Cydnabyddiaeth am arfer pŵer penodi neu ddisgresiwnLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
5(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan gaffaelir buddiant trethadwy yn rhinwedd—
(a)arfer pŵer penodi, neu
(b)arfer disgresiwn a freinir yn ymddiriedolwyr setliad.
(2)Mae unrhyw gydnabyddiaeth a roddir am fod y person y gwnaethpwyd y penodiad neu yr arferwyd y disgresiwn o’i blaid yn dod yn destun y pŵer neu’r disgresiwn i’w drin fel cydnabyddiaeth ar gyfer caffael y buddiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3