Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 9LL+CRHYDDHAD GWERTHU AC ADLESU

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Y rhyddhadLL+C

1Mae’r elfen adlesu o drefniant gwerthu ac adlesu wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau cymhwyso.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trefniadau gwerthu ac adlesuLL+C

2Trefniant gwerthu ac adlesu yw trefniant pan fo—

(a)person (“A”) yn trosglwyddo neu’n rhoi i berson arall (“B”) brif fuddiant mewn tir (“gwerthu”), a

(b)B yn rhoi les i A allan o’r buddiant hwnnw (“adlesu”).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 9 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amodau cymhwysoLL+C

3(1)Yr amodau cymhwyso yw—

(a)yr ymrwymir i’r trafodiad gwerthu yn llwyr neu’n rhannol mewn cydnabyddiaeth yr ymrwymir i’r trafodiad adlesu,

(b)mai’r unig gydnabyddiaeth arall (os o gwbl) ar gyfer y gwerthu yw talu arian (boed mewn sterling neu mewn arian arall) neu ysgwyddo, fodloni neu ollwng dyled (neu’r ddau),

(c)nad yw’r gwerthu yn drosglwyddiad hawliau o fewn ystyr adran 12 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddo hawliau) nac yn drafodiad cyn-gwblhau o fewn ystyr Atodlen 2 (trafodiadau cyn-gwblhau), a

(d)pan fo A a B ill dau yn gyrff corfforaethol ar y dyddiad y mae’r trafodiad adlesu yn cael effaith, nad ydynt yn aelodau o’r un grŵp at ddibenion rhyddhad grŵp (gweler Atodlen 16) ar y dyddiad hwnnw.

(2)Yn is-baragraff (1)(b), ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 9 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3