Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

55Asesiad i adennill ad-daliad treth gormodolLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os ad-dalwyd swm o dreth ddatganoledig i berson, ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu iddo, caniateir asesu ac adennill y swm hwnnw fel pe bai’n dreth ddatganoledig nas talwyd.

(2)Os gwnaed yr ad-daliad gyda llog, caiff y swm a asesir ac a adenillir gynnwys swm y llog na ddylid bod wedi ei dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 55 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3