Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

DehongliLL+C

142Dehongli Pennod 3LL+C

Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriad at roi dogfen i ACC yn cynnwys—

(i)cyfeiriad at gyfleu gwybodaeth i ACC ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd (boed drwy’r post, ffacs, e-bost, ffôn neu fel arall), a

(ii)cyfeiriad at wneud datganiad mewn dogfen;

(b)mae cyfeiriad at ddychwelyd ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygio ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth ddiwygiedig;

(c)mae cyfeiriad at golled yn cynnwys cyfeiriad at dâl, traul, diffyg ac unrhyw swm arall a all fod ar gael ar gyfer didyniad neu [F1ryddhad], neu y gellir dibynnu arno er mwyn hawlio didyniad neu [F1ryddhad];

(d)mae cyfeiriad at weithred yn cynnwys cyfeiriad at anweithred.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 142 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3