RHAN 3LL+CAMODAU AR GYFER GWEITHREDU RHYDDHADAU ETC.
RhagarweiniadLL+C
5Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn diffinio amodau 1 i 7 at ddibenion paragraffau 13 i 16 a 18.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod 1LL+C
6Amod 1 yw bod un person (“A”) a pherson arall (“B”) yn ymrwymo i drefniadau—
(a)y mae A yn trosglwyddo buddiant cymwys mewn tir i B (“y trafodiad cyntaf”) oddi tanynt, a
(b)y mae A ac B yn cytuno oddi tanynt, pan fo B yn peidio â dal y buddiant fel y crybwyllir ym mharagraff 7(b), y bydd B yn trosglwyddo’r buddiant i A.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 11 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod 2LL+C
7Amod 2 yw—
(a)bod B, fel dyroddwr bond, yn ymrwymo i fond buddsoddi cyllid arall (pa un ai cyn neu ar ôl ymrwymo i’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1), a
(b)bod y buddiant mewn tir y mae’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1 yn ymwneud â hwy yn cael ei ddal gan B fel ased bond.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 11 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 11 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod 3LL+C
8(1)Amod 3 yw, at ddiben cynhyrchu incwm neu enillion ar gyfer y bond buddsoddi cyllid arall—
(a)bod B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu, neu
(b)bod unrhyw amod arall neu amodau eraill a ragnodir wedi ei fodloni neu wedi eu bodloni.
(2)At ddibenion amod 3, mae B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu os yw B yn rhoi i A, allan o’r buddiant a drosglwyddir i B—
(a)les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn rhydd-ddaliad), neu
(b)is-les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn lesddaliad).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 11 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I8Atod. 11 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod 4LL+C
9(1)Amod 4 yw bod B, cyn diwedd y cyfnod o 120 ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith, yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod pridiant tir cyfreithiol boddhaol wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitl a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p. 9).
(2)Mae pridiant tir yn foddhaol at ddibenion amod 4 os yw—
(a)yn bridiant tir cyntaf ar y buddiant a drosglwyddir i B,
(b)o blaid ACC, ac
(c)ar gyfer cyfanswm—
(i)y swm o dreth a fyddai (oni bai am baragraff 13) i’w godi ar y trafodiad cyntaf pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn werth marchnadol y buddiant ar y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith, a
(ii)unrhyw log a chosbau a fyddai am y tro yn daladwy ar y swm hwnnw o dreth neu mewn perthynas ag ef, pe bai’r dreth wedi bod yn daladwy (ond heb ei thalu) mewn cysylltiad â’r trafodiad cyntaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 11 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I10Atod. 11 para. 9(1) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(ii)
I11Atod. 11 para. 9(1) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3
I12Atod. 11 para. 9(2) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod 5LL+C
10Amod 5 yw nad yw cyfanswm y taliadau cyfalaf a wneir i B cyn terfynu’r bond yn llai na 60% o werth marchnadol y buddiant yn y tir ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 11 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I14Atod. 11 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod 6LL+C
11Amod 6 yw bod B yn dal y buddiant yn y tir fel ased bond hyd derfyn y bond.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 11 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I16Atod. 11 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod 7LL+C
12Amod 7 yw—
(a)bod B, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r buddiant yn y tir yn peidio â chael ei ddal fel ased bond, yn trosglwyddo’r buddiant i A (“yr ail drafodiad”), a
(b)y rhoddir effaith i’r ail drafodiad o fewn 10 mlynedd (neu unrhyw gyfnod arall a ragnodir) i’r trafodiad cyntaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 11 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I18Atod. 11 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3