RHAN 9LL+CCYMHWYSO ESEMPTIADAU, RHYDDHADAU, DARPARIAETHAU DCRHT A DARPARIAETHAU HYSBYSU
RhagarweiniadLL+C
38Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a)mae paragraff 39 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso esemptiadau a rhyddhadau i drafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt;
(b)mae paragraffau 40 a 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso rhyddhad grŵp i drafodiadau penodol a grybwyllir yn Rhan 4 o’r Atodlen hon;
(c)mae paragraff 42 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso rhyddhad elusennau i drosglwyddiadau penodol buddiant mewn partneriaeth;
(d)mae paragraff 43 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaethau penodol yn DCRhT i bartneriaethau;
(e)mae paragraff 44 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysu am drosglwyddiadau penodol buddiant mewn partneriaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 38 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Cymhwyso esemptiadau a rhyddhadauLL+C
39(1)Nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptiad ar gyfer trafodiadau nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys i drafodiadau y mae paragraffau 13, 18, 21 neu 34 yn gymwys iddynt.
(2)Ond (yn ddarostyngedig i baragraffau 40 a 42) mae’r Atodlen hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 7 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 7 para. 39 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Cymhwyso rhyddhad grŵpLL+C
40(1)Mae Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) yn gymwys i—
(a)trafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, a
(b)trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18,
gyda’r addasiadau a ganlyn.
(2)Mae paragraff 8 yn cael effaith fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (2)(a), “pan fo partner a oedd yn bartner ar y dyddiad yr oedd y trafodiad a ryddheir yn cael effaith (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”;
(b)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (2)(b)—
“(b)ar yr adeg y mae’r partner perthnasol yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo buddiant trethadwy yn cael ei ddal gan aelodau’r bartneriaeth neu ar eu rhan a bod y buddiant trethadwy hwnnw—
(i)wedi ei gaffael gan y bartneriaeth neu ar ei rhan o dan y trafodiad a ryddheir, neu
(ii)yn deillio o fuddiant trethadwy a gaffaelwyd felly,
ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.”;
(c)yn is-baragraff (4), “a ddelir gan neu ar ran y bartneriaeth ac i’r gyfran y mae gan y partner perthnasol hawl iddi ar yr adeg berthnasol wrth rannu elw incwm y bartneriaeth” yn cael ei roi yn lle’r geiriau o “y mae’r cwmni” hyd y diwedd;
(d)yn is-baragraff (5), y diffiniad o “cwmni cyswllt perthnasol” wedi ei hepgor.
(3)Mae paragraffau 9 i 14 yn cael effaith fel pe bai “y partner perthnasol” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”(bob tro y mae’n digwydd).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 7 para. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 7 para. 40 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Swm y cyfrannau is: cwmni cysylltiedigLL+C
41(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys, wrth gyfrifo swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad (yn unol â pharagraff 14)—
(a)pe bai cwmni (“y cwmni cysylltiedig”) wedi bod yn bartner cyfatebol i berchennog perthnasol (“y perchennog gwreiddiol”) oni bai am y ffaith nad yw Cam 2, yn rhinwedd paragraff 16(1)(b), yn cynnwys personau cysylltiedig onid ydynt yn unigolion, a
(b)pan fo’r cwmni cysylltiedig a’r perchennog gwreiddiol yn aelodau o’r un grŵp.
(2)Mae’r dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad i’w gostwng i’r swm a fyddai wedi bod yn daladwy pe bai’r cwmni cysylltiedig wedi bod yn bartner cyfatebol i’r perchennog gwreiddiol at ddibenion cyfrifo swm y cyfrannau is.
(3)Mae darpariaethau Atodlen 16 yn gymwys i ryddhad o dan is-baragraff (2) fel y maent yn gymwys i ryddhad grŵp o dan baragraff 2(1) o’r Atodlen honno, ond—
(a)fel pe bai paragraff 4(3)(a) wedi ei hepgor,
(b)fel pe bai, ym mharagraff 8(2)(a), “pan fo partner a oedd, ar y dyddiad yr oedd y trafodiad yn cael effaith, yn bartner ac yn aelod o’r un grŵp â’r trosglwyddwr (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”, ac
(c)gyda’r addasiadau eraill a bennir ym mharagraff 40.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 7 para. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I8Atod. 7 para. 41 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Cymhwyso rhyddhad elusennauLL+C
42(1)Mae Atodlen 18 (rhyddhad elusennau) yn gymwys i drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 gyda’r addasiadau a ganlyn.
(2)Mae paragraff 1(b) yn cael effaith fel pe bai “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7,” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”.
(3)Mae paragraff 2 yn cael effaith fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (1), “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”;
(b)yn is-baragraff (1)(a), “os yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad yn cael ei ddal” yn cael ei roi yn lle “os yw E yn bwriadu dal testun y trafodiad”;
(c)is-baragraff (1)(b) wedi ei hepgor;
(d)yn is-baragraff (2), “mae buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn cael ei ddal” yn cael ei roi yn lle “mae E yn dal testun y trafodiad”;
(e)y canlynol yn cael ei fewnosod ar ôl is-baragraff (2)—
“(2A)Trosglwyddir buddiant mewn partneriaeth at ddibenion yr Atodlen hon os oes trosglwyddiad o’r fath at ddibenion Atodlen 7 (gweler paragraff 48 o’r Atodlen honno).
(2B)Mae paragraff 45(1) o Atodlen 7 (ystyr cyfeiriadau at eiddo partneriaeth) yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon fel y bo’n gymwys at ddibenion yr Atodlen honno.”;
(f)yn is-baragraff (4), “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”;
(g)yn is-baragraff (4)(b), “unrhyw fuddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad” yn cael ei roi yn lle “testun y trafodiad”.
(4)Mae paragraff 3 yn cael effaith fel pe bai—
(a)“trosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “trafodiad tir”;
(b)“y trosglwyddai” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”.
(5)Mae paragraff 4 yn cael effaith fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (1)(a), “trosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “trafodiad tir”;
(b)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (4)—
“(4)Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso mae eiddo’r bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy—
(a)a oedd yn cael ei ddal fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad a ryddheir, neu
(b)sy’n deillio o fuddiant a oedd yn cael ei ddal fel eiddo’r bartneriaeth ar yr adeg honno.”;
(c)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (6)—
“(6)Ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—
(a)y buddiannau trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad a ryddheir a’r buddiannau trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a
(b)i ba raddau y mae unrhyw fuddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth ar yr adeg honno yn dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.”
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 7 para. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I10Atod. 7 para. 42 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Addasiadau i DCRhT mewn perthynas â phartneriaethauLL+C
43(1)Mae DCRhT yn gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir mewn cysylltiad â thrafodiad tir yr ymrwymir iddo fel prynwyr gan neu ar ran aelodau partneriaeth gyda’r addasiadau a ganlyn.
(2)Mae adran 58 (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC) yn cael effaith fel pe bai is-adran (2)(c) wedi ei hepgor.
(3)Mae adran 59 (terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC) yn cael effaith fel pe bai paragraff (b) yn y diffiniad o “person cysylltiedig” yn is-adran (7) wedi ei hepgor.
(4)Mae adran 79 (yr hawlydd: partneriaethau) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—
“79Yr hawlydd: partneriaethau mewn perthynas â thrafodiadau tir
(1)Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adrannau 63 a 63A mewn achos pan fo—
(a)(mewn achos sydd o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth (o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i DTTT),
(b)(mewn achos sydd o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud ar y person, neu’r dyfarniad yn ymwneud â rhwymedigaeth y person, yn rhinwedd y ffaith honno, neu
(c)(mewn achos sydd o fewn adran 63A(1)) y prynwr yn y trafodiad tir yn berson sy’n gweithredu yn rhinwedd y ffaith honno.
(2)Mewn achos o’r fath, dim ond partner cynrychiadol o fewn ystyr paragraff 10 o Atodlen 7 i DTTT gaiff wneud hawliad o dan adran 63 neu 63A mewn cysylltiad â’r swm o dan sylw.”
(5)Mae adran 80 (asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad) yn cael effaith fel pe bai “partner cyfrifol o fewn ystyr paragraff 9 o Atodlen 7 i DTTT” wedi ei roi yn lle “unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3))” yn is-adran (2).
(6)Mae adran 91 (gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phartneriaeth yn ofynnol) yn cael effaith fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—
“(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phartneriaeth o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i DTTT.”;
(b)yn is-adran (2)—
(i)“un o’r partneriaid cyfrifol” wedi ei roi yn lle “un o’r partneriaid” (yn y ddau lle) yn y geiriau agoriadol;
(ii)“i’r partner cynrychiadol, neu os nad oes partner cynrychiadol, i un o’r partneriaid cyfrifol o leiaf” wedi ei roi yn lle “i un o’r partneriaid o leiaf” ym mharagraffau (a)(iii) ac (c);
(c)y canlynol wedi ei roi ar ôl is-adran (2)—
“(3)Mae i “partner cyfrifol” a “partner cynrychiadol” yr ystyron a roddir gan baragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i DTTT.”
(7)Mae adran 100 (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (6)—
“(6)Pan fo unrhyw bartner cyfrifol mewn partneriaeth wedi dychwelyd ffurflen dreth, mae’r adran hon yn cael effaith fel pe bai’r ffurflen dreth honno wedi ei dychwelyd gan bob un o’r partneriaid cyfrifol.
(6A)Mae i “partneriaeth” a “partner cyfrifol” yr ystyron a roddir gan baragraffau 3 a 9 o Atodlen 7 i DTTT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 7 para. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I12Atod. 7 para. 43 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
Hysbysu am drosglwyddo buddiant partneriaethLL+C
44(1)Nid yw trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 (trosglwyddo buddiant partneriaeth) yn drafodiad hysbysadwy onid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero.
(2)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero os yw’n cynnwys—
(a)unrhyw swm y mae treth ar raddfa uwchlaw 0% i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, neu
(b)unrhyw swm y byddai treth i’w chodi felly mewn cysylltiad ag ef oni bai am ryddhad.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 7 para. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I14Atod. 7 para. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3