71Hawlydd yn diwygio hawliadLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 [F1, 63 neu 63A] ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.
(2)Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—
(a)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu
(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—
(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a
(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.