Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

144Esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os yw person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F1, 38A] neu 69 yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gosb o dan adran 143 mewn perthynas â’r methiant.

(2)At ddibenion is-adran (1)—

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 144 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3