[181BCeisiadau i ohirioLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—
(a)yn rhoi hysbysiad am gais i adolygu penderfyniad apeliadwy, neu
(b)yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad o’r fath.
(2)Os yw’r person yn credu bod swm gormodol o dreth ddatganoledig wedi ei godi ar y person o ganlyniad i’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i ACC ohirio adennill y swm o dreth ddatganoledig y mae’r person yn credu ei fod yn ormodol (a llog ar y swm hwnnw) (“cais i ohirio”).
(3)Rhaid i gais i ohirio bennu—
(a)y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, ...
(b)y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais yn credu bod y swm yn ormodol [, ac
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.]
(4)Os yw ACC
[(a)]yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, [ a
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,]
caiff ACC ganiatáu’r cais i ohirio.
(5)Os yw ACC
[(a)]yn credu mai dim ond mewn perthynas â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, [neu
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.]
(6)Caiff ACC gymeradwyo’r cais i ohirio (yn llwyr neu’n rhannol) yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol.
(7)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad o’i benderfyniad i’r person a wnaeth y cais i ohirio.]