xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Prif weithredwr ACC yw swyddog cyfrifo ACC.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifo, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid ACC, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.
(3)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan yr adran hon yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon ACC a’r Datganiad Treth;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid ACC;
(c)cyfrifoldebau am ddefnyddio adnoddau ACC yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i Weinidogion Cymru neu i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 33 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2