Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

145Asesu cosbau o dan adran 143LL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 [F1, 38A] neu 69.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 145 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3