Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

182Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêlLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.

(2)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw [F1dyddiad talu arferol y gosb] yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).

(3)Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) [F2, (6)] neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—

(a)nid yw [F3dyddiad talu arferol y gosb] yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a

(b)nid yw is-adran (3) yn gymwys.

(5)Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—

(a)unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu

(b)os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,

cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.

(6)Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

[F4(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—

(a)adran 154, neu

(b)adran 70 o DTGT.]