95Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaethLL+C
(1)Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo gydymffurfio â’r hysbysiad—
(a)o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad [F1(neu unrhyw gyfnod hwy y bydd ACC a’r person yn cytuno arno)], a
(b)mewn unrhyw fodd a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad.
(2)Ond os yw’r person wedi gofyn am adolygu’r hysbysiad neu ofyniad ynddo, neu wedi apelio yn erbyn y naill neu’r llall, mae is-adran (1)(a) yn peidio â bod yn gymwys i’r hysbysiad neu’r gofyniad.
(3)Pan fo hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen, rhaid ei chyflwyno—
(a)mewn lle y mae’r person ac ACC yn cytuno arno, neu
(b)mewn lle a bennir gan ACC.
(4)Ni chaiff ACC bennu lle a ddefnyddir fel annedd yn unig at ddiben is-adran (3)(b).
(5)Nid yw cyflwyno dogfen yn unol â hysbysiad gwybodaeth i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 95(1)(a) wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 36; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(i)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 95 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)