37Trosolwg o’r RhanLL+C
Mae’r Rhan hon yn ymwneud ag asesu trethi datganoledig ac mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)cadw cofnodion;
(b)ffurflenni treth;
(c)ymholiadau gan ACC i ffurflenni treth;
(d)dyfarniadau gan ACC ynghylch y dreth ddatganoledig sy’n ddyledus os na ddychwelir ffurflen dreth;
(e)asesiadau ACC o’r dreth ddatganoledig sy’n ddyledus [F1ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth];
(f)hawliadau am [F2ryddhad] rhag asesiad dwbl ac ar gyfer ad-dalu treth ddatganoledig;
(g)gwneud hawliadau.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 37(e) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 9
F2Gair yn a. 37(f) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 3; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(b)