu—
(a)anghywirdeb sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig,
(b)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig, F1...
(c)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad â threth ddatganoledig,
[F2(d)anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,
(e)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu
(f)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.]
(3)Mae person yn gwneud datgeliad cymwys drwy—
(a)dweud wrth ACC amdano,
(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC wrth feintioli—
(i)yr anghywirdeb,
(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu gelu gwybodaeth, neu
(iii)y tanasesiad, ac
(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben sicrhau bod—
(i)yr anghywirdeb,
(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu
(iii)y tanasesiad,
yn cael ei gywiro’n llawn.
(4)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
(b)ansawdd y datgeliad.
(5)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
(a)yn “ddigymell” os caiff ei wneud ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu bod gwybodaeth wedi ei hatal, neu’r tanasesiad, a
(b)fel arall, “wedi ei gymell”.
(6)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 139(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 34(a)
F2A. 139(2)(d)-(f) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 34(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 139 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
(a)gallu i dalu, na
(b)y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)dileu cosb yn llwyr,
(b)gohirio cosb, ac
(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gosb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw log mewn perthynas â chosb.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 140 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb,
(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac
(c)datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod [F3, trafodiad neu hawliad am gredyd treth] yr aseswyd y gosb.
(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad o dreth ddatganoledig.
(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 129 neu 132 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer y penderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb, neu
(b)os nad oes asesiad o’r dreth o dan sylw o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y caiff yr anghywirdeb ei gywiro.
(4)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 133 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad treth a oedd yn cywiro’r tanddatganiad, neu
(b)os nad oes asesiad sy’n cywiro’r tanddatganiad, â’r diwrnod y caiff y tanddatganiad ei gywiro.
(5)Yn is-adrannau (3) a (4), ystyr “cyfnod apelio” [F4yw]—
(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a
(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.
(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan y Bennod hon os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danddatganiad o’r refeniw posibl a gollir.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn a. 141(1)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 35
F4Geiriau yn a. 141(5) wedi eu hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 51; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 141 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3