RHAN 5LL+CDEHONGLI
Ystyr “sefydliad ariannol”LL+C
8Yn yr Atodlen hon, ystyr “sefydliad ariannol” yw—
(a)sefydliad ariannol o fewn ystyr “financial institution” yn adran 564B o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3) (trefniadau cyllid eraill: ystyr “sefydliad ariannol”) ac eithrio person y cyfeirir ato yn is-adran (1)(d) o’r adran honno (personau sydd â chaniatâd i ymrwymo i gytundebau credyd a chontractau ar gyfer llogi nwyddau);
(b)person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) i gyflawni’r gweithgaredd a reoleiddir a bennir yn erthygl 63F(1) o Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol (Gweithgareddau a Reoleiddir) 2001 (O.S. 2001/544) (ymrwymo i gynlluniau prynu cartrefi a reoleiddir fel darparwyr prynu cartrefi).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Ystyr “trefniadau”LL+C
9Yn yr Atodlen hon, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 10 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3