98Amddiffyniad ar gyfer deunydd newyddiadurolLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno deunydd newyddiadurol.
(2)Ystyr “deunydd newyddiadurol” yw gwybodaeth neu ddogfen—
(a)sydd ym meddiant rhywun a’i creodd, neu y daeth i’w feddiant, at ddibenion newyddiaduraeth, neu
(b)sydd ym meddiant rhywun a’i derbyniodd gan berson arall a fwriadai i’r derbynnydd ei ddefnyddio at ddibenion newyddiaduraeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 98 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)