Adolygiad annibynnolLL+C
77Adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tirLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir gael ei gwblhau cyn diwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.
(2)Ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad arno.
(3)Caiff y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (1) gynnwys—
(a)talu treuliau y mae person yn mynd iddynt wrth gynnal yr adolygiad (neu wrth gynorthwyo i’w gynnal);
(b)darparu cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i berson o’r fath;
(c)cyfarwyddo ACC i gynorthwyo â’r gwaith o gynnal yr adolygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 77 mewn grym ar 25.5.2017, gweler a. 81(1)