Partner cyfatebolLL+C
24(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 2) mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union cyn y trafodiad—
(a)oedd y person yn bartner, a
(b)y person oedd y perchennog perthnasol neu os oedd yn unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.
(2)At ddibenion is-baragraff (1)(b) mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—
(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a
(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3