xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i bob unigolyn sy’n swyddog perthnasol wneud datganiad sy’n cydnabod y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd o dan adran 17.
(2)Rhaid gwneud datganiad—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penodi’r unigolyn, a
(b)mewn unrhyw ffurf a modd a bennir gan ACC.
(3)At ddibenion is-adran (2)(a)—
(a)nid yw adnewyddu penodiad cyfnod sefydlog i’w drin fel penodiad,
(b)mae unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(e) i’w drin fel pe bai wedi ei benodi pan fo’r unigolyn yn darparu’r gwasanaethau a grybwyllir yno gyntaf, ac
(c)os penodwyd unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(b), (d) neu (f) (neu os trinnir yr unigolyn fel pe bai wedi ei benodi) cyn dirprwyo’r swyddogaethau o dan sylw, mae’r unigolyn i’w drin fel pe bai’n ofynnol iddo wneud y datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dirprwyo’r swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 19 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2