- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(1)Mae’r Ddeddf hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
(a)mae Rhan 2 yn darparu bod treth i’w chodi ar drafodiadau tir (“treth trafodiadau tir”) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y prif gysyniadau sy’n sail i’r dreth gan gynnwys—
(i)pa drafodiadau sy’n drafodiadau tir,
(ii)yr hyn sy’n fuddiant trethadwy, a’r hyn nad yw’n fuddiant trethadwy,
(iii)pa bryd y caffaelir buddiant trethadwy a thrin trafodiadau sy’n cynnwys contractau y mae’n ofynnol eu cwblhau drwy drosglwyddiad, yn ogystal â thrin mathau eraill o drafodiadau,
(iv)pa drafodiadau tir y mae’r dreth i’w chodi arnynt (“trafodiadau trethadwy”) a pha rai nad yw’r dreth i’w chodi arnynt, a
(v)yr hyn sy’n gydnabyddiaeth drethadwy, a’r hyn nad yw’n gydnabyddiaeth drethadwy, mewn perthynas â thrafodiad trethadwy,
(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(i)bandiau treth a chyfraddau treth,
(ii)sut i gyfrifo swm y dreth sydd i’w godi, a
(iii)y rhyddhadau sydd ar gael rhag treth trafodiadau tir,
(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon i lesoedd,
(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) i bersonau a chyrff penodol, gan gynnwys cwmnïau, partneriaethau ac ymddiriedolaethau,
(e)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurflenni treth a thalu’r dreth gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(i)pa bryd y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad tir,
(ii)y personau y mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth, a
(iii)pa bryd y mae’n ofynnol talu’r dreth (gan gynnwys darpariaeth ynghylch pa bryd y caniateir gohirio taliad),
(f)mae Rhan 7 yn mewnosod yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) ddarpariaethau sy’n sefydlu rheol gyffredinol at ddibenion gwrthweithio trefniadau osgoi trethi datganoledig, ac
(g)mae Rhan 8 yn darparu diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) ac yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon, gan gynnwys diffiniadau o ymadroddion a ddefnyddir yn y Ddeddf hon.
(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys trosolwg o Atodlenni y Ddeddf hon.
(1)Mae treth (o’r enw “treth trafodiadau tir”) i’w chodi ar drafodiadau tir.
(2)Caiff y dreth ei chodi—
(a)pa un a oes offeryn yn rhoi effaith i’r trafodiad ai peidio,
(b)os oes offeryn o’r fath, ni waeth ym mha le y caiff ei gyflawni, ac
(c)ni waeth ym mha le y mae unrhyw barti i’r trafodiad nac ym mha le y mae’n preswylio.
(3)Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sydd i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “trafodiad tir” yw caffael buddiant trethadwy.
(2)Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae’r Ddeddf hon yn gymwys ni waeth ym mha ffordd y rhoddir effaith i’r caffaeliad, boed drwy weithred gan y partïon, drwy orchymyn llys neu awdurdod arall, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu yn sgil gweithredu’r gyfraith.
(3)Gweler adran 15 ynghylch pa bryd y mae caffael opsiwn neu hawl rhagbrynu yn drafodiad tir.
(1)Buddiant trethadwy yw—
(a)ystad, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir yng Nghymru, neu
(b)budd rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystad, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath,
ac eithrio buddiant esempt.
(2)Yn y Ddeddf hon, nid yw “tir yng Nghymru” yn cynnwys tir islaw marc cymedrig y distyll.
(3)Gweler adran 9 ynghylch tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.
(1)Mae’r canlynol yn fuddiannau esempt—
(a)buddiant sicrhad;
(b)trwydded i ddefnyddio tir neu i feddiannu tir;
(c)tenantiaeth wrth ewyllys;
(d)rhyddfraint neu faenor.
(2)Yn is-adran (1)—
(a)ystyr “buddiant sicrhad” yw buddiant neu hawl (ar wahân i rent-dal) a ddelir at ddiben sicrhau y telir arian neu y caiff unrhyw rwymedigaeth arall ei chyflawni;
(b)ystyr “rhyddfraint” yw grant gan y Goron megis yr hawl i gynnal marchnad neu ffair, neu’r hawl i gymryd tollau.
(3)Gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 10 (sy’n gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch buddiannau esempt mewn perthynas â threfniadau ariannol eraill).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—
(a)darparu bod unrhyw ddisgrifiad arall o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt;
(b)darparu nad yw disgrifiad o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt mwyach;
(c)amrywio disgrifiad o fuddiant esempt.
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae pob un o’r canlynol yn achos o gaffael ac o waredu buddiant trethadwy—
(a)creu’r buddiant;
(b)ildio neu ollwng y buddiant;
(c)amrywio’r buddiant.
(2)Ond nid yw amrywio les yn achos o gaffael a gwaredu buddiant trethadwy oni bai—
(a)ei fod yn cael effaith, neu’n cael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel rhoi les newydd, neu
(b)bod paragraff 24 o Atodlen 6 (gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall) yn gymwys.
(3)Mae person yn caffael buddiant trethadwy pan fo—
(a)y person yn dod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei greu,
(b)ildio neu ollwng y buddiant o fudd i fuddiant neu i hawl y person neu’n cynyddu’r buddiant neu’r hawl, neu
(c)y person yn cael budd o amrywio’r buddiant.
(4)Mae person yn gwaredu buddiant trethadwy pan fo—
(a)buddiant neu hawl y person yn dod yn ddarostyngedig i’r buddiant pan gaiff ei greu,
(b)y person yn peidio â bod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei ildio neu ei ollwng, neu
(c)buddiant neu hawl y person yn ddarostyngedig i amrywio’r buddiant neu wedi ei gyfyngu gan hynny.
(5)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 10(4) (cyflawni’n sylweddol heb gwblhau), adran 11(3) (cyflawni’n sylweddol gontract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) a pharagraffau 20 a 24 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les a gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall).
(1)Y prynwr mewn trafodiad tir yw’r person sy’n caffael testun y trafodiad.
(2)Y gwerthwr mewn trafodiad tir yw’r person sy’n gwaredu testun y trafodiad.
(3)Mae’r ymadroddion hyn yn gymwys hyd yn oed os na roddir cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad.
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn drafodiad cysylltiol os yw’n un o nifer o drafodiadau tir sy’n ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un gwerthwr a phrynwr neu, yn y naill achos neu’r llall, bersonau sy’n gysylltiedig â hwy.
(2)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 16 (cyfnewidiadau; gweler yn benodol is-adran (1) o’r adran honno sy’n darparu nad yw trafodiadau sy’n ffurfio cyfnewidiad i’w trin fel trafodiadau cysylltiol).
(1)Mae’r adran hon yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i drafodiad sy’n achos o gaffael—
(a)ystad, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir, neu
(b)budd rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystad, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath,
pan fo’r tir yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.
(2)Mae’r trafodiad i’w drin fel pe bai’n ddau drafodiad, y naill yn ymwneud â’r tir yng Nghymru (“y trafodiad yng Nghymru”) a’r llall yn ymwneud â’r tir yn Lloegr (“y trafodiad yn Lloegr”).
(3)Mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad i’w ddosrannu rhwng y ddau drafodiad hynny ar sail deg a rhesymol.
(4)Felly, mae’r trafodiad yng Nghymru i’w drin fel trafodiad tir o fewn ystyr y Ddeddf hon (sef caffael buddiant trethadwy sy’n ymwneud â’r tir yng Nghymru).
(5)Ond nid yw is-adran (4) yn gymwys yn achos buddiant esempt.
(6)Rhaid i ACC gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt, gan gynnwys canllawiau ynghylch nodi lleoliad y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
(7)Caiff ACC ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (6) a rhaid iddo gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.
(8)Gweler adran 48A o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) o ran cymhwyso Rhan 4 o’r Ddeddf honno (treth dir y dreth stamp) i’r trafodiad yn Lloegr.
(9)Yn adran 48A o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(6)See section 9 of the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017 (dccc 0) as to the application of that Act to the transaction relating to the land in Wales.”
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract ar gyfer trafodiad tir a bod y trafodiad oddi tano i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.
(2)Nid ystyrir bod person yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract (ond gweler is-adran (4)).
(3)Os cwblheir y trafodiad heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol—
(a)caiff y contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau eu trin fel rhannau o un trafodiad tir, a
(b)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad cwblhau.
(4)Ond os yw’r contract wedi ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—
(a)caiff y contract ei drin fel pe bai’r contract y trafodiad y darperir ar ei gyfer yn y contract, a
(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.
(5)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei gwblhau wedi hynny drwy drosglwyddiad—
(a)mae’r contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau ill dau yn drafodiadau hysbysadwy at ddibenion y Ddeddf hon, a
(b)mae treth i’w chodi ar yr ail drafodiad i’r graddau (os o gwbl) y mae’r swm a grybwyllir yn is-adran (6) yn fwy na swm y dreth sydd i’w godi ar y contract.
(6)Y swm yw’r dreth y byddid wedi ei chodi ar yr ail drafodiad pe bai wedi ei gwblhau heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol.
(7)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau) wedi hynny, neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).
(8)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.
(9)Pan fo paragraff 20 o Atodlen 6 yn gymwys (cytundeb ar gyfer les), mae’n gymwys yn lle is-adrannau (4) i (8).
(10)Yn yr adran hon—
(a)mae cyfeiriadau at gwblhau yn gyfeiriadau at gwblhau’r trafodiad tir y bwriedir ei wneud, rhwng yr un partïon, ac sy’n cydymffurfio’n sylweddol â’r contract;
(b)mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—
(a)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu
(b)naill ai i berson o’r fath neu i P2.
(2)Nid ystyrir bod P2 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract.
(3)Ond os caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—
(a)caiff P2 ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n caffael buddiant trethadwy, ac felly fel pe bai’n ymrwymo i drafodiad tir, a
(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.
(4)Pan fo is-adran (3) yn gymwys a bod y contract wedi hynny yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau), neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).
(5)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn perthynas â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.
(6)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), nid yw adran 10 (contract a throsglwyddo) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.
(7)Pan fo—
(a)yr adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b), a
(b)P1 yn dod yn rhwym i drosglwyddo buddiant trethadwy i P2 oherwydd cyfarwyddyd neu gais gan P2,
mae adran 10 yn gymwys i’r rhwymedigaeth honno fel y mae’n gymwys i gontract ar gyfer trafodiad tir sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.
(8)Mae adran 10 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gontract rhwng P2 a P3, mewn cysylltiad â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato yn is-adran (1), sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.
(9)Mae cyfeiriadau at gwblhau yn yr adran honno, fel y mae’n gymwys, yn cynnwys cyfeiriadau at drosglwyddo, gan P1 i P3, destun y contract rhwng P2 a P3.
(10)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan ymrwymir i gontract (“y contract gwreiddiol”) y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—
(i)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu
(ii)naill ai i berson o’r fath neu i P2, a
(b)pan fo aseiniad neu drafodiad arall (sy’n ymwneud â holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono) y daw person (“P4”) i fod â hawl i arfer unrhyw un neu ragor o hawliau P2 o dan y contract gwreiddiol yn lle P2 o ganlyniad iddo.
(2)Mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon at drosglwyddiad hawliau yn gyfeiriadau at unrhyw aseiniad neu drafodiad arall o’r fath.
(3)Nid ystyrir bod P4 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trosglwyddiad hawliau, ond mae adran 11 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) yn cael effaith yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.
(4)Mae’r adran honno yn gymwys fel pe bai—
(a)P4 wedi ymrwymo i gontract (“contract eilaidd”) ar yr un telerau â’r contract gwreiddiol ac eithrio bod P4 yn barti yn lle P2, a
(b)y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus gan P4 o dan y contract eilaidd—
(i)yn hynny o’r gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol ag y bo i’w briodoli i destun y trosglwyddiad hawliau ac sydd i’w roi (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan P4 neu gan berson sy’n gysylltiedig â P4, a
(ii)yw’r gydnabyddiaeth a roddir am y trosglwyddiad hawliau.
(5)Mae cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol i’w ddiystyru os yw’n digwydd—
(a)ar yr un pryd â chyflawni’r contract eilaidd yn sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu
(b)ar ôl y trosglwyddiad hawliau.
(6)Pan drosglwyddir hawliau yn olynol, mae is-adran (4) yn cael effaith mewn perthynas â phob trosglwyddiad.
(7)Os caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau cynharach ei gyflawni’n sylweddol, mae hynny i’w ddiystyru os yw’n digwydd—
(a)ar yr un pryd ag y caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau dilynol ei gyflawni’n sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu
(b)ar ôl y trosglwyddiad dilynol hwnnw.
(8)Pan fo trosglwyddiad hawliau yn ymwneud â rhan yn unig o destun y contract gwreiddiol, neu â rhai yn unig o’r hawliau o dan y contract hwnnw—
(a)mae cyfeiriad yn is-adran (4)(a) neu (5) at y contract gwreiddiol, neu gyfeiriad yn is-adran (7) at y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad cynharach, yn gyfeiriad at y contract hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, a
(b)mae’r contract hwnnw, i’r graddau nad yw’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, i’w drin fel contract ar wahân.
(9)Os caiff trafodiad tir ei drin fel pe ymrwymwyd iddo yn rhinwedd is-adran (4), nid yw’r dyddiad y mae’n cael effaith yn gynharach na dyddiad y trosglwyddiad hawliau.
(10)Mewn perthynas â thrafodiad o’r fath—
(a)mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’w darllen fel cyfeiriadau at P1;
(b)mae cyfeiriadau eraill at y gwerthwr yn y Ddeddf hon i’w darllen, pan fo’r cyd-destun yn caniatáu hynny, fel cyfeiriadau at naill ai P1 neu P2.
(11)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb.
Mae Atodlen 2 yn gwneud—
(a)darpariaeth ynghylch cymhwyso adran 10 (contract a throsglwyddo) mewn achosion penodol pan ymrwymir i aseinio hawliau, is-werthiant neu drafodiad arall heb i’r contract fod wedi ei gwblhau, a
(b)darpariaeth arall ynghylch achosion o’r fath.
(1)Mae contract wedi ei gyflawni’n sylweddol at ddibenion y Ddeddf hon pan fo—
(a)y prynwr, neu berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yn cymryd meddiant o holl destun y contract, neu’r holl destun i raddau helaeth, neu
(b)cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth yn cael ei thalu neu ei darparu.
(2)At ddibenion is-adran (1)(a)—
(a)mae meddiant yn cynnwys cael rhenti ac elw neu’r hawl i’w cael, a
(b)nid oes wahaniaeth pa un a gymerir meddiant o dan y contract neu o dan drwydded neu les dros dro neu denantiaeth wrth ewyllys.
(3)At ddibenion is-adran (1)(b), caiff cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth ei thalu neu ei darparu—
(a)os nad yw dim o’r gydnabyddiaeth yn rhent, pan delir neu pan ddarperir yr holl gydnabyddiaeth, neu’r holl gydnabyddiaeth i raddau helaeth;
(b)os rhent yw’r unig gydnabyddiaeth, pan wneir y taliad rhent cyntaf;
(c)os yw’r gydnabyddiaeth yn cynnwys rhent yn ogystal â chydnabyddiaeth arall, pan ddigwydd y cyntaf o’r canlynol—
(i)caiff yr holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent, neu’r holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent i raddau helaeth, ei thalu neu ei darparu, neu
(ii)gwneir y taliad rhent cyntaf.
(1)Mae caffael—
(a)opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir, neu
(b)hawl rhagbrynu sy’n rhwystro’r grantwr rhag ymrwymo i drafodiad tir, neu’n cyfyngu ar hawl y grantwr i ymrwymo iddo,
yn drafodiad tir gwahanol i unrhyw drafodiad tir sy’n deillio o arfer yr opsiwn neu’r hawl.
(2)Gallant fod yn “trafodiadau cysylltiol” (gweler adran 8).
(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir yn cynnwys opsiwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r grantwr naill ai ymrwymo i drafodiad tir neu gyflawni ei rwymedigaethau o dan yr opsiwn mewn ffordd arall.
(4)Y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yn achos caffael opsiwn neu hawl fel y rheini a grybwyllir yn is-adran (1) yw pan gaffaelir yr opsiwn neu’r hawl (yn hytrach na phan ddaw’n arferadwy).
(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys i hynny o opsiwn neu hawl rhagbrynu sy’n drafodiad tir neu’n ffurfio rhan o drafodiad tir ar wahân i’r adran hon.
(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achos sydd o fewn is-adran (2) mewn perthynas â phob trafodiad a ddisgrifir yn yr is-adran honno fel pe bai pob un yn wahanol i’w gilydd ac ar wahân i’w gilydd (ac nid ydynt yn drafodiadau cysylltiol o fewn ystyr adran 8).
(2)Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fo person (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr.
(3)Caiff trafodiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un y mae person wedi ymrwymo iddo fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr mewn achos sydd o fewn is-adran (4).
(4)Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fodlonir rhwymedigaeth i roi cydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir y mae person yn ymrwymo iddo fel prynwr yn llwyr neu’n rhannol wrth i’r person hwnnw ymrwymo i drafodiad arall fel gwerthwr.
(5)O ran y swm o’r gydnabyddiaeth drethadwy yn achos cyfnewidiadau a thrafodiadau tebyg, gweler—
(a)paragraffau 5 a 6 o Atodlen 4 (cyfnewidiadau, darnddosbarthu etc.);
(b)paragraff 18 o’r Atodlen honno (trefniadau sy’n cynnwys cyrff cyhoeddus neu gyrff addysgol).
Mae trafodiad tir yn drafodiad trethadwy oni bai—
(a)ei fod yn drafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, neu
(b)ei fod yn drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd darpariaeth a restrir yn adran 30(2) ac yr hawlir rhyddhad rhag treth ar ei gyfer.
(1)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth o ran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag—
(a)yr hyn sydd i gyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu
(b)pennu swm y gydnabyddiaeth drethadwy.
(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ddibynnol, mae swm neu werth y gydnabyddiaeth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar y rhagdybiaeth y bydd canlyniad y digwyddiad dibynnol yn golygu bod y gydnabyddiaeth yn daladwy neu, yn ôl y digwydd, nad yw’n peidio â bod yn daladwy.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “dibynnol”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw—
(a)nad yw i’w thalu neu i’w darparu oni cheir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol, neu
(b)y peidir â’i thalu neu ei darparu os ceir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol.
(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ansicr neu heb ei chanfod, mae ei swm neu ei gwerth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar sail amcangyfrif rhesymol.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “ansicr”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw bod ei swm neu ei gwerth yn dibynnu ar ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir sydd ar ffurf blwydd-dal sy’n daladwy—
(a)am oes,
(b)am byth,
(c)am gyfnod amhenodol, neu
(d)am gyfnod penodol sy’n hwy na 12 mlynedd.
(2)Mae’r gydnabyddiaeth sydd i’w hystyried wedi ei chyfyngu i 12 mlynedd o daliadau blynyddol.
(3)Pan fo’r swm sy’n daladwy yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, neu os gall amrywio felly, y 12 taliad blynyddol uchaf sydd i’w hystyried.
(4)Rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu’r swm sy’n daladwy yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.
(5)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at daliadau blynyddol yn gyfeiriadau at daliadau mewn cysylltiad â phob cyfnod olynol o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
(6)At ddibenion yr adran hon, mae swm neu werth unrhyw daliad i’w bennu (os oes angen) yn unol ag adran 19 (cydnabyddiaeth ddibynnol) neu 20 (cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod).
(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at flwydd-dal yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth (ar wahân i rent) sydd i’w thalu neu i’w darparu’n gyfnodol; ac mae cyfeiriadau at daliad i’w darllen yn unol â hynny.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r prynwr yn gwmni ac—
(a)y gwerthwr yn gysylltiedig â’r prynwr, neu
(b)rhywfaint o’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, neu’r holl gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, ar ffurf dyroddi neu drosglwyddo cyfranddaliadau mewn cwmni y mae’r gwerthwr yn gysylltiedig ag ef.
(2)Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw—
(a)y swm a bennir o dan is-adran (3) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu
(b)os yw’n fwy na hynny, y swm a fyddai wedi bod yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad o anwybyddu’r adran hon.
(3)Y swm a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw—
(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a
(b)os rhoi les ar rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw.
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “cwmni” (“company”) yw unrhyw gorff corfforaethol;
mae “cyfranddaliadau” (“shares”) yn cynnwys stoc ac mae’r cyfeiriad at gyfranddaliadau mewn cwmni yn cynnwys cyfeiriad at warannau a ddyroddir gan gwmni.
(5)Pan fo’r adran hon yn gymwys nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptio trafodiadau nad oes cydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys.
(6)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—
(a)yr eithriadau a ddarperir yn adran 23, a
(b)unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.
(1)Nid yw adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig) yn gymwys yn yr achosion a ganlyn.
(2)Achos 1 yw pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr yng nghwrs busnes a gyflawnir ganddo sydd ar ffurf rheoli ymddiriedolaethau neu’n cynnwys hynny.
(3)Achos 2 yw—
(a)pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr, a
(b)pan fo’r gwerthwr yn gysylltiedig â’r cwmni oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn unig.
(4)Achos 3 yw—
(a)pan fo’r gwerthwr yn gwmni a’r trafodiad yn ddosbarthu asedau’r cwmni hwnnw (boed mewn cysylltiad â’i ddirwyn i ben ai peidio), neu’n rhan o hynny, a
(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, nad yw trafodiad yr hawliodd y gwerthwr ryddhad grŵp o dan Atodlen 16 ar ei gyfer wedi ymwneud ag—
(i)testun y trafodiad, neu
(ii)buddiant y mae’r buddiant hwnnw yn deillio ohono.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “y cwmni” yw’r cwmni sy’n brynwr mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu drwy reoliadau y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys yn achos y mathau o drafodiadau trethadwy a ganlyn—
(a)trafodiadau eiddo preswyl,
(b)trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, ac
(c)trafodiadau eiddo amhreswyl.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “band treth” yw swm isaf a swm uchaf (os pennir swm uchaf) o arian y mae cyfradd dreth ganrannol benodedig yn gymwys ohono neu, yn ôl y digwydd, rhyngddynt.
(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1)(a) ac (c) bennu, yn achos pob math o drafodiad—
(a)band treth y mae cyfradd dreth o 0% yn gymwys iddo (“y band cyfradd sero”),
(b)dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero,
(c)y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a
(d)dyddiad pan fo’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.
(4)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1)(b) bennu—
(a)tri band treth neu ragor,
(b)cyfradd dreth gymwys ar gyfer pob band—
(i)y mae’n rhaid iddi, mewn cysylltiad ag unrhyw drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, fod yn uwch na’r gyfradd uchaf a fyddai’n gymwys i unrhyw swm o fewn y band hwnnw pe bai’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl, a
(ii)sydd, ac eithrio yn achos y band isaf, yn uwch na’r gyfradd sy’n gymwys i’r band oddi tano, ac
(c)dyddiad pan fo’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.
(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—
(a)bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o bob math o drafodiad trethadwy (gan gynnwys drwy gyfeirio at ddisgrifiadau gwahanol o brynwr);
(b)dyddiadau gwahanol o dan is-adran (3)(d) neu (4)(c) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.
(6)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl—
(a)os prif destun y trafodiad yw buddiant mewn tir sy’n eiddo preswyl, a hynny’n unig, neu
(b)pan fo’r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os prif destun pob trafodiad yw buddiant o’r fath, a hynny’n unig.
(7)Ond os yw Atodlen 5 yn gymwys i drafodiad trethadwy mae’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
(8)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo amhreswyl—
(a)os prif destun y trafodiad yw buddiant mewn tir nad yw’n eiddo preswyl, neu os yw’n cynnwys buddiant o’r fath, neu
(b)pan fo’r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os prif destun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau yw buddiant o’r fath, neu os yw neu os ydynt yn cynnwys buddiant o’r fath.
(9)Nid yw bandiau treth a chyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy i’r graddau y bo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad ar ffurf rhent (gweler paragraffau 27 a 28 o Atodlen 6 am ddarpariaeth ynghylch y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent).
(10)Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.
(11)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 5 drwy reoliadau.
(1)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—
(a)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 24(1),
(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6 (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd preswyl), neu
(c)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg),
oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(2)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys—
(a)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan adran 24(1),
(b)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6, neu
(c)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno,
gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(3)Ond—
(a)os yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (2) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a
(b)os na chaiff y cynnig ei basio,
mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y bleidlais.
(4)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo’r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)wedi ei ddiddymu, neu
(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
(1)Yn yr adran hon—
(a)ystyr “rheoliadau a wrthodir” yw rheoliadau sy’n peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25;
(b)ystyr “y cyfnod interim” yw’r cyfnod—
(i)sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir gan reoliadau a wrthodir fel y dyddiad y mae bandiau treth a chyfraddau treth penodedig yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy, a
(ii)sy’n dod i ben pan fydd y rheoliadau hynny yn peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), os yw’r dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a bennir gan y rheoliadau a wrthodir fel y rhai sy’n gymwys i’r trafodiad.
(3)Os yw—
(a)y dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, a
(b)is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys,
y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a fyddai wedi bod yn gymwys pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol i’r prynwr, yn rhinwedd adran 44, ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, a’i fod yn methu â gwneud hynny, a
(b)pan fo’r prynwr hefyd yn methu â dychwelyd y ffurflen dreth ar y dyddiad y mae’r cyfnod interim yn dod i ben neu cyn hynny.
(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ffurflen dreth gyntaf sy’n ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad trethadwy yn ofynnol o dan un o’r darpariaethau a ganlyn—
(a)adran 47 (dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth pan fo digwyddiad dibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod);
(b)adran 51 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach);
(c)paragraff 3(4) neu 5(5) o Atodlen 6 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i barhad les);
(d)paragraff 13(1) o’r Atodlen honno (dychwelyd ffurflen dreth yn achos tandaliad treth pan bennir rhent wrth ailystyried).
(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo—
(a)y prynwr yn y trafodiad yn gwneud hawliad o dan adran 63A o DCRhT,
(b)yn rhinwedd is-adran (5) o’r adran honno, yr asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gynhwysir mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ddiwygio, ac
(c)ffurflen dreth bellach yn ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad o dan—
(i)darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (5) o’r adran hon,
(ii)adran 49 (dychwelyd ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôl), neu
(iii)paragraff 24 o Atodlen 5 (dychwelyd ffurflen dreth pan fo trafodiad yn cael ei drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch).
(7)Ond nid yw is-adran (6) yn effeithio ar ffurflen dreth a ddychwelir cyn i’r hawliad gael ei wneud o dan adran 63A o DCRhT.
(8)Mae adran 63A o DCRhT yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawlio rhyddhad mewn achosion pan fo is-adran (2) yn gymwys os yw swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.
(1)Mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â thrafodiad trethadwy nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol (gweler adran 28 ynglŷn â hynny) i’w gyfrifo fel a ganlyn.
Cam 1
Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r trafodiad, lluosi hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd o fewn y band â’r gyfradd dreth ganrannol ar gyfer y band hwnnw.
Cam 2
Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 1.
Y canlyniad yw swm y dreth sydd i’w godi.
(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo unrhyw swm o dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad trethadwy neu ran ohoni ar ffurf rhent; gweler yn lle hynny—
(a)yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw sy’n gwneud darpariaeth ynglŷn â’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd preswyl;
(b)yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 29 o’r Atodlen honno sy’n darparu ar gyfer cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg.
(1)Pan fo trafodiad trethadwy yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad i’w bennu fel a ganlyn.
Cam 1
Cyfrifo’r dreth a fyddai i’w chodi yn unol ag adran 27(1), pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yr holl gydnabyddiaeth.
Cam 2
Rhannu’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad â’r holl gydnabyddiaeth.
Cam 3
Lluosi’r swm sy’n deillio o Gam 1 â’r ffracsiwn sy’n deillio o Gam 2.
Y canlyniad yw’r swm o dreth sydd i’w godi.
(2)Yn is-adran (1), yr “holl gydnabyddiaeth” yw cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol (heb gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent).
(3)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad cysylltiol, neu ran ohoni, ar ffurf rhent nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm unrhyw dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r rhent; gweler yn lle hynny—
(a)yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw, a
(b)yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 30 o’r Atodlen honno (cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiol).
Mae adrannau 27 a 28 yn ddarostyngedig i—
(a)Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);
(b)paragraff 10 o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);
(c)Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);
(d)paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).
(1)Mae’r Atodlenni a ganlyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau a darpariaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhyddhadau hynny—
Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);
Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall);
Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall);
Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);
Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);
Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau);
Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol);
Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);
Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael);
Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);
Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);
Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);
Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);
Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).
(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer trafodiadau tir penodol (ac felly os hawlir rhyddhad nid yw trafodiadau o’r fath yn drafodiadau trethadwy)—
paragraffau 18(2) a 19(2) o Atodlen 2 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau tybiannol y mae cyswllt rhyngddynt ag aseinio hawliau a rhyddhad ar gyfer iswerthiannau penodol);
paragraff 1 o Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);
paragraffau 2 a 3 o Atodlen 10 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau cyllid eiddo arall penodol);
paragraffau 13(1) a 15(1) o Atodlen 11 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â bondiau buddsoddi cyllid arall);
paragraff 1 o Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);
paragraffau 2(1), 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 7(1) o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau anheddau penodol);
paragraff 4 o Atodlen 15 (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer rifersiynau penodol);
paragraff 6(2) o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);
paragraff 13 o’r Atodlen honno (rhyddhad ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo ar derfyniad);
paragraff 14 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);
paragraff 19(1) o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan ddarparwyr tai cymdeithasol);
paragraff 2(1) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);
paragraff 2(1) o Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi);
paragraffau 3(1) a 5 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);
paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);
paragraffau 1(1) a 2 o Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);
paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);
Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).
(3)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad i drafodiadau trethadwy penodol yn y modd a bennir yn y ddarpariaeth berthnasol—
paragraff 19(3) o Atodlen 2 (rhyddhad rhannol ar gyfer iswerthiannau penodol);
Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);
paragraffau 2(3), 3(4), 4(4), 5(3), 6(4) a 7(3) o Atodlen 14 (rhyddhad rhannol ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau sy’n fwy na’r arwynebedd a ganiateir);
paragraff 10 o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);
paragraff 2 o Atodlen 15 (rhyddhad sy’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ddibynnol yn achos trafodiad hawl i brynu);
paragraff 3 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);
paragraff 5 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth pan ganiateir cynyddu perchentyaeth: dewis i’r gydnabyddiaeth fod yn seiliedig ar werth ar y farchnad agored);
paragraff 12 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);
Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);
paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).
(4)Rhaid hawlio unrhyw ryddhad o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) (ac eithrio rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22 (rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol)) ar y ffurflen dreth gyntaf a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno.
(5)Mewn perthynas â rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22—
(a)gellir ei hawlio ar y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno, neu
(b)os na chaiff ei hawlio ar y ffurflen dreth neu’r ffurflen dreth ddiwygiedig a bod y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth wedi dod i ben, gellir ei hawlio drwy hawlio ad-daliad am unrhyw swm o dreth a ordalwyd (gweler Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT),
ac nid yw adran 78 o DCRhT (terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau) yn gymwys i hawliad am ryddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau er mwyn—
(a)ychwanegu rhyddhad;
(b)addasu rhyddhad;
(c)dileu rhyddhad;
(d)addasu adran 31.
(1)Nid yw rhyddhad ar gael o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 30 mewn cysylltiad â thrafodiad tir—
(a)sy’n drefniant osgoi trethi, neu
(b)sy’n rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.
(2)Mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi”—
(a)os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ymrwymo i’r trefniant, a
(b)os nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant ac eithrio cael mantais drethiannol.
(3)Yn yr adran hon—
ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—
rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,
ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,
osgoi neu leihau swm y codir treth arno, neu
gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth;
mae “trefniant” (“arrangement”) yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);
ystyr “treth” (“tax”) yw treth trafodiadau tir, treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth dir y dreth stamp, treth gadw y dreth stamp neu’r dreth stamp.
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “les” yw—
(a)buddiant neu hawl mewn tir neu dros dir am gyfnod o flynyddoedd (boed benodol neu gyfnodol), neu
(b)unrhyw fuddiant neu hawl arall mewn tir neu dros dir y gellir ei derfynu drwy roi cyfnod o rybudd neu hysbysiad ar unrhyw adeg (ac eithrio tenantiaeth wrth ewyllys, sy’n fuddiant esempt yn rhinwedd adran 5(1)(c)).
(2)Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch lesoedd.
(1)Yn y Ddeddf hon, mae “cwmni”, oni ddarperir fel arall, yn golygu unrhyw gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig, ond nid yw’n cynnwys partneriaeth.
(2)Mae popeth sydd i’w wneud gan gwmni o dan y Ddeddf hon, neu o dan DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir, i’w wneud gan y cwmni gan weithredu drwy—
(a)swyddog priodol y cwmni, neu
(b)person arall sydd ag awdurdod datganedig, ymhlyg neu ymddangosiadol y cwmni am y tro i weithredu ar ei ran at y diben.
(3)Nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys pan fo datodwr wedi ei benodi ar gyfer y cwmni.
(4)At ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir—
(a)swyddog priodol corff corfforaethol yw ysgrifennydd y corff, neu berson sy’n gweithredu fel ei ysgrifennydd, a
(b)swyddog priodol cymdeithas anghorfforedig, neu gorff corfforaethol nad oes ganddo swyddog priodol o fewn paragraff (a), yw trysorydd y gymdeithas neu’r corff, neu berson sy’n gweithredu fel trysorydd.
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os oes datodwr neu weinyddwr wedi ei benodi ar gyfer y cwmni.
(6)Os oes datodwr neu weinyddwr wedi ei benodi ar gyfer y cwmni yna—
(a)y datodwr neu’r gweinyddwr yw’r swyddog priodol, a
(b)os penodir dau berson neu ragor i weithredu ar y cyd neu’n gydamserol fel gweinyddwr y cwmni, y swyddog priodol—
(i)yw pa un bynnag ohonynt a bennir mewn hysbysiad a roddir i ACC gan y personau hynny at ddibenion yr adran hon, neu
(ii)pan na fo ACC wedi ei hysbysu felly, yw pa un neu ragor bynnag o’r personau hynny a ddynodir gan ACC fel y swyddog priodol at y dibenion hynny.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir, i gwmnïau neu ddisgrifiad o gwmni a bennir yn y rheoliadau.
(8)Caiff rheoliadau o dan is-adran (7) ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu DCRhT (ymysg pethau eraill).
(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (8)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun ymddiriedolaeth unedau fel pe bai—
(a)yr ymddiriedolwyr yn gwmni, a
(b)hawliau’r deiliaid unedau yn gyfranddaliadau yn y cwmni.
(2)Ystyrir pob rhan o gynllun ambarél yn gynllun ymddiriedolaeth unedau ar wahân ac nid yw’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.
(3)Yn yr adran hon ac adran 35, ystyr “cynllun ambarél” yw cynllun ymddiriedolaeth unedau—
(a)sy’n darparu trefniadau ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y mae taliadau i’w rhoi ar eu cyfer ohonynt, a
(b)y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.
(4)Ystyr “rhan” o gynllun ambarél yw’r trefniadau hynny sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.
(5)Yn y Ddeddf hon, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (6)—
mae i “cynllun ymddiriedolaeth unedau” yr un ystyr ag a roddir i “unit trust scheme” yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) (gweler adran 237 o’r Ddeddf honno), ac
ystyr “deiliad unedau” (“unit holder”) yw cyfranogwr mewn cynllun ymddiriedolaeth unedau.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun ymddiriedolaeth unedau at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.
(7)Mae adran 620 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (trin cronfeydd buddsoddi llys fel ymddiriedolaethau unedau awdurdodedig) yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at “authorised unit trust” yn gyfeiriadau at “unit trust scheme”.
(8)Nid yw cynllun ymddiriedolaeth unedau i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT yn cael effaith mewn perthynas ag—
(a)cwmnïau buddsoddi penagored o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a
(b)trafodiadau sy’n ymwneud â chwmnïau o’r fath,
mewn modd sy’n cyfateb, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, i’r modd y maent yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau ymddiriedolaeth unedau a thrafodiadau sy’n ymwneud â chynlluniau ymddiriedolaeth unedau o’r fath.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth, yn benodol—
(a)sy’n addasu’r modd y gweithredir unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas â chwmnïau buddsoddi penagored er mwyn sicrhau bod effaith trefniadau ar gyfer trin asedau cwmni o’r fath fel asedau mewn cronfeydd ar wahân yn cyfateb i effaith trefniadau cyfatebol ar gyfer rhannau ar wahân cynllun ambarél;
(b)sy’n trin rhannau ar wahân o ymgymeriad cwmni buddsoddi penagored y gwneir darpariaeth o’r fath yn ei gylch fel cwmnïau gwahanol at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.
(3)Yn yr adran hon, mae i “cwmni buddsoddi penagored” yr ystyr a roddir i “open-ended investment company” gan adran 236 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8).
(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (9)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel pe bai—
(a)y cynllun yn gwmni, a
(b)hawliau’r cyfranogwyr yn gyfranddaliadau yn y cwmni.
(2)Ystyr “CCAC ambarél” yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth—
(a)y mae ei drefniadau yn darparu ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y gwneir taliadau iddynt ohonynt (“trefniadau ar gyfer cronni”), a
(b)y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.
(3)Ystyr “is-gynllun”, mewn perthynas â CCAC ambarél, yw hynny o’r trefniadau ar gyfer cronni sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.
(4)Ystyrir pob un o is-gynlluniau CCAC ambarél yn gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth ar wahân, ac nid yw’r CCAC ambarél yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.
(5)Mewn perthynas ag is-gynllun CCAC ambarél—
(a)mae cyfeiriadau at fuddiannau trethadwy yn gyfeiriadau at hynny o’r buddiannau trethadwy sydd, o dan y trefniadau cronni, yn ffurfio rhan o’r gronfa ar wahân y mae’r is-gynllun yn ymwneud â hi, a
(b)mae cyfeiriadau at ddogfennau’r cynllun yn gyfeiriadau at y rhannau hynny o’r dogfennau sy’n gymwys i’r is-gynllun.
(6)Mae cyfeiriadau at gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys cynllun buddsoddi torfol—
(a)a gyfansoddir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig drwy gontract,
(b)a reolir gan gorff corfforaethol a gorfforir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE, ac
(c)a awdurdodir o dan gyfraith y Wladwriaeth AEE a grybwyllir ym mharagraff (a) mewn ffordd sy’n golygu ei fod, o dan y gyfraith honno, yn cyfateb i gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel y’i diffinnir yn is-adran (7),
ar yr amod, ar wahân i’r adran hon, na ellir codi unrhyw dreth ar y cynllun o dan y Ddeddf hon.
(7)Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (8)—
ystyr “cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth” (“co-ownership authorised contractual scheme”) yw cynllun cyfberchnogaeth a awdurdodir at ddibenion Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) drwy orchymyn awdurdodi sydd mewn grym o dan adran 261D(1) o’r Ddeddf honno;
mae i “cynllun cyfberchnogaeth” yr un ystyr ag a roddir i “co-ownership scheme” yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) (gweler adran 235A o’r Ddeddf honno).
(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.
(9)Nid yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).
(10)Mae unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr mewn trafodiad tir, neu mewn perthynas ag ef, i’w wneud gan weithredwr cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth, neu mewn perthynas ag ef; ac yn unol â hynny nid yw adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â chynllun y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
(11)Ond pan fo gweithredwr y cynllun yn gorff corfforaethol, mae adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr, ac mae’r cyfeiriadau at gwmni yn yr is-adrannau hynny yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y gweithredwr.
(12)Yn yr adran hon—
mae “cyfranogwr” i’w ddarllen yn unol â “participant” yn adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);
mae i “cynllun buddsoddi torfol” yr ystyr a roddir i “collective investment scheme” gan adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);
mewn perthynas â “gweithredwr” (“operator”)—
mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a gyfansoddir o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, mae i “gweithredwr” yr ystyr a roddir i “operator” gan adran 237(2) o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8), a
mewn perthynas â chynllun buddsoddi torfol a drinnir fel cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn rhinwedd is-adran (6) (cynlluniau cyfatebol yr AEE), ystyr “gweithredwr” yw’r corff corfforaethol sy’n gyfrifol am reoli’r cynllun (ym mha fodd bynnag y’i disgrifir).
(1)Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn gymwys i drafodiad tir pan fo dau brynwr neu ragor sydd neu a fydd â’r hawl ar y cyd i’r buddiant a gaffaelir.
(2)Y rheolau cyffredinol yw—
(a)mae unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad yn rhwymedigaeth ar ran y prynwyr ar y cyd ond caniateir i unrhyw un neu ragor ohonynt ei chyflawni,
(b)mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud gan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r prynwr gael ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd,
(c)mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’r Ddeddf hon neu DCRhT yn awdurdodi ei wneud gan y prynwr gael ei wneud ganddynt hwy i gyd, a
(d)mae unrhyw atebolrwydd ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad (yn benodol, unrhyw atebolrwydd sy’n codi yn rhinwedd y methiant i gyflawni rhwymedigaeth o fewn paragraff (a)) yn atebolrwydd ar ran y prynwyr ar y cyd ac yn unigol.
(3)Mae’r rheolau cyffredinol hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir yn adrannau 38 i 40.
(4)Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaethau Atodlen 7 sy’n ymwneud â phartneriaethau, a
(b)darpariaethau Atodlen 8 sy’n ymwneud ag ymddiriedolwyr.
(1)Os yw’r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy, mae’n ofynnol dychwelyd un ffurflen dreth.
(2)Rhaid i’r holl brynwyr wneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).
(1)Os yw ACC yn dyroddi hysbysiad ymholiad ynghylch ffurflen dreth o dan adran 43 o DCRhT—
(a)rhaid dyroddi’r hysbysiad i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;
(b)mae pwerau ACC o dan Ran 4 o DCRhT i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol at ddibenion yr ymholiad yn arferadwy ar wahân (ac yn wahanol) mewn perthynas â phob un o’r prynwyr;
(c)rhaid dyroddi unrhyw hysbysiad cau o dan adran 50 o DCRhT i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;
(d)caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr wneud cais o dan adran 51 o DCRhT am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi (ac mae gan bob un ohonynt yr hawl i fod yn bartïon i’r cais).
(2)Rhaid i ddyfarniad ACC o dan adran 52 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud yn erbyn yr holl brynwyr ac nid yw’n cael effaith yn erbyn unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan yr adran honno i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.
(3)Rhaid i asesiad ACC o dan adran 54 neu 55 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud mwen cysylltiad â’r holl brynwyr ac nid yw’n cael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan adran 61 o DCRhT i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.
(1)Mae’n ofynnol cael cytundeb yr holl brynwyr os ymrwymir i gytundeb setlo sy’n ymwneud â’r trafodiad o dan adran 184 o DCRhT.
(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr roi hysbysiad am gais o dan adran 173 o DCRhT.
(3)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad o benderfyniad apeliadwy sy’n ymwneud â’r trafodiad yn dilyn cais o’r fath gan rai o’r prynwyr (ond nid pob un ohonynt)—
(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr adolygiad i bob un o’r prynwyr eraill y gŵyr ACC pwy ydynt;
(b)caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr eraill fod yn barti neu’n bartïon i’r adolygiad os ydynt yn hysbysu ACC am hynny yn ysgrifenedig;
(c)rhaid i hysbysiad am gasgliadau ACC o dan adran 176(5), (6) neu (7) o DCRhT gael ei ddyroddi i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;
(d)mae adran 177 o DCRhT (effaith casgliadau adolygiad) yn gymwys mewn perthynas â phob un o’r prynwyr.
(4)Yn achos apêl o dan Ran 8 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad—
(a)caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr wneud yr apêl;
(b)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr apêl i bob un o’r prynwyr nad ydynt yn gwneud yr apêl ac y gŵyr ACC pwy ydynt;
(c)mae gan unrhyw un neu ragor o’r prynwyr yr hawl i fod yn barti neu’n bartïon i’r apêl;
(d)mae dyfarniad y tribiwnlys o dan adran 181 o DCRhT yn rhwymo’r holl brynwyr.
(1)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â phartneriaethau.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 7 drwy reoliadau.
(1)Mae Atodlen 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas ag ymddiriedolaethau.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 8 drwy reoliadau.
(1)Mewn perthynas â chynrychiolwyr personol person sy’n brynwr mewn trafodiad tir—
(a)maent yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad, a
(b)cânt ddidynnu unrhyw daliad a wneir ganddynt o dan y Ddeddf hon neu DCRhT o asedau ac eiddo’r ymadawedig.
(2)Mae derbynnydd a benodir gan lys yn y Deyrnas Unedig sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli unrhyw eiddo yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaethau o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â thrafodiad sy’n effeithio ar yr eiddo hwnnw fel pe na bai’r eiddo o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y llys.
(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir hysbysadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC.
(2)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—
(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a
(b)cynnwys hunanasesiad, os yw’r trafodiad yn drafodiad trethadwy.
(3)Yn y Ddeddf hon, ystyr “hunanasesiad” mewn perthynas â ffurflen dreth, yw asesiad o swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r trafodiad, ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ffurflen dreth honno.
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn hysbysadwy os yw—
(a)yn gaffaeliad prif fuddiant mewn tir (gweler adran 68) nad yw o fewn un o’r eithriadau a restrir yn adran 46,
(b)yn gaffaeliad buddiant trethadwy, ac eithrio prif fuddiant mewn tir—
(i)os nad yw’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, a
(ii)os yw treth i’w chodi ar gyfradd o fwy na 0%, neu y byddai treth i’w chodi felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30, mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad,
(c)yn drafodiad tir y trinnir person fel pe bai’n ymrwymo iddo yn rhinwedd adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti), neu
(d)yn drafodiad tir tybiannol neu’n drafodiad tir tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 8(1) a (3) o Atodlen 2.
(2)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—
(a)adran 10(5) (contract a throsglwyddo),
(b)paragraff 18(5) o Atodlen 4 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol),
(c)paragraff 44(1) o Atodlen 7 (trosglwyddo buddiant partneriaeth), a
(d)paragraff 2(6) o Atodlen 10 (cyllid eiddo arall).
(1)Mae’r eithriadau y cyfeirir atynt yn adran 45 fel a ganlyn.
(2)Trafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3.
(3)Caffaeliad ac eithrio rhoi, aseinio neu ildio les pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy, ynghyd â’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw drafodiadau cysylltiol, yn llai na £40,000.
(4)Rhoi les am gyfnod o lai na 7 mlynedd, pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.
(5)Aseinio neu ildio les—
(a)pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o lai na 7 mlynedd, a
(b)pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.
(6)Rhoi les am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor pan fo—
(a)y gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent yn llai na £40,000, a
(b)y rhent perthnasol yn llai na £1,000.
(7)Aseinio neu ildio les—
(a)pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor, a
(b)pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio yn llai na £40,000.
(8)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad uwchlaw’r trothwy cyfradd sero os yw’n cynnwys—
(a)unrhyw swm y mae treth i’w chodi arno ar gyfradd o fwy na 0%, neu
(b)unrhyw swm y byddai treth i’w chodi arno felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30(2) neu (3).
(9)Yn is-adran (6), ystyr “rhent perthnasol” yw—
(a)y rhent blynyddol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 36(2) o Atodlen 6), neu
(b)yn achos rhoi les y mae paragraff 31 o Atodlen 7 yn gymwys iddi, y gyfran drethadwy berthnasol o’r rhent blynyddol (fel y’i cyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw).
(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3), (6) neu (7) er mwyn rhoi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir yno am y tro.
(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth i ACC—
(a)os yw adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad, neu i unrhyw drafodiad y mae’r trafodiad yn drafodiad cysylltiol mewn perthynas ag ef,
(b)os ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (2), ac
(c)os effaith y digwyddiad yw—
(i)y daw’r trafodiad yn hysbysadwy,
(ii)bod treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu
(iii)bod treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad pan nad oedd unrhyw dreth yn daladwy.
(2)Y digwyddiadau yw—
(a)yn achos cydnabyddiaeth ddibynnol, ceir digwyddiad dibynnol neu daw’n eglur na fydd yn digwydd, neu
(b)yn achos cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod, caiff swm sy’n berthnasol i gyfrifo’r gydnabyddiaeth, neu unrhyw randaliad o gydnabyddiaeth, ei ganfod.
(3)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—
(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (2), a
(b)cynnwys hunanasesiad.
(4)Er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT (llog taliadau hwyr), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â swm—
(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd o dan yr adran hon fel y dreth sy’n daladwy,
(b)sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth o’r fath,
(c)sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad a wneir yn ychwanegol at ffurflen dreth o’r fath, neu
(d)sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad neu asesiad a wneir yn lle ffurflen dreth o’r fath,
yw’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf honno i’w darllen yn unol â hynny).
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (4) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.
(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf—
(a)rhent (gweler Atodlen 6);
(b)blwydd-dal y mae adran 21 yn gymwys iddo.
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i drafodiad tir—
(a)os yw adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad, neu i unrhyw drafodiad y mae’r trafodiad yn drafodiad cysylltiol mewn perthynas ag ef,
(b)os ceir digwyddiad a grybwyllir yn adran 47(2) (“y digwyddiad perthnasol”), ac
(c)os effaith y digwyddiad perthnasol yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â’r ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad (“y ffurflen dreth trafodiadau tir”).
(2)Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr yn y trafodiad tir—
(a)o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth trafodiadau tir, ddiwygio’r ffurflen dreth yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);
(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT fel y’i haddesir gan is-adran (3).
(3)O ran ei chymhwyso i hawliad y mae is-adran (2)(b) yn gymwys iddo, mae Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 78—
Rhaid i hawliad o dan adran 63 y mae adran 48(2)(b) o DTTT yn gymwys iddo gael ei wneud cyn yr olaf o’r canlynol—
(a)diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r dreth trafodiadau tir a dalwyd eisoes yn berthnasol iddi, neu
(b)diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r digwyddiad perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 48(1)(b) o DTTT).”
(4)Ond os rhoi neu aseinio les yw’r trafodiad (“y trafodiad perthnasol”), ni chaniateir gwneud unrhyw hawliad o dan is-adran (2)—
(a)mewn cysylltiad ag ad-dalu (yn llwyr neu’n rhannol) unrhyw fenthyciad neu flaendal a gaiff ei drin yn rhinwedd paragraff 19 o Atodlen 6 fel cydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad perthnasol, neu
(b)mewn cysylltiad ag ad-dalu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer y trafodiad perthnasol, mewn achos pan fo’r ad-daliad—
(i)yn cael ei wneud o dan drefniadau a wnaed mewn cysylltiad â’r trafodiad perthnasol, a
(ii)yn ddibynnol ar derfynu neu aseinio’r les neu ar roi buddiant trethadwy allan o’r les.
(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys—
(a)i’r graddau y mae’r gydnabyddiaeth ar ffurf rhent (gweler Atodlen 6);
(b)pan fo adran 21 (blwydd-daliadau) yn gymwys.
(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth bellach i ACC os tynnir rhyddhad yn ôl i unrhyw raddau o dan—
(a)Atodlen 11 (bondiau buddsoddi cyllid arall);
(b)Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol);
(c)Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);
(d)Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael);
(e)Atodlen 18 (rhyddhad elusennau).
(2)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—
(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y digwyddiad datgymhwyso, a
(b)cynnwys hunanasesiad.
(3)Y digwyddiad datgymhwyso yw—
(a)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl o dan Atodlen 11, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 14 o’r Atodlen honno;
(b)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol o dan Atodlen 14, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 8(1), (3) neu (4) o’r Atodlen honno;
(c)mewn perthynas â thynnu rhyddhad grŵp yn ôl o dan Atodlen 16, y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn ystyr yr Atodlen honno;
(d)mewn perthynas â thynnu rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn ôl o dan Atodlen 17, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(2) neu 7(2) neu (3) o’r Atodlen honno;
(e)mewn perthynas â thynnu rhyddhad elusennau yn ôl o dan Atodlen 18; digwyddiad datgymhwyso fel y’i diffinnir ym mharagraff 2(4), 5(2) neu 8(2) o’r Atodlen honno.
(4)Er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT (llog taliadau hwyr), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â swm—
(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd o dan is-adran (1)(a) fel y dreth sy’n daladwy,
(b)sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth o’r fath,
(c)sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad a wneir yn ychwanegol at ffurflen dreth o’r fath, neu
(d)sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad neu asesiad a wneir yn lle ffurflen dreth o’r fath,
yw’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf honno i’w darllen yn unol â hynny).
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (4) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.
(1)Pan fo dau drafodiad cysylltiol neu ragor yn cael effaith ar yr un dyddiad caiff y prynwr, neu’r holl brynwyr os oes mwy nag un, ddychwelyd un ffurflen dreth fel pe bai’r holl drafodiadau hynny yn un trafodiad hysbysadwy.
(2)Pan fo dau brynwr neu ragor yn dychwelyd un ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol, mae adrannau 37 i 40 yn gymwys fel pe bai—
(a)y trafodiadau o dan sylw yn un trafodiad, a
(b)y prynwyr hynny yn brynwyr sy’n gweithredu ar y cyd.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo effaith trafodiad sy’n gysylltiol o ran trafodiad cynharach (“y trafodiad diweddarach”) fel a ganlyn—
(a)daw’r trafodiad cynharach yn hysbysadwy,
(b)mae treth ychwanegol i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach, neu
(c)mae treth i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach pan nad oedd unrhyw dreth i’w chodi cyn hynny.
(2)Rhaid i’r prynwr yn y trafodiad cynharach ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.
(3)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—
(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith, a
(b)cynnwys hunanasesiad.
(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ofyniad i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad diweddarach.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio darpariaeth a restrir yn is-adran (2) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.
(2)Y darpariaethau yw—
(a)adran 44(2)(a);
(b)adran 47(3)(a);
(c)adran 49(2)(a);
(d)adran 51(3)(a);
(e)paragraff 24(4)(a) o Atodlen 5;
(f)paragraff 3(4) o Atodlen 6;
(g)paragraff 5(5) o’r Atodlen honno;
(h)paragraff 13(1) o’r Atodlen honno.
(1)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y Ddeddf hon gynnwys datganiad gan y prynwr fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y prynwr.
(2)Ond pan fo—
(a)y prynwr yn awdurdodi asiant i gwblhau’r ffurflen dreth,
(b)y prynwr yn gwneud datganiad bod yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen dreth, ac eithrio’r dyddiad perthnasol, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr, ac
(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan yr asiant bod y dyddiad perthnasol a ddarperir ar y ffurflen dreth yn gywir hyd eithaf gwybodaeth yr asiant,
tybir bod y gofyniad yn is-adran (1) wedi ei fodloni.
(3)Y dyddiad perthnasol yw—
(a)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 47, dyddiad y digwyddiad y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad iddo,
(b)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 49, dyddiad y digwyddiad datgymhwyso,
(c)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 51, y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith,
(d)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan baragraff 24 o Atodlen 5, y dyddiad y daeth y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) o’r Atodlen honno i ben, ac
(e)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
(4)Nid oes dim yn is-adran (2) yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.
(1)Pan fo—
(a)prynwr mewn trafodiad tir yn anabl,
(b)y Cyfreithiwr Swyddogol yn gweithredu ar ran y prynwr hwnnw, ac
(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y Cyfreithiwr Swyddogol,
tybir bod y gofyniad yn adran 53 wedi ei fodloni.
(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.
(3)At ddibenion yr adran hon, mae person yn anabl os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).
(4)Yn yr adran hon, ystyr y “Cyfreithiwr Swyddogol” yw’r Cyfreithiwr Swyddogol i’r Uwchlysoedd.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddatganiad a grybwyllir yn adran 53 bod ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn.
(2)Pan fo’r prynwr yn unigolyn, caiff y gofyniad bod y prynwr yn gwneud datganiad o’r fath (ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw person a awdurdodir i weithredu ar ran yr unigolyn hwnnw mewn perthynas â’r materion y mae’r ffurflen dreth neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.
(3)At ddibenion yr adran hon nid ystyrir bod person (“P”) wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran unigolyn oni bai bod P wedi ei awdurdodi felly gan atwrneiaeth ysgrifenedig, a lofnodwyd gan yr unigolyn hwnnw.
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo unigolyn yn gweithredu’n unol ag adran 33 (personau y mae cwmni yn gweithredu drwyddynt)—
(a)fel swyddog priodol cwmni, neu
(b)fel arall ar ran cwmni.
(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad trethadwy dalu’r dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw ac felly mae’r dreth i’w chodi ar y prynwr at ddibenion DCRhT.
(2)O ran atebolrwydd prynwyr sy’n gweithredu ar y cyd, gweler—
(a)adrannau 37 i 40 (cydbrynwyr),
(b)Atodlen 7 (partneriaethau), ac
(c)Atodlen 8 (ymddiriedolaethau).
(1)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn dychwelyd ffurflen dreth, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy, neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy, yn ddim hwyrach na dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
(2)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn diwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw—
(a)os gwneir y diwygiad erbyn dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno, yn ddim hwyrach na’r dyddiad hwnnw, a
(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, pan fydd y prynwr yn hysbysu ACC am y diwygiad.
(3)Ond gweler Pennod 3 (gohirio treth).
(1)Caiff prynwr mewn trafodiad tir pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni yn ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 a 20) roi hysbysiad i ACC (“cais gohirio”) yn gofyn am ohirio talu swm o dreth sy’n daladwy a ddatgenir ar y ffurflen dreth gyntaf sy’n ymwneud â’r trafodiad (“y swm a geisir”).
(2)Ond ni chaiff y swm a geisir fod yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio (gweler adran 59).
(3)Rhaid i ACC gytuno i gais gohirio—
(a)os dychwelir y ffurflen dreth ac os gwneir y cais gohirio ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno neu cyn hynny,
(b)os yw’r cais—
(i)yn pennu’r swm y ceisir ei ohirio,
(ii)yn nodi sut y cyfrifwyd y swm a geisir yn unol ag adran 59 (gan gynnwys swm y gydnabyddiaeth sydd o fewn cam 2 o’r cyfrifiad hwnnw (“y gydnabyddiaeth ohiriedig”)),
(iii)yn nodi’r rhesymau pam fod y gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol neu’n ansicr a’r rhesymau pam y mae i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,
(iv)yn cynnig dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (gweler is-adran (8)), a
(v)yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol yn rhinwedd adran 191 o DCRhT (rhoi hysbysiadau i ACC),
(c)os yw ACC yn fodlon nad yw’r swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio a gyfrifir yn unol ag adran 59, a
(d)os nad yw’r trafodiad tir yn drefniant osgoi trethi nac yn ffurfio rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.
(4)Fel arall rhaid i ACC wrthod cais gohirio (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).
(5)Ond os yw ACC o’r farn fod y swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio caiff ganiatáu’r cais gohirio er hynny mewn perthynas â hynny o’r swm a geisir nad yw’n fwy na’r swm y gellir ei ohirio.
(6)Wrth gytuno i gais gohirio—
(a)rhaid i ACC bennu swm y dreth y mae’n cytuno i’w ohirio (y “swm gohiriedig”);
(b)rhaid i ACC bennu dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (a gaiff fod yn wahanol i’r dyddiad terfyn disgwyliedig a gynigir gan y prynwr) (gweler is-adran (8));
(c)caiff ACC osod unrhyw amodau (gan gynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr dalu rhan o’r swm gohiriedig ar adegau penodedig yn ystod y cyfnod gohirio) ag y bo’n briodol ym marn ACC.
(7)Yn yr adran hon, mae i “trefniant osgoi trethi” yr un ystyr ag yn adran 31.
(8)Yn y Bennod hon—
(a)ystyr “cyfnod gohirio” yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y cyfeirir ati yn is-adran (1) ac sy’n dod i ben ar y cynharaf o’r canlynol—
(i)y dyddiad terfyn disgwyliedig, neu
(ii)y dyddiad y ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig;
(b)ystyr “dyddiad terfyn disgwyliedig”yw—
(i)y dyddiad y disgwylir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig, neu
(ii)os na ellir rhagfynegi’r dyddiad hwnnw, bum mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (neu, pan newidir y dyddiad terfyn disgwyliedig o dan adran 62, bum mlynedd i’r dyddiad terfyn disgwyliedig blaenorol).
(9)Y digwyddiadau yw—
(a)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol, dyddiad y digwyddiad dibynnol neu’r dyddiad y daw’n amlwg na fydd yn digwydd;
(b)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ansicr, y dyddiad y canfyddir y gydnabyddiaeth.
Mae’r swm y gellir ei ohirio mewn cysylltiad â thrafodiad tir y mae adran 58(1) yn gymwys iddo i’w gyfrifo fel a ganlyn.
Cam 1
Cyfrifo swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir yn unol ag adran 27 neu 28.
Cam 2
Pennu swm neu werth y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir—
nad yw eisoes wedi ei dalu neu ei ddarparu,
sy’n ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 ac 20),
nad yw ar ffurf—
rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6), neu
blwydd-dal y mae adran 21 yn gymwys iddo, a
sydd i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
Y swm neu’r gwerth hwnnw o gydnabyddiaeth yw’r gydnabyddiaeth ohiriedig.
Cam 3
Cyfrifo (yn unol ag adran 27 neu 28) swm y dreth a fyddai wedi bod i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi ei gostwng gan swm neu werth y gydnabyddiaeth ohiriedig.
Cam 4
Didynnu swm y dreth a gyfrifwyd yng ngham 3 o’r swm a gyfrifwyd yng ngham 1.
Swm y dreth sy’n weddill yw’r swm y gellir ei ohirio.
(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr sy’n pennu—
(a)y swm gohiriedig a’r swm a wrthodir (os o gwbl),
(b)dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio,
(c)unrhyw amod y mae ACC wedi ei osod o dan adran 58(6)(c), a
(d)os yw’r swm gohiriedig yn is na’r swm gohiriedig arfaethedig, y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.
(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn pennu’r rhesymau dros wrthod.
(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio—
(a)rhaid i’r prynwr dalu’r swm gohiriedig cyn diwedd y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod gohirio i ben (er gwaethaf adran 57), a
(b)er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm gohiriedig yw’r dyddiad ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o DCRhT i’w darllen yn unol â hynny).
(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio (neu’n cytuno i gais ond yn cytuno i swm gohiriedig sy’n is na’r swm a geisir)—
(a)mae’n ofynnol talu swm y dreth y mae ACC wedi gwrthod ei ohirio (“y swm a wrthodir”) erbyn diwedd yr hwyraf o—
(i)y dyddiad y mae’r prynwr yn cael ei hysbysu am benderfyniad ACC, neu
(ii)y dyddiad y byddai’n ofynnol talu’r swm fel arall yn unol ag adran 57, a
(b)dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm a wrthodir yw’r hwyraf o—
(i)y diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir, neu
(ii)y dyddiad a fyddai’n cael ei bennu fel arall o dan adran 157(3) o DCRhT fel dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm hwnnw.
(3)Gweler adrannau 47 a 48 am ddarpariaeth ynghylch achosion pan fo swm y dreth sy’n daladwy yn newid o ganlyniad i—
(a)digwyddiad dibynnol neu ddiffyg digwyddiad dibynnol, neu
(b)canfod cydnabyddiaeth oedd heb ei chanfod.
(1)Pan fo ACC wedi cytuno i gais gohirio, caiff y prynwr roi hysbysiad i ACC yn gofyn am—
(a)newid y dyddiad terfyn disgwyliedig;
(b)amrywio neu godi amod a orfodwyd o dan adran 58(6)(c).
(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu’r newid mewn amgylchiadau y cred y prynwr ei fod yn cyfiawnhau’r newid, neu’n cyfiawnhau amrywio neu godi’r amod.
(3)Os yw ACC o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff—
(a)cytuno i’r cais a wneir o dan is-adran (1), neu
(b)cytuno i—
(i)dyddiad terfyn disgwyliedig gwahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(a);
(ii)amrywiad gwahanol i amod i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(b).
(4)Pan fo ACC yn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.
(1)Os yw ACC o’r farn fod y prynwr—
(a)wedi methu cydymffurfio ag amod a osodwyd o dan adran 58(6)(c) neu a amrywiwyd o dan adran 62, neu
(b)mewn perthynas â’r cais gohirio neu gais a wnaed o dan adran 62(1)—
(i)wedi darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu
(ii)wedi atal gwybodaeth,
mae’r cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud (ac mae adran 57 o’r Ddeddf hon ac adran 157 o DCRhT yn gymwys yn unol â hynny).
(2)Mewn achos o’r fath rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn datgan bod y cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud ac yn nodi canlyniadau hynny.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)gwneud darpariaeth i ohirio treth mewn achosion pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig ar ffurf rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6);
(b)gwneud darpariaeth sy’n cymhwyso’r Bennod hon (gydag unrhyw addasiadau a bennir yn y rheoliadau) i achosion pa fo’r gydnabyddiaeth y mae cais gohirio yn ymwneud â hi, neu unrhyw elfen o’r gydnabyddiaeth honno, ar ffurf—
(i)gwneud gwaith adeiladu, gwella neu atgyweirio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, neu
(ii)darparu gwasanaethau (ac eithrio cyflawni gwaith o’r faith);
(c)gwneud darpariaeth i ACC wneud amrywiadau o dan adran 62 heb i’r prynwr roi hysbysiad am gais o dan is-adran (1) o’r adran honno (boed drwy gytundeb gyda’r prynwr neu drwy orfodaeth).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud unrhyw addasiadau i’r Ddeddf hon ag y bo Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus.
(1)Ni chaiff y Prif Gofrestrydd Tir (“y Cofrestrydd”) gofrestru, gofnodi na dangos fel arall mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Cofrestrydd drafodiad tir hysbysadwy na dogfen sy’n rhoi effaith i drafodiad o’r fath neu sy’n dystiolaeth ohono oni bai y cyflwynir tystysgrif ACC gyda’r cais i gofrestru, i gofnodi neu i ddangos y trafodiad fel arall.
(2)Tystysgrif a ddyroddir gan ACC yw “tystysgrif ACC”, sy’n datgan bod ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r trafodiad.
(3)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r graddau—
(a)y mae’n ofynnol cofrestru, cofnodi neu ddangos fel arall y trafodiad tir hysbysadwy neu ddogfen sy’n rhoi effaith i’r trafodiad hwnnw neu sy’n dystiolaeth ohono mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau heb unrhyw gais i gofrestru;
(b)y mae’r cofnod yn cofrestru, yn cofnodi neu’n dangos fel arall fuddiant neu hawl ar wahân i’r buddiant trethadwy y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ei gaffael.
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys—
(a)i gontract sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd—
(i)adran 10(4) (contract a throsglwyddo), neu
(ii)adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti);
(b)trafodiad tybiannol neu drafodiad tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 2;
(c)cytundeb ar gyfer les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 20(1) o Atodlen 6;
(d)amrywiad i les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 24(1) neu 25(1) o’r Atodlen honno.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch tystysgrifau ACC.
(6)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (5), yn benodol—
(a)gwneud darpariaeth o ran yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn dyroddi tystysgrif;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrifau dyblyg;
(c)darparu ar gyfer dyroddi tystysgrifau lluosog pan ddychwelir ffurflen dreth sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad.
(7)O ran y Cofrestrydd—
(a)rhaid iddo ganiatáu i ACC archwilio unrhyw dystysgrifau a gyflwynir o dan yr adran hon, a
(b)caiff ymrwymo i drefniadau ar gyfer rhoi gwybodaeth arall a chyfleusterau eraill i ACC er mwyn gwirio y cydymffurfiwyd â gofynion y Ddeddf hon.
Ar ôl adran 81 o DCRhT (setliadau contract), mewnosoder—
(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwrthweithio manteision treth sy’n deillio o drefniadau artiffisial i osgoi trethi, gan gynnwys darpariaeth—
(a)ynghylch ystyr “trefniant osgoi trethi”, “artiffisial” a “mantais drethiannol” (adrannau 81B i 81D);
(b)ynghylch pŵer ACC i wneud addasiadau i wrthweithio manteision treth a’r camau i’w cymryd gan ACC mewn cysylltiad ag addasiadau o’r fath (adrannau 81E i 81G).
(2)Enw’r rheolau yn y Rhan hon gyda’i gilydd yw “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi”.
(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi” os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae trethdalwr yn ymrwymo i’r trefniant.
(2)Wrth benderfynu ai prif ddiben trefniant, neu un o’i brif ddibenion, yw cael mantais drethiannol, caniateir ystyried yn benodol y swm o dreth ddatganoledig a fyddai i’w godi yn absenoldeb y trefniant.
(3)Yn y Rhan hon—
(a)mae “trefniant” yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw weithred, unrhyw weithrediad, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad, unrhyw ddigwyddiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);
(b)mae cyfeiriadau at drefniant i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—
(i)cyfres o drefniadau, a
(ii)unrhyw ran o drefniant neu unrhyw gam o drefniant sy’n cynnwys mwy nag un ran neu gam;
(c)ystyr “trethdalwr” yw person sy’n agored i dreth ddatganoledig neu a fyddai’n agored iddi oni bai am y trefniant osgoi trethi o dan sylw.
(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant osgoi trethi yn “artiffisial” os nad yw ymrwymo iddo neu ei gyflawni yn weithred resymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaeth drethi Cymru sy’n gymwys i’r trefniadau.
(2)Wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial, caniateir ystyried yn benodol—
(a)unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol dilys sydd i’r trefniant (ac eithrio cael mantais drethiannol);
(b)pa un ai canlyniad y trefniant yw bod swm o dreth i’w godi y mae’n rhesymol cymryd nad hwnnw oedd y canlyniad a ragwelwyd pan ddeddfwyd darpariaeth berthnasol deddfwriaeth drethi Cymru.
(3)Ond nid yw trefniant yn artiffisial os oedd, ar yr adeg yr ymrwymwyd iddo neu y’i cyflawnwyd—
(a)y trefniant yn gyson â’r arferion a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd, a
(b)ACC wedi mynegi ei fod yn derbyn yr arfer hwnnw.
(4)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill, rhaid rhoi sylw i’r trefniadau eraill hynny hefyd wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth drethi Cymru” yw—
(a)Deddfau Trethi Cymru, a
(b)unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan y Deddfau hynny.
At ddibenion y Rhan hon—
ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—
rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,
ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,
osgoi swm y codir treth arno neu leihau swm y codir treth arno,
gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth, ac
osgoi rhwymedigaeth i ddidynnu treth neu roi cyfrif am dreth;
ystyr “treth” (“tax”) yw unrhyw dreth ddatganoledig.
(1)Caiff ACC wneud unrhyw addasiadau y mae o’r farn eu bod yn deg ac yn rhesymol i wrthweithio mantais drethiannol a fyddai (gan anwybyddu’r Rhan hon) yn deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi.
(2)Caniateir gwneud addasiad mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig o dan sylw neu unrhyw dreth ddatganoledig arall.
(3)Rhaid i addasiad gael ei wneud—
(a)pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth mewn hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50;
(b)fel arall drwy asesiad ACC.
(4)Ni chaniateir i ACC wneud addasiad oni bai ei fod wedi cydymffurfio â gofynion adrannau 81F ac 81G.
(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio arfaethedig”) i drethdalwr os yw ACC o’r farn—
(a)bod mantais drethiannol i berson wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi, a
(b)y dylid gwrthweithio’r fantais drethiannol drwy addasiad o dan adran 81E.
(2)Rhaid i hysbysiad gwrthweithio arfaethedig—
(a)pennu’r trefniant osgoi trethi a’r fantais drethiannol,
(b)esbonio pam fod ACC o’r farn bod mantais drethiannol wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi,
(c)nodi’r addasiad y mae ACC yn bwriadu ei wneud er mwyn gwrthweithio’r fantais drethiannol,
(d)pennu unrhyw swm y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC arfaethedig, ac
(e)hysbysu’r trethdalwr—
(i)bod hysbysiad gwrthweithio terfynol i’w ddyroddi ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig,
(ii)y caiff y trethdalwr ofyn i ACC ymestyn y cyfnod 45 diwrnod hwnnw, a
(iii)y caniateir i’r trethdalwr gyflwyno sylwadau i ACC ar unrhyw adeg cyn dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio terfynol.
(1)Rhaid i ACC, ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau a grybwyllir yn adran 81F(2)(e)(i) neu unrhyw gyfnod hwy y mae ACC wedi cytuno iddo, ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio terfynol”) i’r trethdalwr.
(2)Rhaid i hysbysiad gwrthweithio terfynol ddatgan pa un a yw’r fantais drethiannol sy’n deillio o’r trefniant osgoi trethi i’w gwrthweithio drwy addasiad o dan adran 81E.
(3)Wrth benderfynu pa un a yw’r fantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid i ACC ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir gan y trethdalwr.
(4)Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan bod mantais drethiannol i’w gwrthweithio drwy addasiad rhaid i’r hysbysiad hefyd—
(a)pennu’r addasiad sy’n ofynnol i roi effaith i’r gwrthweithio,
(b)pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, pennu’r diwygiad i’r ffurflen dreth sydd i’w gynnwys yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50 pan fydd ACC yn llunio ei gasgliadau ar yr ymholiad,
(c)pan na fo paragraff (b) yn gymwys—
(i)cynnwys gydag ef yr asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, neu
(ii)pan wnaed asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, pennu’r asesiad hwnnw, a
(d)pennu unrhyw swm—
(i)y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu o ganlyniad i’r diwygiad a bennir o dan baragraff (b), neu
(ii)y mae’n ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC a grybwyllir ym mharagraff (c).
(5)Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan nad yw mantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid iddo ddatgan y rhesymau dros benderfyniad ACC.
Mewn achos gerbron llys neu’r tribiwnlys mewn cysylltiad â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi, mater i ACC yw dangos—
(a)bod yna drefniant artiffisial i osgoi trethi, a
(b)bod yr addasiadau a wneir (neu sydd i’w gwneud) i wrthweithio’r fantais drethiannol sy’n deillio o’r trefniant yn deg ac yn rhesymol.
(1)Mae’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drefniant osgoi trethi yr ymrwymir iddo ar y dyddiad y daw’r Rhan hon i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
(2)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill yr ymrwymwyd iddynt cyn y diwrnod hwnnw, mae’r trefniadau eraill hynny i’w hanwybyddu at ddibenion adran 81C(4) oni bai mai canlyniad ystyried y trefniadau eraill hynny fyddai penderfynu nad oedd y trefniant osgoi trethi yn un artiffisial.”
Ac eithrio fel y darperir fel arall, yn y Ddeddf hon, ystyr “treth” yw treth trafodiadau tir.
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “prif fuddiant” mewn tir yn gyfeiriadau at—
(a)ystad mewn ffi syml absoliwt, neu
(b)cyfnod o flynyddoedd absoliwt,
pa un a yw’n bodoli mewn cyfraith neu mewn ecwiti.
Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “testun” trafodiad tir yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy a gaffaelir (y “prif destun”), ynghyd ag unrhyw fuddiant neu hawl sy’n perthyn iddo neu sy’n ymwneud ag ef a gaffaelir gydag ef.
At ddibenion y Ddeddf hon, mae “gwerth marchnadol” i’w bennu yn yr un modd ag y pennir “market value” at ddibenion Deddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (gweler adrannau 272 i 274 o’r Ddeddf honno).
Ac eithrio fel y darperir fel arall, y dyddiad y mae trafodiad tir yn cael effaith at ddibenion y Ddeddf hon yw’r dyddiad cwblhau.
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “eiddo preswyl” yw—
(a)adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly;
(b)tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad o fewn paragraff (a) (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar dir o’r fath);
(c)buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy’n bodoli er budd adeilad o fewn paragraff (a) neu dir o fewn paragraff (b).
(2)Yn unol â hynny, ystyr “eiddo amhreswyl” yw unrhyw eiddo nad yw’n eiddo preswyl.
(3)Ond gweler y rheol yn is-adran (9) yn achos trafodiad sy’n ymwneud â 6 neu ragor o anheddau.
(4)At ddibenion is-adran (1), mae adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—
(a)llety preswyl ar gyfer disgyblion ysgol;
(b)llety preswyl ar gyfer myfyrwyr, ac eithrio llety o fewn is-adran (5)(b);
(c)llety preswyl ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog;
(d)sefydliad sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa o leiaf 90% o’i breswylwyr ac nad yw o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (f) o is-adran (5).
(5)At ddibenion is-adran (1), nid yw adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—
(a)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl ar gyfer plant;
(b)neuadd breswyl myfyrwyr addysg bellach neu addysg uwch;
(c)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl â gofal personol ar gyfer personau sydd angen gofal personol oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;
(d)ysbyty neu hosbis;
(e)carchar neu sefydliad tebyg;
(f)gwesty neu sefydliad tebyg.
(6)Pan fo adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a bennir yn is-adran (5), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a).
(7)Pan fo adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio yn addas i’w ddefnyddio at o leiaf un o’r dibenion a bennir yn is-adran (4) ac o leiaf un o’r dibenion hynny a bennir yn is-adran (5)—
(a)os oes un defnydd o’r fath y mae’r adeilad yn fwyaf addas ar ei gyfer, neu os yw’r defnyddiau y mae’n fwyaf addas ar eu cyfer oll wedi eu pennu yn yr un is-adran, rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a),
(b)fel arall, mae’r adeilad i’w drin at y dibenion hynny fel pe bai’n addas i’w ddefnyddio fel annedd.
(8)Yn yr adran hon, mae “adeilad” yn cynnwys rhan o adeilad.
(9)Pan fo trafodiad unigol yn ymwneud â 6 neu ragor o anheddau ac yn cynnwys trosglwyddo prif fuddiant ynddynt, neu roi les drostynt, yna, at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw, caiff yr anheddau hynny eu trin fel anheddau amhreswyl.
(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon.
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “annedd” yn gyfeiriadau at eiddo preswyl sy’n annedd unigol.
(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddibenion unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf hon at berson sy’n gysylltiedig â pherson arall.
(2)Ond gweler y ddarpariaeth benodol a wneir yn y darpariaethau a ganlyn—
(a)adran 23(3)(b) (eithriadau i’r rheol gwerth marchnadol tybiedig mewn trafodiadau gyda chwmnïau cysylltiedig);
(b)paragraffau 16(2)(b) a 24(2)(b) o Atodlen 7 (trafodiadau partneriaeth: pennu’r partneriaid cyfatebol);
(c)paragraff 51 o’r Atodlen honno (partneriaethau: cymhwyso adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) i Atodlen 7 yn gyffredinol);
(d)paragraff 5(5) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp: cwmnïau cyd-fenter);
(e)paragraff 6(3) o’r Atodlen honno (rhyddhad grŵp: trefniadau morgais).
Yn y Ddeddf hon—
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sy’n, neu sydd wedi ei gynnwys mewn—
Deddf Seneddol,
Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan—
Deddf Seneddol, neu
Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrir fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);
ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer prices index”) yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer pob eitem a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau;
ystyr “mynegai prisiau manwerthu” (“retail prices index”) yw Mynegai Cyffredinol Prisiau Manwerthu’r Deyrnas Unedig a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau o dan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18);
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
mae “tir” (“land”) yn cynnwys—
adeiladau a strwythurau;
tir a orchuddir â dŵr.
Mae Atodlen 23 yn gwneud diwygiadau i DCRhT.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir gael ei gwblhau cyn diwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.
(2)Ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad arno.
(3)Caiff y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (1) gynnwys—
(a)talu treuliau y mae person yn mynd iddynt wrth gynnal yr adolygiad (neu wrth gynorthwyo i’w gynnal);
(b)darparu cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i berson o’r fath;
(c)cyfarwyddo ACC i gynorthwyo â’r gwaith o gynnal yr adolygiad.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, neu mewn cysylltiad â hi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani).
(3)Os yw offeryn statudol yn cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon y mae Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod yn gwneud darpariaeth a all gael yr effaith a grybwyllir yn is-adran (4), ni chaniateir gwneud yr offeryn oni bai bod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(4)Yr effaith yw, mewn cysylltiad â thrafodiad tir—
(a)bod swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai i’w godi oni wneir y rheoliadau, neu
(b)bod treth i’w chodi pan na fyddai treth i’w chodi oni wneir y rheoliadau.
(1)Mewn perthynas ag unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)rhaid ei arfer drwy offeryn statudol, a
(b)mae’n cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo—
(a)adran 5(4) (buddiannau esempt);
(b)adran 18(2) (cydnabyddiaeth drethadwy);
(c)adran 24(11) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch);
(d)adran 30(6) (rhyddhadau);
(e)adran 33(7) (cwmnïau);
(f)adran 34(6) (cynlluniau ymddiriedolaeth unedau);
(g)adran 35(1) (cwmnïau buddsoddi penagored);
(h)adran 36(8) (cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth);
(i)adran 41(2) (partneriaethau);
(j)adran 42(2) (ymddiriedolaethau);
(k)adran 46(10) (trothwyon ar gyfer trafodiadau hysbysadwy);
(l)adran 47(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);
(m)adran 49(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);
(n)adran 52(1) (y cyfnod y mae’n rhaid dychwelyd ffurflen dreth o’i fewn);
(o)adran 64(1) (rheoliadau ynghylch gohirio treth);
(p)adran 72(10) (eiddo preswyl);
(q)paragraff 7 o Atodlen 3 (trafodiadau esempt);
(r)paragraff 27(2) o Atodlen 6 (codi treth ar elfen rent lesoedd preswyl);
(s)paragraff 32 o’r Atodlen honno (cyfradd disgownt amser ar gyfer lesoedd);
(t)paragraff 36(1)(b) o’r Atodlen honno (swm penodedig o rent perthnasol);
(u)paragraff 37 o’r Atodlen honno (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36);
(v)paragraff 6(7) o Atodlen 13 (rhyddhad anheddau lluosog: y ganran isaf o dreth sydd i’w phriodoli i anheddau);
(w)paragraff 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael: cyfran y dreth a ryddheir).
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon (ac eithrio offeryn a grybwyllir yn is-adran (4)) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)rheoliadau a wneir o dan adran 24(1) neu baragraff 27(4) neu 28(1) o Atodlen 6 (rheoliadau ynghylch cyfraddau treth a bandiau treth);
(b)rheoliadau a wneir o dan adran 78 y mae is-adran (3) o’r adran honno yn gymwys iddynt.
(1)Mae’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.
(2)Ond gweler paragraff 2 o Atodlen 3 (sy’n esemptio trafodiadau tir rhag codi treth arnynt pan fo’r prynwr yn un o gyrff penodedig y Goron).
(3)Ac nid oes unrhyw beth ym Mhennod 2 o Ran 6 (atebolrwydd ar gyfer treth a thalu treth) yn effeithio ar weithrediad adrannau 8 a 9 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37).
(4)Nid yw is-adran (1) yn gwneud y Goron yn agored i’w herlyn am drosedd.
(1)Daw’r Rhan hon (ac eithrio adran 76 ac Atodlen 23) i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)Caiff gorchymyn o dan adran (2) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys