45Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli trethLL+C
(1)Os yw ACC yn dod i’r casgliad, yn ystod y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo—
(a)bod y swm a nodir ar y ffurflen dreth fel swm y dreth ddatganoledig [F1sydd i’w godi] yn annigonol, a
(b)ei bod yn debygol, oni bai y diwygir y ffurflen ar unwaith, y bydd treth ddatganoledig yn cael ei cholli,
caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth er mwyn gwneud iawn am yr annigonolrwydd drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd.
[F2(1A)Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—
(a)bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a
(b)ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,
caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.]
(2)Os yw’r ymholiad yn un sydd wedi ei gyfyngu gan adran 44(2) i faterion sy’n deillio o ddiwygiad i’r ffurflen dreth,
[F3(a)]nid yw is-adran (1) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r annigonolrwydd i’r diwygiad [F4, a
(b)nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.]
(3)Os dyroddir hysbysiad o dan [F5neu (1A)], ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan 41.
(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y diwygiad.
(5)At ddibenion yr adran hon ac [F6adrannau 45A a 46] y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo yw’r cyfnod cyfan—
(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth, a
(b)sy’n dod i ben â’r diwrnod y cwblheir yr ymholiad (gweler adran 50).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 45(1)(a) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 13(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F2A. 45(1A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 11(2)
F3Geiriau yn a. 45(2)(a) in a. 45(2) wedi ei ailrifo fel a. 45(2)(a) (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 11(3)(a)
F4A. 45(2)(b) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 11(3)(b)
F5Geiriau yn a. 45(3) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 11(4)
F6Geiriau yn a. 45(5) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 13(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 45 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3