xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 10LL+CRHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIAD

TrosolwgLL+C

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â threfniadau cyllid eiddo arall.

(2)Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fo trafodiadau penodol wedi eu rhyddhau rhag treth;

(b)mae Rhan 3 yn nodi’r amgylchiadau pan na fo rhyddhad ar gael;

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth i fuddiant a ddelir gan sefydliad ariannol gael ei drin fel buddiant esempt mewn amgylchiadau penodol;

(d)mae Rhan 5 yn diffinio termau penodol at ddibenion yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 2LL+CY RHYDDHADAU

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i bersonLL+C

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—

(a)y sefydliad yn prynu prif fuddiant mewn tir neu gyfran anrhanedig o brif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”),

(b)os yw’r buddiant a brynir yn gyfran anrhanedig, y prif fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y sefydliad a P fel tenantiaid ar y cyd llesiannol,

(c)y sefydliad (neu’r person sy’n dal y tir ar ymddiriedolaeth fel y crybwyllir ym mharagraff (b)) yn rhoi les i P allan o’r prif fuddiant (os yw’r prif fuddiant yn rhydd-ddaliad) neu is-les (os yw’r prif fuddiant yn lesddaliad) (“yr ail drafodiad”), a

(d)y sefydliad a P yn ymrwymo i gytundeb y mae gan P hawl oddi tano i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliad neu i’w olynydd yn y teitl drosglwyddo i P (mewn un trafodiad neu mewn cyfres o drafodiadau) yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf.

(2)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os P yw’r gwerthwr, neu

(b)os sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.

(3)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf (gan gynnwys unrhyw ofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf).

(4)Mae trosglwyddiad i P sy’n deillio o arfer yr hawl a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) (“trafodiad pellach”) wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad, a

(b)os, ar bob adeg rhwng yr ail drafodiad a’r trafodiad pellach—

(i)delir y buddiant a brynwyd o dan y trafodiad cyntaf gan sefydliad ariannol i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol, a

(ii)delir y les neu’r is-les a roddir o dan yr ail drafodiad gan P.

(5)Nid yw’r cytundeb a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) i’w drin—

(a)fel pe bai wedi ei gyflawni’n sylweddol oni bai bod yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf wedi ei drosglwyddo i P, a hyd hynny (ac felly nid yw adran 14(1) yn gymwys), neu

(b)fel trafodiad tir ar wahân yn rhinwedd adran 15 (opsiynau a hawliau rhagbrynu).

(6)Nid yw trafodiad pellach sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd is-baragraff (4) yn drafodiad hysbysadwy oni bai ei fod yn ymwneud â throsglwyddo’r holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf i P, i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a ailwerthir i bersonLL+C

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—

(a)y sefydliad—

(i)yn prynu prif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”), a

(ii)yn gwerthu’r buddiant hwnnw i P (“yr ail drafodiad”), a

(b)P yn rhoi morgais cyfreithiol (fel y diffinnir “legal mortgage” yn adran 205(1)(xvi) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20)) i’r sefydliad dros y buddiant hwnnw.

(2)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os—

(a)P yw’r gwerthwr, neu

(b)sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau eraill o’r math a grybwyllir ym mharagraff 2(1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.

(3)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r sefydliad ariannol yn cydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf, a phan fo hynny’n cynnwys gofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf, rhaid i’r dreth sydd i’w chodi fod yn seiliedig ar gydnabyddiaeth drethadwy nad yw’n llai na gwerth marchnadol y buddiant, ac yn achos rhoi les ar rent, y rhent marchnadol.

(4)At ddibenion is-baragraff (3), rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les fynd amdano ar y farchnad agored ar yr adeg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 10 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfeiriadau at P pan fo P yn unigolyn sydd wedi marwLL+C

4Mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 2 a 3 at P i’w darllen, mewn perthynas ag adegau ar ôl marwolaeth P, fel cyfeiriadau at gynrychiolwyr personol P.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 10 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 3LL+CAMGYLCHIADAU PAN NA FO TREFNIADAU WEDI EU RHYDDHAU

Dim rhyddhad pan fo rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntafLL+C

5Nid yw paragraffau 2 na 3 yn gymwys i drefniadau y mae rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar eu cyfer ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 10 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson: trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros sefydliadLL+C

6(1)Nid yw paragraff 2 yn gymwys i drefniadau cyllid eraill os yw’r trefniadau hynny, neu unrhyw drefniadau cysylltiedig, yn cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

(2)Mae hynny’n cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol dim ond os bodlonir un neu ragor o amodau (megis digwyddiad neu gyflawni gweithred).

(3)Yn y paragraff hwn—

(4)Mae adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn gymwys at ddibenion penderfynu pwy sydd â rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 4LL+CBUDDIANT ESEMPT

Buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol yn fuddiant esemptLL+C

7(1)Mae buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol o ganlyniad i’r trafodiad cyntaf o fewn ystyr paragraff 2(1)(a) yn fuddiant esempt (ond gweler yr hyn a ganlyn).

(2)Mae’r buddiant yn peidio â bod yn fuddiant esempt—

(a)os yw’r les a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) yn peidio â chael effaith, neu

(b)os yw’r hawl o dan baragraff 2(1)(d) yn peidio â chael effaith neu’n dod yn ddarostyngedig i gyfyngiad.

(3)Nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt os yw rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

(4)Er gwaethaf is-baragraff (1), nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt mewn cysylltiad ag—

(a)y trafodiad cyntaf ei hun, neu

(b)trafodiad pellach o fewn ystyr paragraff 2(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 10 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 5LL+CDEHONGLI

Ystyr “sefydliad ariannol”LL+C

8Yn yr Atodlen hon, ystyr “sefydliad ariannol” yw—

(a)sefydliad ariannol o fewn ystyr “financial institution” yn adran 564B o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3) (trefniadau cyllid eraill: ystyr “sefydliad ariannol”) ac eithrio person y cyfeirir ato yn is-adran (1)(d) o’r adran honno (personau sydd â chaniatâd i ymrwymo i gytundebau credyd a chontractau ar gyfer llogi nwyddau);

(b)person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) i gyflawni’r gweithgaredd a reoleiddir a bennir yn erthygl 63F(1) o Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol (Gweithgareddau a Reoleiddir) 2001 (O.S. 2001/544) (ymrwymo i gynlluniau prynu cartrefi a reoleiddir fel darparwyr prynu cartrefi).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ystyr “trefniadau”LL+C

9Yn yr Atodlen hon, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 10 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3