Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1158Llog taliadau hwyr: atodolLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 157 [F2, 157A a 157B].

(2)Nid yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr.

(3)Caiff dyddiad dechrau llog taliadau hwyr fod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn ystyr adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(4)Mae’r dyddiad talu, mewn perthynas â swm, yn cynnwys y dyddiad y caiff y swm ei osod yn erbyn swm sy’n daladwy gan ACC.

(5)Mae i “cyfradd llog taliadau hwyr” yr ystyr a roddir gan adran 163(1).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 158 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

I2A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)