140Gostyngiad arbennig i gosb o dan Bennod 3LL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
(a)gallu i dalu, na
(b)y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)dileu cosb yn llwyr,
(b)gohirio cosb, ac
(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gosb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw log mewn perthynas â chosb.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 140 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3