Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

52Dyfarniad o’r dreth sydd i’w chodi os na ddychwelir ffurflen drethLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi ar berson,

(b)pan na fo’r person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi, ac

(c)pan fo’r dyddiad ffeilio perthnasol wedi mynd heibio.

(2)Ystyr “y dyddiad ffeilio perthnasol” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu yr oedd yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth.

(3)Caiff ACC wneud dyfarniad (“dyfarniad ACC”) ynghylch swm y dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar y person, ym marn ACC.

(4)Rhaid dyroddi hysbysiad am y dyfarniad i’r person.

(5)Rhaid i’r person dalu’r dreth ddatganoledig sy’n daladwy [F1yn unol â dyfarniad] ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y dyfarniad.

(6)Ni chaniateir gwneud dyfarniad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol.

(7)Y dyddiad perthnasol yw—

(a)y dyddiad ffeilio perthnasol, neu

(b)unrhyw ddyddiad arall y caiff Gweinidogion Cymru ei ragnodi drwy reoliadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 52 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3