142Dehongli Pennod 3LL+C
Yn y Bennod hon—
(a)mae cyfeiriad at roi dogfen i ACC yn cynnwys—
(i)cyfeiriad at gyfleu gwybodaeth i ACC ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd (boed drwy’r post, ffacs, e-bost, ffôn neu fel arall), a
(ii)cyfeiriad at wneud datganiad mewn dogfen;
(b)mae cyfeiriad at ddychwelyd ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygio ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth ddiwygiedig;
(c)mae cyfeiriad at golled yn cynnwys cyfeiriad at dâl, traul, diffyg ac unrhyw swm arall a all fod ar gael ar gyfer didyniad neu [F1ryddhad], neu y gellir dibynnu arno er mwyn hawlio didyniad neu [F1ryddhad];
(d)mae cyfeiriad at weithred yn cynnwys cyfeiriad at anweithred.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 142(c) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 52; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 142 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3