(a gyflwynir gan adran 30(1))
ATODLEN 12LL+CRHYDDHAD AR GYFER YMGORFFORI PARTNERIAETH ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG
Y rhyddhadLL+C
1Mae trafodiad pan fo person (“y trosglwyddwr”) yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig mewn cysylltiad â’i ymgorffori wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir amodau A i C.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod ALL+C
2Amod A yw nad yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith fwy na blwyddyn ar ôl dyddiad ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 12 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod BLL+C
3Amod B yw bod y trosglwyddwr, ar yr adeg berthnasol—
(a)yn bartner mewn partneriaeth sy’n cynnwys yr holl bersonau sy’n aelodau o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu a fydd yn aelodau ohoni (a neb arall), neu
(b)yn dal y buddiant trethadwy fel enwebai neu ymddiriedolwr noeth i un partner neu ragor mewn partneriaeth o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 12 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Amod CLL+C
4Amod C yw—
(a)bod y cyfrannau o’r buddiant trethadwy y mae gan y personau a grybwyllir ym mharagraff 3(a) yr hawl iddynt yn union ar ôl y trosglwyddiad yr un fath â’r rheini yr oedd ganddynt hawl iddynt ar yr adeg berthnasol, neu
(b)nad yw yr un o’r gwahaniaethau yn y cyfrannau hynny wedi codi fel rhan o drefniadau y mae osgoi atebolrwydd i dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 12 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I8Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
DehongliLL+C
5(1)Yn yr Atodlen hon—
ystyr “yr adeg berthnasol” (“the relevant time”) yw—
(a)pan fu i’r trosglwyddwr gaffael y buddiant trethadwy ar ôl ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yn union ar ôl i’r trosglwyddwr ei gaffael, a
(b)mewn unrhyw achos arall, yn union cyn ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
ystyr “partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig” (“limited liability partnership”) yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p.12).
(2)Ym mharagraff 4(b) mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 12 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I10Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3