Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaetholLL+C
30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan geir trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;
(b)pan fo, yn union cyn y trafodiad, yr holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol;
(c)pan fo swm y cyfrannau is yn 75 neu’n fwy.
(2)Mae paragraffau 21 ac 31 yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.
(3)Mae paragraff 21 yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (2) a (3)—
“(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir.”
(4)Mae paragraff 31(2) yn cael effaith fel pe bai “is-baragraff (5)” wedi ei roi yn lle “is-baragraffau (3) i (6)”.
(5)Mae paragraff 31 yn cael effaith fel pe bai is-baragraffau (3), (4), (6) a (7) wedi eu hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3