Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017
2017 dccc 2
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer strategaeth genedlaethol ar fynd i’r afael â gordewdra; ynghylch ysmygu; ar gyfer cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin; ynghylch rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed; ynghylch rhoi triniaethau penodol at ddibenion esthetig neu therapiwtig; ynghylch rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn; ynghylch asesiadau o’r effaith ar iechyd; ynghylch asesu’r angen lleol am wasanaethau fferyllol; ynghylch rhestrau fferyllol; ynghylch asesu’r angen lleol am doiledau cyhoeddus; ynghylch derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd; ac at ddibenion cysylltiedig.
[3 Gorffennaf 2017]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
RHAN 1LL+CTROSOLWG
1TrosolwgLL+C
(1)Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.
(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer strategaeth genedlaethol ar fynd i’r afael â gordewdra.
(3)Mae Rhan 3 yn ymwneud â thybaco a chynhyrchion nicotin. Mae’n—
(a)gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar ysmygu mewn gweithleoedd, mewn mannau cyhoeddus, mewn lleoliadau gofal awyr agored i blant, yn nhir ysgolion, yn nhir ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus, ac mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cyfyngu ar ysmygu mewn mangreoedd eraill, ac mewn cerbydau;
(b)gwneud darpariaeth fel bod cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin yng Nghymru;
(c)rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu troseddau at ddiben gwneud gorchmynion, mewn cysylltiad â mangreoedd yng Nghymru, sy’n cyfyngu ar werthu drwy fanwerthu dybaco neu gynhyrchion nicotin;
(d)ei gwneud yn drosedd i berson roi tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin i rywun o dan 18 oed nad yw yng nghwmni oedolyn, pan fo’r tybaco (neu’r papurau sigaréts neu’r cynnyrch nicotin) yn cael ei ddanfon neu ei gasglu o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad â’i werthu, a phan na fo’r tybaco (neu’r papurau sigaréts neu’r cynnyrch nicotin) mewn pecyn sydd wedi ei selio ac sydd â chyfeiriad arno.
(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch trwyddedau ar gyfer rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru (fel y’u diffinnir yn adran 57): gweler trosolwg pellach o Ran 4 yn adran 56.
(5)Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru roi twll, neu wneud trefniadau i roi twll, mewn rhan bersonol o gorff person o dan 18 oed; ac mae’n diffinio’r term “rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff” drwy gyfeirio at rannau penodol o’r corff.
(6)Mae Rhannau 3 i 5 hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch gorfodi, gan gynnwys ynghylch troseddau a phwerau mynediad.
(7)Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd.
(8)Mae Rhan 7—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru lunio a chyhoeddi asesiad o’r angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal, a rhoi sylw iddo wrth ystyried ceisiadau i gynnwys person neu gofnod mewn cysylltiad â mangre ar ei restr fferyllol;
(b)yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch amgylchiadau pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol wahodd ceisiadau i gynnwys person neu gofnod mewn cysylltiad â mangre ar ei restr fferyllol, a phan gaiff dynnu person oddi ar ei restr fferyllol.
(9)Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol, sy’n asesu’r angen am doiledau cyhoeddus yn ei ardal ac sy’n nodi’r camau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i ddiwallu’r angen hwnnw.
(10)Mae Rhan 8 hefyd yn ailddatgan y pŵer statudol presennol i awdurdod lleol ddarparu toiledau yn ei ardal.
(11)Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig mewn cysylltiad â throseddau sgorio hylendid bwyd.
(12)Mae Rhan 9 hefyd yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch troseddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig; ynghylch pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf; ac ynghylch dwyn darpariaethau’r Ddeddf i rym.
RHAN 2LL+CGORDEWDRA
2Strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra: cyhoeddi ac adolyguLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra, a lleihau lefelau gordewdra, yng Nghymru.
(2)Rhaid i’r strategaeth—
(a)pennu amcanion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddant, os y’u cyflawnir, yn cyfrannu at atal gordewdra;
(b)pennu amcanion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddant, os y’u cyflawnir, yn cyfrannu at leihau lefelau gordewdra;
(c)nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyflawni’r amcanion penodedig.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r strategaeth—
(a)ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth am y tro cyntaf, a
(b)ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o dair blynedd.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r strategaeth ar unrhyw adeg.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio’r strategaeth, rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol—
(a)cyn iddynt gyhoeddi’r strategaeth am y tro cyntaf, a
(b)ar ôl hynny, cyn pob adolygiad o dan is-adran (3).
3Gweithredu’r strategaeth genedlaetholLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 2.
(2)Yn dilyn pob adolygiad o’r strategaeth o dan adran 2(3) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cynnydd.
(3)Mae adroddiad cynnydd yn adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth.
Yn ddilys o 29/09/2020
RHAN 3LL+CTYBACO A CHYNHYRCHION NICOTIN
PENNOD 1LL+CYSMYGU
Yn ddilys o 01/03/2021
CyflwyniadLL+C
4YsmyguLL+C
Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at ysmygu yn gyfeiriadau at ysmygu tybaco neu unrhyw beth sy’n cynnwys tybaco, neu at ysmygu unrhyw sylwedd arall; ac mae ysmygu yn cynnwys bod â meddiant ar dybaco sydd wedi ei danio neu ar unrhyw beth sydd wedi ei danio ac sy’n cynnwys tybaco, neu fod â meddiant ar unrhyw sylwedd arall sydd wedi ei danio ar ffurf y gellid ei ysmygu.
TroseddauLL+C
Yn ddilys o 01/03/2021
5Y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwgLL+C
(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn ysmygu—
(a)mewn mangre ddi-fwg;
(b)mewn cerbyd di-fwg.
(2)Am ddarpariaeth ynghylch mangreoedd di-fwg, gweler adrannau 7 i 14.
(3)Am ddarpariaeth ynghylch cerbydau di-fwg, gweler adran 15.
(4)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon ddangos nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, fod y fangre neu’r cerbyd o dan sylw yn fangre ddi-fwg neu’n gerbyd di-fwg.
(5)Os yw person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon yn dibynnu ar yr amddiffyniad yn is-adran (4), ac y dygir tystiolaeth sy’n ddigonol i godi mater mewn cysylltiad â’r amddiffyniad hwnnw, rhaid i’r llys gymryd bod yr amddiffyniad wedi ei fodloni oni bai bod yr erlyniad yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol nad yw wedi ei fodloni.
(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.
6Y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwgLL+C
(1)Rhaid i berson a chanddo reolaeth dros fangre sy’n ddi-fwg neu sy’n ymwneud â rheoli mangre sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 (gweithleoedd) neu 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd) gymryd camau rhesymol i beri i berson sy’n ysmygu yno beidio ag ysmygu.
(2)Rhaid i berson a chanddo reolaeth dros fangre, neu sy’n ymwneud â rheoli mangre, o fewn adran 9(3) (mangreoedd gofal dydd cofrestredig) sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 9 gymryd camau rhesymol i beri i berson sy’n ysmygu yno beidio ag ysmygu.
(3)Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru i weithredu fel gwarchodwr plant o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) gymryd camau rhesymol i beri i berson sy’n ysmygu mewn mangre o fewn is-adran (4) beidio ag ysmygu.
(4)Mae mangre o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw’n rhan o fangre sy’n fan preswylio arferol y person cofrestredig y cyfeirir ato yn is-adran (3), a
(b)os yw’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 9.
(5)Caiff rheoliadau ddarparu i ddyletswydd sy’n cyfateb i’r un a grybwyllir yn is-adran (1) mewn perthynas—
(a)â mangreoedd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd adran 10, 11 neu 12,
(b)â mangreoedd a drinnir fel pe baent yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 13, neu
(c)â cherbydau a drinnir fel pe baent yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 15,
gael ei gosod ar berson, neu ddisgrifiad o berson, a bennir yn y rheoliadau.
(6)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â dyletswydd yn is-adran (1), (2) neu (3), neu unrhyw ddyletswydd gyfatebol mewn rheoliadau o dan is-adran (5), yn cyflawni trosedd.
(7)Mae’n amddiffyniad i berson (“A”) sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon ddangos nad oedd A yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, fod y person o dan sylw yn ysmygu.
(8)Os yw person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon yn dibynnu ar yr amddiffyniad yn is-adran (7), ac y dygir tystiolaeth sy’n ddigonol i godi mater mewn cysylltiad â’r amddiffyniad hwnnw, rhaid i’r llys gymryd bod yr amddiffyniad wedi ei fodloni oni bai bod yr erlyniad yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol nad yw wedi ei fodloni.
(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
Mangreoedd di-fwgLL+C
Yn ddilys o 01/03/2021
7GweithleoeddLL+C
(1)Mae mangreoedd yng Nghymru yn ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon os ydynt yn weithleoedd.
(2)Ystyr “gweithle” yw mangre—
(a)a ddefnyddir fel man gwaith gan fwy nag un person (hyd yn oed os yw’r personau sy’n gweithio yno yn gwneud hynny ar adegau gwahanol, neu’n ysbeidiol yn unig), neu
(b)a ddefnyddir fel man gwaith gan ddim mwy nag un person ond y gallai aelodau o’r cyhoedd fynd iddo at ddiben ceisio neu gael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth y person sy’n gweithio yno (hyd yn oed os nad yw aelodau o’r cyhoedd bob amser yn bresennol).
(3)Os dim ond rhan o’r fangre a ddefnyddir fel man gwaith, dim ond i’r graddau hynny y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
(4)Dim ond yn yr ardaloedd hynny sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
(5)Mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon drwy’r amser (gan gynnwys pan nas defnyddir fel man gwaith), ac eithrio nad yw mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd, sy’n ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon, ond yn ddi-fwg pan y’i defnyddir fel man gwaith.
(6)Mae “gwaith”, yn is-adran (2), yn cynnwys gwaith gwirfoddol.
(7)Gweler adran 16 am esemptiadau.
Yn ddilys o 01/03/2021
8Mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoeddLL+C
(1)I’r graddau nad ydynt yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 7 (gweithleoedd), mae mangreoedd yng Nghymru yn ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon os ydynt ar agor i’r cyhoedd.
(2)Mae mangreoedd ar agor i’r cyhoedd at ddibenion yr adran hon os oes gan y cyhoedd neu garfan o’r cyhoedd fynediad iddynt, pa un ai drwy wahoddiad ai peidio, a pha un a delir am fynediad ai peidio.
(3)Os dim ond rhan o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, dim ond i’r graddau hynny y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
(4)Dim ond yn yr ardaloedd hynny sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
(5)Dim ond pan yw ar agor i’r cyhoedd y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
(6)Gweler adran 16 am esemptiadau.
Yn ddilys o 01/03/2021
9Lleoliadau gofal awyr agored i blantLL+C
(1)Mae lleoliadau gofal awyr agored yng Nghymru yn ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon.
(2)Mae mangre yn lleoliad gofal awyr agored i’r graddau—
(a)nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig, a
(b)y mae o fewn is-adran (3) neu (4).
(3)Mae mangre o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) (“Mesur 2010”) fel mangre y mae person wedi ei awdurdodi i ddarparu gofal dydd i blant ynddi, neu
(b)os yw’n rhan o fangre sydd wedi ei chofrestru yn y modd hwnnw.
(4)Mae mangre o fewn yr adran hon os yw’n rhan o fangre (y “mangre ddomestig”) sy’n fan preswylio arferol person sydd wedi ei gofrestru i weithredu fel gwarchodwr plant o dan Ran 2 o Fesur 2010.
(5)Nid yw lleoliad gofal awyr agored o fewn is-adran (3) yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon ond pan yw gofal dydd i blant yn cael ei ddarparu—
(a)yn y lleoliad gofal awyr agored, neu
(b)mewn mangre sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Fesur 2010 (pa un a yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig ai peidio) y mae’r lleoliad gofal awyr agored yn rhan ohoni.
(6)Nid yw lleoliad gofal awyr agored o fewn is-adran (4) yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon ond—
(a)pan yw’r gwarchodwr plant yn gweithredu fel gwarchodwr plant yn y fangre ddomestig (pa un ai mewn rhan ohoni sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig ai peidio) ar gyfer o leiaf un plentyn, a
(b)pan yw’r plentyn hwnnw neu, yn ôl y digwydd, o leiaf un o’r plant hynny yn y lleoliad gofal awyr agored.
(7)At ddibenion yr adran hon, mae i’r cyfeiriadau at ddarparu gofal dydd a gweithredu fel gwarchodwr plant yr un ystyr ag ym Mesur 2010.
(8)Nid yw mangre i gael ei thrin fel pe bai o fewn is-adran (3) neu (4) i’r graddau y mae’n dir ysgol (gweler adran 10 (tir ysgolion) am hyn).
10Tir ysgolionLL+C
(1)Mae mangre yng Nghymru yn ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon i’r graddau y mae’n dir ysgol.
(2)Yn achos mangre sy’n dir sy’n cydffinio â’r ysgol o dan sylw, dim ond pan yw’r naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn cael ei ddefnyddio at ddiben addysg neu ofal plant y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon—
(a)y tir, neu unrhyw ran o’r tir, neu
(b)yr ysgol, neu unrhyw ran ohoni.
(3)Yn achos mangre sy’n dir nad yw’n cydffinio â’r ysgol o dan sylw, dim ond pan yw’r tir, neu unrhyw ran o’r tir, yn cael ei ddefnyddio at ddiben addysg neu ofal plant y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
(4)Mae tir ysgol, at ddibenion yr adran hon, yn fangre—
(a)a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan yr ysgol, at ddibenion sy’n cynnwys dibenion addysgol, dibenion chwaraeon neu ddibenion hamdden, a
(b)nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig.
(5)Yn achos ysgol sy’n darparu llety preswyl i ddisgyblion, caiff y person a chanddo ofal am yr ysgol ddynodi unrhyw ardal yn y tir yn ardal lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu, ac i’r graddau hynny mae’r fangre i gael ei thrin fel pe na bai’n ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon.
(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)sy’n pennu amodau sydd i gael eu bodloni cyn y caniateir i ardal gael ei dynodi o dan is-adran (5),
(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion o ddynodiadau, ac
(c)ynghylch yr amgylchiadau y mae dynodiad i beidio â chael effaith odanynt.
(7)Nid yw mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
11Tir ysbytaiLL+C
(1)Mae mangre yng Nghymru yn fangre ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon i’r graddau y mae’n dir ysbyty.
(2)Mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon drwy’r amser.
(3)Mae tir ysbyty, at ddibenion yr adran hon, yn fangre—
(a)sy’n cydffinio â’r ysbyty, a
(b)a ddefnyddir ganddo neu sydd wedi ei meddiannu ganddo, ond
(c)nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig.
(4)Caiff y person a chanddo ofal am yr ysbyty ddynodi unrhyw ardal yn y tir yn ardal lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu, ac i’r graddau hynny mae’r fangre i gael ei thrin fel pe na bai’n ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon.
(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)sy’n pennu amodau sydd i gael eu bodloni cyn y caniateir i ardal gael ei dynodi o dan is-adran (4),
(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion o ddynodiadau, ac
(c)ynghylch yr amgylchiadau y mae dynodiad i beidio â chael effaith odanynt.
(6)Nid yw mangre sy’n gartref gofal i oedolion neu’n hosbis i oedolion, na mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd, yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
Yn ddilys o 01/03/2021
12Meysydd chwarae cyhoeddusLL+C
(1)Mae mangre yng Nghymru yn fangre ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon i’r graddau y mae’n faes chwarae cyhoeddus.
(2)O ran y fangre—
(a)os yw o fewn ffiniau sydd wedi eu marcio’n glir, mae’n ddi-fwg yn yr ardal gyfan o fewn y ffiniau hynny;
(b)fel arall, nid yw’n ddi-fwg ond i’r graddau y mae o fewn pum metr i unrhyw eitem o gyfarpar maes chwarae.
(3)Mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon drwy’r amser.
(4)Mae mangre yn faes chwarae cyhoeddus at ddibenion yr adran hon—
(a)os yw wedi ei dylunio neu ei haddasu ar gyfer defnyddio un neu ragor o eitemau o gyfarpar maes chwarae gan blant,
(b)os oes gan awdurdod lleol neu gyngor cymuned, neu berson sy’n gweithredu yn rhinwedd trefniadau a wneir gydag awdurdod lleol neu gyngor cymuned, reolaeth drosti neu os yw i unrhyw raddau yn ymwneud â’i rheoli neu ei chynnal a’i chadw, neu’n gwneud trefniadau mewn cysylltiad â rheolaeth drosti, neu ei rheoli neu ei chynnal a’i chadw,
(c)os yw ar agor i’r cyhoedd, at ddiben (neu at brif ddiben) darparu cyfleusterau chwarae i blant, a
(d)os nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig.
Yn ddilys o 01/03/2021
13Mangreoedd di-fwg ychwanegolLL+C
(1)Caiff rheoliadau ddarparu i unrhyw fan yng Nghymru, neu ddisgrifiad o fan yng Nghymru, nad yw’n ddi-fwg yn rhinwedd adrannau 7 i 12 gael ei drin fel mangre ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon.
(2)Nid oes angen i’r man, neu’r mannau sy’n dod o fewn y disgrifiad, fod yn gaeedig neu’n sylweddol gaeedig.
(3)Dim ond os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod gwneud hynny yn debygol o gyfrannu at hybu iechyd pobl Cymru y caiff y rheoliadau ddarparu i fan neu ddisgrifiad o fan gael ei drin fel mangre ddi-fwg.
(4)Caiff y rheoliadau ddarparu mai dim ond—
(a)o dan amgylchiadau penodedig,
(b)ar adegau penodedig,
(c)os yw amodau penodedig wedi eu bodloni, neu
(d)mewn ardaloedd penodedig,
neu unrhyw gyfuniad o’r rhain, y mae’r mannau hynny, neu fannau sy’n dod o fewn y disgrifiad, i gael eu trin fel mangreoedd di-fwg.
(5)Caiff y rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer esemptiadau, gan gynnwys gosod amodau penodedig i gael eu bodloni er mwyn i esemptiad fod yn gymwys.
(6)Caiff yr amodau y caniateir iddynt gael eu pennu o dan is-adran (5) gynnwys amod bod y person a chanddo ofal am y man, neu am fan sy’n dod o fewn y disgrifiad, wedi dynodi, yn unol â’r rheoliadau, unrhyw ardaloedd lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu.
(7)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth mewn cysylltiad â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd; ac i’r graddau y maent yn gwneud darpariaeth i fangre a ddefnyddir yn rhannol fel annedd gael ei thrin fel mangre ddi-fwg, rhaid i reoliadau o dan yr adran hon gydymffurfio ag adran 14.
Yn ddilys o 01/03/2021
14Darpariaeth bellach ynghylch mangreoedd di-fwg ychwanegol: anheddauLL+C
(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 13 sy’n darparu i fangre a ddefnyddir yn rhannol fel annedd gael ei thrin fel mangre ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn.
(2)Dim ond mewn perthynas â’r ardaloedd hynny o fangreoedd o’r fath nad ydynt yn gaeedig nac yn sylweddol gaeedig y caiff y rheoliadau wneud darpariaeth.
(3)Ni chaiff y rheoliadau ddarparu i’r ardaloedd hynny gael eu trin fel mangreoedd di-fwg oni bai—
(a)eu bod yn weithleoedd (o fewn ystyr adran 7(2)), neu
(b)eu bod ar agor i’r cyhoedd (o fewn ystyr adran 8(2)).
(4)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu—
(a)nad yw’r ardaloedd hynny i gael eu trin fel mangreoedd di-fwg ond pan y’u defnyddir fel man gwaith neu pan ydynt ar agor i’r cyhoedd, a
(b)os dim ond rhan o ardal a ddefnyddir fel man gwaith neu sydd ar agor i’r cyhoedd, mai dim ond i’r graddau hynny y mae’r ardal i gael ei thrin fel pe bai’n ddi-fwg.
Cerbydau di-fwgLL+C
15Cerbydau di-fwgLL+C
(1)Mae cerbyd yng Nghymru yn ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon os yw rheoliadau o dan yr adran hon yn darparu iddo gael ei drin fel cerbyd di-fwg.
(2)Dim ond os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod gwneud hynny yn debygol o gyfrannu at hybu iechyd pobl Cymru y caiff y rheoliadau ddarparu i gerbyd gael ei drin fel cerbyd di-fwg.
(3)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—
(a)ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau sydd i gael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg;
(b)ar gyfer yr amgylchiadau y mae cerbydau i gael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg odanynt (gan gynnwys drwy gyfeirio at oedran unrhyw berson yn y cerbyd);
(c)i gerbydau gael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg mewn ardaloedd penodedig yn unig, neu ac eithrio mewn ardaloedd penodedig;
(d)ar gyfer esemptiadau.
(4)Ni chaniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn darparu i long neu hofrenfad o fewn is-adran (5) gael ei drin fel cerbyd di-fwg.
(5)Mae llong neu hofrenfad o fewn yr is-adran hon os gellid gwneud rheoliadau mewn perthynas ag ef o dan adran 85 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p.21) gan gynnwys yr adran honno fel y’i cymhwysir gan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 1(1)(h) o Ddeddf Hofrenfadau 1968 (p.59).
Mangreoedd di-fwg: esemptiadauLL+C
16Mangreoedd di-fwg: esemptiadauLL+C
(1)Caiff rheoliadau ddarparu i fangreoedd—
(a)a fyddai fel arall yn fangreoedd di-fwg yn rhinwedd adran 7 (gweithleoedd) neu 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd), a
(b)nad ydynt yn fangreoedd di-fwg yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Bennod hon,
gael eu trin fel pe na baent yn fangreoedd di-fwg at ddibenion y Bennod hon.
(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth mewn perthynas â disgrifiadau penodedig o fangreoedd neu ardaloedd penodedig o fewn disgrifiadau penodedig o fangreoedd.
(3)Caiff y rheoliadau ddarparu, mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o fangreoedd neu ardaloedd o fangreoedd a bennir yn y rheoliadau, fod y mangreoedd neu’r ardaloedd i gael eu trin fel pe na baent yn fangreoedd di-fwg—
(a)o dan amgylchiadau penodedig,
(b)ar adegau penodedig, neu
(c)os yw amodau penodedig wedi eu bodloni,
neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.
(4)Caiff yr amodau y caniateir iddynt gael eu pennu o dan is-adran (3)(c) gynnwys amod bod y person a chanddo ofal am y fangre wedi dynodi, yn unol â’r rheoliadau, ardaloedd lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu.
ArwyddionLL+C
17Arwyddion: mangreoedd di-fwgLL+C
(1)Rhaid i berson sy’n meddiannu mangre ddi-fwg neu sy’n ymwneud â rheoli mangre ddi-fwg sicrhau bod arwyddion yn cael eu harddangos yn y fangre honno yn unol â rheoliadau o dan yr is-adran hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r arwyddion i gael eu harddangos a chânt bennu gofynion y mae rhaid i’r arwyddion gydymffurfio â hwy (er enghraifft, gofynion o ran cynnwys, maint, dyluniad, lliw neu eiriad).
(3)Caiff rheoliadau o dan yr is-adran hon ddarparu i ddyletswydd sy’n cyfateb i’r un a grybwyllir yn is-adran (1) mewn perthynas—
(a)â mangreoedd a drinnir fel pe baent yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 13,
(b)â cherbydau a drinnir fel pe baent yn ddi-fwg yn rhinwedd adran 15,
gael ei gosod ar berson, neu berson o ddisgrifiad, a bennir yn y rheoliadau.
(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) neu (3) gynnwys darpariaeth ynghylch yr arwyddion sydd i gael eu harddangos mewn mangreoedd, ardaloedd o fangreoedd neu gerbydau sydd, yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 13(5), 15(3)(d) neu 16, i gael eu trin fel pe na baent yn ddi-fwg, ond a fyddai fel arall yn ddi-fwg o dan y Bennod hon neu yn rhinwedd y Bennod hon.
(5)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1), neu unrhyw ddyletswydd gyfatebol mewn rheoliadau o dan is-adran (3), yn cyflawni trosedd.
(6)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon ddangos—
(a)nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, fod y fangre yn ddi-fwg (neu, yn ôl y digwydd, fod y man neu’r cerbyd i gael ei drin fel pe bai’n ddi-fwg),
(b)nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, nad oedd arwyddion sy’n cydymffurfio â gofynion yr adran hon yn cael eu harddangos yn unol â gofynion yr adran hon, neu
(c)ei bod, ar seiliau eraill, yn rhesymol i’r person beidio â chydymffurfio â’r ddyletswydd.
(7)Os yw person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon yn dibynnu ar amddiffyniad yn is-adran (6), ac y dygir tystiolaeth sy’n ddigonol i godi mater mewn cysylltiad â’r amddiffyniad hwnnw, rhaid i’r llys gymryd bod yr amddiffyniad wedi ei fodloni oni bai bod yr erlyniad yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol nad yw wedi ei fodloni.
(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(9)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth mewn cysylltiad â mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd.
GorfodiLL+C
18Awdurdodau gorfodiLL+C
(1)Mae pob awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i weithredu fel awdurdod gorfodi mewn perthynas â mangreoedd, mannau a cherbydau sydd yn ei ardal.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i brif swyddog heddlu ardal heddlu, yn ogystal, gael ei awdurdodi i weithredu fel awdurdod gorfodi mewn perthynas â cherbydau sydd yn yr ardal heddlu honno.
(3)Rhaid i awdurdod gorfodi orfodi darpariaethau’r Bennod hon a rheoliadau a wneir odani o ran y mangreoedd, y mannau a’r cerbydau y mae, yn rhinwedd yr adran hon, wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas â hwy.
(4)Caiff awdurdod gorfodi wneud trefniadau ag awdurdod gorfodi arall i achos y mae’n delio ag ef drwy arfer ei swyddogaethau at ddibenion y Bennod hon gael ei drosglwyddo (neu ei drosglwyddo ymhellach, neu ei drosglwyddo yn ôl) i’r awdurdod arall hwnnw ac i’r awdurdod arall hwnnw ei gymryd drosodd.
(5)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at swyddog awdurdodedig yn gyfeiriadau at unrhyw berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod gorfodi ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod gorfodi at ddibenion y Bennod hon.
Yn ddilys o 01/03/2021
19Pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—
(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni yn y fangre, a
(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre drwy rym o dan yr adran hon.
(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 18(5) cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon.
(5)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
Yn ddilys o 01/03/2021
20Gwarant i fynd i mewn i anneddLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 neu 6 wedi ei chyflawni yn y fangre, a
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
(4)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
Yn ddilys o 01/03/2021
21Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraillLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni yn y fangre,
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac
(c)bod gofyniad a nodir yn is-adran (3) neu (4) wedi ei fodloni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)Y gofyniad yw—
(a)bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a
(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod gorfodi ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.
(4)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(5)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
(6)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
Yn ddilys o 01/03/2021
22Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 19, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 20 neu 21, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 20 neu 21 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant—
(a)rhaid rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;
(b)rhaid i’r swyddog gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig;
(c)rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;
(d)rhaid i’r swyddog gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.
(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 20 neu 21 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
(4)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
Yn ddilys o 01/03/2021
23Pwerau arolygu etc.LL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 19, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 20 neu 21, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni—
(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono;
(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.
(2)Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.
(3)Os yw’r swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—
(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
(6)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
(7)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.
Yn ddilys o 01/03/2021
24Rhwystro etc. swyddogionLL+C
(1)Mae unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 19 i 23 yn cyflawni trosedd.
(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—
(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 23(1), neu
(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 23(1)(b) neu (d),
yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 23(7).
Yn ddilys o 01/03/2021
25Eiddo a gedwir: apelauLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 23(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.
(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.
(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p.30).
Yn ddilys o 01/03/2021
26Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 23(1)(c)(“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—
(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, a
(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.
(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod gorfodi ddigolledu P.
27Hysbysiadau cosb benodedigLL+C
(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu bod person wedi cyflawni y naill neu’r llall o’r troseddau a ganlyn mewn mangre, man neu gerbyd y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas â hi neu mewn perthynas ag ef—
(a)trosedd o dan adran 5(1);
(b)trosedd o dan adran 17(5),
caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd.
(2)Pan fo gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 6(6) mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y dibenion a grybwyllir yn is-adran (4), y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas ag ef, caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd.
(3)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson i gael ei ryddhau o fod yn agored i euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu cosb benodedig.
(4)Y dibenion yw dibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill y person y mae’r swyddog awdurdodedig yn credu ei fod wedi cyflawni’r drosedd.
(5)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth, mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael eu trin fel cyfeiriadau at y bartneriaeth.
(6)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael eu trin fel cyfeiriadau at y gymdeithas.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “partneriaeth” yw—
(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p.39), neu
(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p.24).
(8)Am ddarpariaeth bellach ynghylch cosbau penodedig, gweler Atodlen 1.
CyffredinolLL+C
28Dehongli’r Bennod honLL+C
(1)Yn y Bennod hon—
mae “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) i gael ei ddehongli yn unol ag adran 18;
ystyr “cartref gofal i oedolion” (“adult care home”) yw mangre lle y darperir gwasanaeth cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn;
mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys trên, tram, cwch neu long, hofrenfad ac awyren;
mae “cyfarpar maes chwarae” (“playground equipment”) yn cynnwys (er enghraifft) siglen, llithren, pwll tywod, neu ramp, ond nid yw’n cynnwys cyfarpar â modur (megis cyfarpar sy’n rhedeg ar fodur trydanol);
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);
mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);
ystyr “gofal plant” (“childcare”) yw (yn ddarostyngedig i is-adran (2)) unrhyw ffurf ar ofal ar gyfer plentyn, ac eithrio gofal a ddarperir ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth i’r plentyn, ac mae’n cynnwys—
(a)
addysg ar gyfer plentyn, a
(b)
unrhyw weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn;
ystyr “hosbis i oedolion” (“adult hospice”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu gofal lliniarol i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn, sy’n dioddef o glefyd sy’n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf, gan neu ar ran sefydliad â’i brif swyddogaeth yw darparu gofal o’r fath;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—
(b)
strwythur symudol ac eithrio cerbyd;
ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â phlentyn, yw llys-riant, mam-gu/nain, tad-cu/taid, modryb, ewythr, brawd neu chwaer (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41)) dros blentyn;
mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir gan adran 18(5);
mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);
mae “ysmygu” (“smoking” a “smokes”) i gael ei ddarllen yn unol ag adran 4.
(2)Nid yw cyfeiriadau yn y Bennod hon at “gofal plant” yn cynnwys—
(a)addysg (neu unrhyw weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth) a ddarperir gan ysgol yn ystod oriau ysgol ar gyfer disgybl cofrestredig, neu
(b)unrhyw ffurf ar ofal iechyd ar gyfer plentyn.
(3)At ddibenion is-adran (1) mae person yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn os yw’r person—
(a)yn rhiant maeth awdurdod lleol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)), neu
(b)yn maethu’r plentyn yn breifat.
(4)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at “annedd” yn cynnwys tir a fwynheir gyda mangre pan fo’r fangre ei hun yn annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 246 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)) sy’n fwy na 0.809 hectar.
(5)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon, sut bynnag y’u mynegir, at fangreoedd neu gerbydau sy’n ddi-fwg (neu nad ydynt yn ddi-fwg) (neu sy’n cael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg) yn gyfeiriadau at y mangreoedd hynny neu’r cerbydau hynny i’r graddau y maent yn ddi-fwg (neu nad ydynt yn ddi-fwg) (neu’n cael eu trin fel pe baent yn ddi-fwg) o dan y Bennod hon neu yn rhinwedd y Bennod hon.
(6)Gall mangreoedd fod yn ddi-fwg yn rhinwedd mwy nag un adran yn y Bennod hon.
(7)Caiff rheoliadau bennu at ddiben y Bennod hon ystyr “caeedig”, “sylweddol gaeedig” ac “nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig”.
Yn ddilys o 01/03/2021
29Diwygiadau canlyniadolLL+C
Am ddiwygiadau o ganlyniad i’r Bennod hon, gweler Atodlen 2.
Rhagolygol
PENNOD 2LL+CMANWERTHWYR TYBACO A CHYNHYRCHION NICOTIN
Cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotinLL+C
30Dyletswydd i gynnal cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotinLL+C
(1)Rhaid i’r awdurdod cofrestru gynnal cofrestr o bersonau sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre yng Nghymru (“y gofrestr”).
(2)Mae’r awdurdod cofrestru at y diben hwn yn berson a bennir felly mewn rheoliadau.
(3)At ddibenion y Bennod hon ystyr “busnes tybaco neu nicotin” yw busnes sy’n ymwneud â gwerthu drwy fanwerthu dybaco neu bapurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin.
(4)Rhaid i bob cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y person;
(b)cyfeiriad pob un o’r mangreoedd lle y mae busnes tybaco neu nicotin yn cael ei gynnal gan y person hwnnw;
(c)a yw’r person yn gwerthu—
(i)tybaco neu bapurau sigaréts,
(ii)cynhyrchion nicotin, neu
(iii)unrhyw gyfuniad o’r eitemau hynny,
yn y mangreoedd hynny;
(d)yn achos mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, enw pob awdurdod lleol y mae’r busnes yn cael ei gynnal yn ei ardal.
(5)At ddiben is-adran (4)(a), enw a chyfeiriad person yw—
(a)yn achos unigolyn—
(i)enw’r unigolyn ac, os yw’n wahanol, enw masnachu’r unigolyn, a
(ii)cyfeiriad man preswylio arferol yr unigolyn;
(b)yn achos cwmni—
(i)ei enw ac, os yw’n wahanol, ei enw masnachu, a
(ii)cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig;
(c)yn achos partneriaeth ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig—
(i)enw pob partner ac, os yw’n wahanol, enw masnachu’r bartneriaeth, a
(ii)cyfeiriad man preswylio arferol pob partner;
(d)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig—
(i)ei henw cofrestredig ac, os yw’n wahanol, ei henw masnachu, a
(ii)cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.
(6)Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n wybodaeth o ddisgrifiad y mae’n ofynnol, drwy reoliadau o dan adran 31(3)(b), ei chynnwys mewn cais i gofrestru.
(7)At ddibenion y Bennod hon—
(a)mae person wedi ei gofrestru os yw enw’r person wedi ei gofnodi yn y gofrestr, ac mae ymadroddion cysylltiedig eraill i gael eu dehongli yn unol â hynny;
(b)mae cyfeiriadau at gofnod person yn y gofrestr yn gyfeiriadau at y cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw yn y gofrestr.
(8)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) bennu mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cofrestru.
(9)Yn achos mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, mae’r cyfeiriad sydd i gael ei gofnodi yn y gofrestr yn unol ag is-adran (4)(a) i gael ei drin fel cyfeiriad y fangre at ddiben is-adran (4)(b).
31Cais am gofnod yn y gofrestrLL+C
(1)Caniateir i gais gael ei wneud i’r awdurdod cofrestru—
(a)i berson gael ei gofrestru mewn cysylltiad â chynnal busnes tybaco neu nicotin, neu
(b)os yw’r ceisydd eisoes yn berson cofrestredig—
(i)i ychwanegu mangreoedd pellach at gofnod y person yn y gofrestr, neu
(ii)yn achos mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, i ychwanegu awdurdod lleol arall at gofnod y person yn y gofrestr.
(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1)—
(a)datgan enw a chyfeiriad y ceisydd (gweler adran 30(5) am hyn);
(b)os gwneir y cais o dan is-adran (1)(a), ddatgan cyfeiriad pob un o’r mangreoedd lle y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin;
(c)os gwneir y cais o dan is-adran (1)(b)(i), ddatgan cyfeiriad pob un o’r mangreoedd pellach lle y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin;
(d)datgan a yw’r ceisydd yn bwriadu gwerthu—
(i)tybaco neu bapurau sigaréts,
(ii)cynhyrchion nicotin, neu
(iii)unrhyw gyfuniad o’r eitemau hynny,
yn y mangreoedd a ddatgenir yn unol â pharagraff (b) neu (c);
(e)datgan a yw’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes mewn ffordd sy’n golygu gwneud trefniadau i dybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin—
(i)cael eu danfon i fangreoedd yng Nghymru, neu
(ii)yn dilyn gwerthiant a gyflawnir dros y ffôn, dros y rhyngrwyd neu drwy fath arall o dechnoleg electronig neu dechnoleg arall, gael eu casglu o fangre yng Nghymru;
(f)yn achos mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd—
(i)os gwneir y cais o dan is-adran (1)(a), ddatgan enw pob awdurdod lleol y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal y busnes tybaco neu nicotin yn ei ardal, a
(ii)os gwneir y cais o dan is-adran (1)(b)(ii), ddatgan enw pob awdurdod lleol ychwanegol y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin yn ei ardal.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)ynghylch ffurf cais o dan is-adran (1) a’r ffordd y mae i gael ei wneud;
(b)ynghylch gwybodaeth arall sydd i gael ei chynnwys mewn cais (gan gynnwys, yn achos cais gan berson sy’n bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(e), wybodaeth sy’n ymwneud â natur y trefniadau o dan sylw);
(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliad o ffi fynd gyda chais o dan is-adran (1)(a) neu (1)(b)(i).
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a
(b)cynnal ymgynghoriad ag unrhyw bersonau cynrychiadol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(5)Os yw’r fangre lle y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin yn strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, mae’r cyfeiriad a ddatgenir yn y cais yn unol ag is-adran (2)(a) i gael ei ddatgan fel cyfeiriad y fangre at ddiben is-adran (2)(b) ac (c).
32Caniatáu caisLL+C
(1)Rhaid i’r awdurdod cofrestru ganiatáu cais a wneir o dan adran 31 oni bai bod is-adran (2) neu (3) yn gymwys.
(2)Rhaid i’r awdurdod cofrestru beidio â chaniatáu’r cais i’r graddau y mae’n ymwneud â mangre a bennir yn y cais y mae gorchymyn mangre o dan gyfyngiad a wneir o dan adran 12A o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p.12) yn cael effaith mewn cysylltiad â hi.
(3)Rhaid i’r awdurdod cofrestru beidio â chaniatáu’r cais os yw gorchymyn gwerthu o dan gyfyngiad a wneir o dan adran 12B o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p.12) yn cael effaith mewn cysylltiad â’r ceisydd.
(4)Wrth ganiatáu cais a wneir o dan adran 31, rhaid i’r awdurdod cofrestru wneud y cofnod priodol neu’r newid priodol i gofnod yn y gofrestr.
33Dyletswydd i roi hysbysiad o newidiadau penodolLL+C
(1)Rhaid i berson cofrestredig roi i’r awdurdod cofrestru hysbysiad o unrhyw un neu ragor o’r materion a ganlyn—
(a)unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad y person o’r hyn a ddatgenir yn y gofrestr yn unol ag adran 30(4)(a);
(b)unrhyw newid yn yr hyn y mae’r person yn ei werthu o’r hyn a ddatgenir yng nghofnod y person yn y gofrestr yn unol ag adran 30(4)(c);
(c)os yw’r person yn peidio â chynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre a ddatgenir yng nghofnod y person yn y gofrestr;
(d)yn achos busnes tybaco neu nicotin sy’n cael ei gynnal mewn mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, os yw’r person yn peidio â chynnal y busnes yn ardal awdurdod lleol a ddatgenir yng nghofnod y person yn y gofrestr.
(2)Mae person yn peidio â chynnal busnes at ddiben is-adran (1)(c) neu (d) pan yw’r person hwnnw yn peidio â gwneud hynny am gyfnod di-dor o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau.
(3)Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-adran (1) gael ei roi o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â pha un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys—
(a)dyddiad y newid y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b);
(b)y dyddiad y mae’r person cofrestredig yn peidio â chynnal y busnes yn y fangre o dan sylw neu yn ardal yr awdurdod lleol o dan sylw.
(4)Os daw awdurdod lleol yn ymwybodol o unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) i (d) mewn cysylltiad â pherson cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin yn ei ardal, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r awdurdod cofrestru o’r mater hwnnw.
34Dyletswydd i ddiwygio’r gofrestrLL+C
(1)Rhaid i’r awdurdod cofrestru ddiwygio’r gofrestr—
(a)ar ôl cael hysbysiad o dan adran 33, i adlewyrchu’r hysbysiad;
(b)i gywiro unrhyw anghywirdebau yn y gofrestr y daw’n ymwybodol ohonynt ac eithrio drwy gael hysbysiad o dan adran 33.
(2)Ond os yw’r awdurdod cofrestru yn bwriadu diwygio’r gofrestr drwy newid neu ddileu cofnod person, rhaid iddo roi hysbysiad o’r diwygiad arfaethedig i’r person.
(3)Rhaid i’r hysbysiad roi rhesymau dros y diwygiad arfaethedig.
(4)Rhaid i’r awdurdod cofrestru beidio â newid na dileu cofnod person yn y gofrestr os yw’r awdurdod wedi ei fodloni, ar sail gwybodaeth a ddarperir iddo gan y person o fewn y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (5), fod cofnod y person yn gywir.
(5)Y cyfnod yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (2).
(6)Caiff rheoliadau ddarparu i’r awdurdod cofrestru godi ffi mewn cysylltiad â diwygio’r gofrestr o dan yr adran hon.
35Mynediad i’r gofrestrLL+C
(1)Rhaid i’r awdurdod cofrestru gyhoeddi rhestr sy’n nodi enw pob person cofrestredig a chyfeiriad pob un o’r mangreoedd a ddatgenir yng nghofnod y person yn y gofrestr fel mangre lle y mae busnes tybaco neu nicotin yn cael ei gynnal.
(2)Ond mewn cysylltiad â pherson cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, rhaid i’r rhestr a gyhoeddir o dan is-adran (1) nodi, yn lle cyfeiriad y fangre, enw pob awdurdod lleol a ddatgenir yng nghofnod y person yn y gofrestr.
(3)Rhaid i’r awdurdod cofrestru hefyd roi ar gael i awdurdod lleol yr holl wybodaeth arall a gynhwysir yn y gofrestr i’r graddau y mae’n ymwneud â mangre yn ardal yr awdurdod.
36Mangreoedd a eithrirLL+C
Nid yw darpariaethau’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â busnes tybaco neu nicotin i’r graddau y caiff ei gynnal mewn mangre o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
37Strwythurau symudol etc.LL+C
Caiff rheoliadau ddarparu i’r cymhwysiad o’r Bennod hon mewn perthynas â mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd fod yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.
TroseddauLL+C
38TroseddauLL+C
(1)Mae person sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre yng Nghymru heb gael ei gofrestru yn cyflawni trosedd.
(2)Mae person cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddatgenir yng nghofnod y person yn y gofrestr yn cyflawni trosedd.
(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys yn achos busnes tybaco neu nicotin sy’n cael ei gynnal mewn mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd.
(4)Mae person cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd yn ardal awdurdod lleol ac eithrio un a ddatgenir yng nghofnod y person yn y gofrestr yn cyflawni trosedd.
(5)Mae person cofrestredig sy’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag adran 33 (dyletswydd i hysbysu am newidiadau penodol) yn cyflawni trosedd.
(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(7)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2), (4) neu (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.
GorfodiLL+C
39Swyddogion awdurdodedigLL+C
Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at swyddog awdurdodedig yn gyfeiriadau at unrhyw berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Bennod hon.
40Pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—
(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 38(1), (2) neu (4) wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a
(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre drwy rym o dan yr adran hon.
(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 39.
41Gwarant i fynd i mewn i anneddLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 38(1), (2) neu (4) wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol, a
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
42Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraillLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (4) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 38(1), (2) neu (4) wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol,
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac
(c)bod gofyniad a nodir yn is-adran (2) neu (3) wedi ei fodloni.
(2)Y gofyniad yw—
(a)bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a
(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.
(3)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(4)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(5)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
43Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 40, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 41 neu 42, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 41 neu 42 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant—
(a)rhaid rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;
(b)rhaid i’r swyddog gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig;
(c)rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;
(d)rhaid i’r swyddog gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.
(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 41 neu 42 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
44Pwerau arolygu etc.LL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 40, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 41 neu 42, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 38(1), (2) neu (4) wedi ei chyflawni—
(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono;
(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.
(2)Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 38(1), (2) neu (4) wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.
(3)Os yw’r swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—
(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
(6)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.
45Rhwystro etc. swyddogionLL+C
(1)Mae unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 40 i 44 yn cyflawni trosedd.
(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—
(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 44(1), neu
(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 44(1)(b) neu (d),
yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 44(6).
46Pŵer i wneud pryniannau prawfLL+C
Caiff swyddog awdurdodedig wneud unrhyw bryniannau a threfniadau, a sicrhau y darperir unrhyw wasanaethau, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion y Bennod hon.
47Eiddo a gedwir: apelauLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 44(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.
(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 38(1), (2) neu (4) wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.
(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p.30).
48Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 44(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—
(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 38(1), (2) neu (4) wedi ei chyflawni, a
(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.
(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P.
49Hysbysiadau cosb benodedigLL+C
(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 38(2), (4) neu (5) yn ardal yr awdurdod lleol, caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd.
(2)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson i gael ei ryddhau o fod yn agored i euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu cosb benodedig.
(3)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y bartneriaeth.
(4)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y gymdeithas.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “partneriaeth” yw—
(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p.39), neu
(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p.24).
(6)Am ddarpariaeth bellach ynghylch cosbau penodedig, gweler Atodlen 1.
DehongliLL+C
50Dehongli’r Bennod honLL+C
(1)Yn y Bennod hon—
ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw’r person a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 30(2);
mae i “busnes tybaco neu nicotin” (“tobacco or nicotine business”) yr ystyr a roddir yn adran 30(3);
mae i “cofrestredig” ac “wedi ei gofrestru” (“registered”) yr ystyr a roddir yn adran 30(7);
ystyr “enw masnachu” (“trading name”) yw enw y mae person yn cynnal busnes tybaco neu nicotin odano;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a gynhelir o dan adran 30(1);
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan ac unrhyw strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd (ac eithrio trên, cwch neu long, awyren neu hofrenfad);
ystyr “partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig” (“limited liability partnership”) yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi ei ffurfio o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p.12);
mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 39;
mae “tybaco” (“tobacco”) yn cynnwys sigaréts, unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys tybaco ac y bwriedir ei ddefnyddio drwy’r geg neu’r trwyn, a chymysgeddau ysmygu y bwriedir eu defnyddio yn lle tybaco; ac mae “sigarét” (“cigarette”) yn cynnwys tybaco sydd wedi ei dorri ac sydd wedi ei rolio mewn papur, deilen dybaco, neu ddeunydd arall ar ffurf fel bod modd ei ddefnyddio ar unwaith i’w ysmygu.
(2)Ystyr “cynnyrch nicotin”, at ddibenion y Bennod hon, yw cynnyrch neu ddisgrifiad o gynnyrch a bennir mewn rheoliadau, ond nid yw’r canlynol i gael eu trin fel pe baent yn gynhyrchion nicotin—
(a)tybaco;
(b)papurau sigaréts;
(c)unrhyw ddyfais y bwriedir ei defnyddio i gymryd tybaco sydd wedi ei danio.
Rhagolygol
PENNOD 3LL+CGWAHARDDIAD AR WERTHU TYBACO A CHYNHYRCHION NICOTIN
51Gorchmynion mangre o dan gyfyngiad: trosedd o ran tybaco neu nicotinLL+C
Yn adran 12D o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p.12), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)In section 12A a “tobacco or nicotine offence” also means an offence specified in regulations made by the Welsh Ministers which is committed on any premises in Wales (which are accordingly “the premises in relation to which the offence is committed”).
(1B)An offence may be specified in regulations under subsection (1A) only if—
(a)the Welsh Ministers are satisfied that the offence is one that relates to the supply, sale, transport, display, offer for sale, advertising or possession of tobacco or nicotine products, and
(b)in the case of an offence that is triable only summarily, it is punishable by a fine of an amount corresponding to, or greater than, level 4 on the standard scale.
(1C)Regulations under subsection (1A) may include incidental, consequential or transitional provision.
(1D)Before making regulations under subsection (1A), the Welsh Ministers must—
(a)consider whether there are persons who appear to be representative of the interests of those likely to have an interest in the regulations (“representative persons”), and
(b)carry out consultation with any representative persons whom the Welsh Ministers consider it appropriate to consult.
(1E)The power of the Welsh Ministers to make regulations under subsection (1A) is exercisable by statutory instrument.
(1F)A statutory instrument containing regulations made by the Welsh Ministers under subsection (1A) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by resolution of, the National Assembly for Wales.”
Rhagolygol
PENNOD 4LL+CRHOI TYBACO ETC. I BERSONAU O DAN 18 OED
52Y drosedd o roi tybaco etc. i bersonau o dan 18 oedLL+C
(1)Mae person (“A”) yn cyflawni trosedd—
(a)os yw A, mewn cysylltiad â threfniadau o dan adran 53, yn rhoi yng Nghymru dybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed (“B”),
(b)os nad yw’r rhoi yn digwydd naill ai—
(i)yng nghwrs crefft, proffesiwn, busnes neu gyflogaeth B, neu
(ii)yng ngŵydd person arall sy’n 18 oed neu’n hŷn,
(c)os yw A, ar adeg y rhoi, yn gwybod bod tybaco neu bapurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin (pa un bynnag sy’n gymwys) yn cael eu rhoi, ac
(d)pan roddir y tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin, os nad ydynt mewn pecyn—
(i)sydd wedi ei selio, a
(ii)sydd â chyfeiriad arno, at ddiben ei ddanfon i’r cyfeiriad hwnnw yn unol â threfniadau o fewn adran 53.
(2)Ystyr “pecyn” yn is-adran (1)(d) yw pecyn yn ychwanegol at y pecyn gwreiddiol y mae’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin wedi eu cyflenwi ynddo at ddiben eu gwerthu drwy fanwerthu gan eu gwneuthurwr neu eu mewnforiwr.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4)Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—
(a)bod y cyhuddedig yn credu, pan ddigwyddodd y rhoi, fod y person y rhoddwyd y tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin iddo, neu berson arall a oedd yn bresennol ar adeg y rhoi, yn 18 oed neu’n hŷn, a
(b)naill ai—
(i)bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu
(ii)na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person o dan 18 oed.
(5)At ddibenion is-adran (4)(b), mae’r cyhuddedig i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person—
(a)os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a
(b)pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.
(6)Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “cyflogaeth” yw unrhyw gyflogaeth, pa un ai â thâl neu’n ddi-dâl, ac mae’n cynnwys—
(a)gwaith o dan gontract am wasanaethau neu fel deiliad swydd, a
(b)profiad gwaith a ddarperir yn unol â chwrs neu raglen hyfforddi neu yng nghwrs hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth.
53Trefniadau mewn cysylltiad â rhoi tybaco etc.LL+C
(1)Mae trefniadau o fewn yr adran hon os ydynt, mewn perthynas â rhoi tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin—
(a)yn drefniadau i’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin gael eu danfon i fangre yng Nghymru, a
(b)wedi eu gwneud mewn cysylltiad â gwerthu’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin o dan sylw.
(2)Mae trefniadau hefyd o fewn yr adran hon os ydynt, mewn perthynas â rhoi tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin—
(a)yn drefniadau i’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin gael eu casglu o fangre yng Nghymru, a
(b)wedi eu gwneud mewn cysylltiad â gwerthu’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin o dan sylw.
(3)Ond nid yw is-adran (2) ond yn gymwys pan fo’r gwerthiant o dan sylw yn cael ei gyflawni dros y ffôn, dros y rhyngrwyd neu drwy unrhyw fath arall o dechnoleg electronig neu dechnoleg arall.
54GorfodiLL+C
Yn adran 5 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991 (p.23) (camau gorfodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr), yn is-adran (1)(a), ar ôl “persons under 18)” mewnosoder “, and in the case of a local authority in Wales, section 52 of the Public Health (Wales) Act 2017 (offence of handing over tobacco etc. to persons under 18)”.
55Dehongli’r Bennod honLL+C
Yn y Bennod hon—
ystyr “cynnyrch nicotin” (“nicotine product”) yw cynnyrch nicotin y gwaherddir ei werthu am y tro mewn cysylltiad â’r person y’i rhoddir iddo drwy reoliadau o dan adran 92 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p.6) (gwahardd gwerthu cynhyrchion i bersonau o dan 18 oed);
mae “tybaco” (“tobacco”) yn cynnwys sigaréts, unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys tybaco ac y bwriedir ei ddefnyddio drwy’r geg neu’r trwyn, a chymysgeddau ysmygu y bwriedir eu defnyddio yn lle tybaco; ac mae “sigarét” (“cigarette”) yn cynnwys tybaco sydd wedi ei dorri ac sydd wedi ei rolio mewn papur, deilen dybaco, neu ddeunydd arall ar ffurf fel bod modd ei ddefnyddio ar unwaith i’w ysmygu.
RHAN 4LL+CTRINIAETHAU ARBENNIG
Rhagolygol
CyflwyniadLL+C
56Trosolwg o’r Rhan honLL+C
(1)Mae’r Rhan hon yn darparu ei bod yn ofynnol i unigolion penodol sy’n rhoi triniaethau arbennig (gweler adran 57) yng Nghymru gael eu trwyddedu i wneud hynny gan awdurdod lleol os nad ydynt wedi eu hesemptio (gweler adran 60).
(2)Mae adran 62 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y meini prawf sydd i gael eu bodloni er mwyn i gais am drwydded gael ei ganiatáu.
(3)Mae adran 63 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amodau y bydd trwydded yn ddarostyngedig iddynt.
(4)Mae adrannau 65 i 68 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am drwydded ac ar gyfer dirymu trwydded; ac mae adran 75 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol gynnal cofrestr o’r unigolion hynny sydd wedi eu trwyddedu.
(5)Mae adrannau 69 i 74 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymeradwyo mangre y rhoddir triniaeth arbennig ynddi neu gerbyd y rhoddir triniaeth arbennig ynddo.
(6)Mae adran 76 yn galluogi awdurdod lleol i godi ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau triniaeth arbennig a chymeradwyaethau i fangreoedd a cherbydau.
(7)Mae adrannau 77 i 81 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau y caiff awdurdod lleol eu cyflwyno yn achos torri gofynion y Rhan hon, ynghylch cydymffurfio â hysbysiadau ac ynghylch apelau.
(8)Mae adran 82 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau o dan y Rhan hon.
(9)Mae adrannau 83 i 90 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch pwerau awdurdodau lleol i orfodi gofynion y Rhan hon, ac mae adrannau 91 a 92 yn gwneud darpariaeth ynghylch eiddo a gedwir o dan y Rhan hon.
Rhagolygol
Ystyr triniaeth arbennigLL+C
57Beth yw triniaeth arbennig?LL+C
Mae pob un o’r triniaethau a ganlyn yn driniaeth arbennig at ddibenion y Rhan hon—
(a)aciwbigo;
(b)tyllu’r corff;
(c)electrolysis;
(d)tatŵio.
Yn ddilys o 13/09/2024
Rhoi triniaeth arbennig: gofyniad trwyddeduLL+C
Rhagolygol
58Gofyniad i unigolyn sy’n rhoi triniaeth arbennig gael ei drwyddeduLL+C
(1)Mae’r gofynion a ganlyn yn gymwys mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig yng Nghymru.
(2)Rhaid i unigolyn sy’n rhoi triniaeth arbennig i rywun arall yng nghwrs busnes wneud hynny o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig, oni bai bod yr unigolyn sy’n rhoi’r driniaeth wedi ei esemptio o’r gofyniad i gael ei drwyddedu mewn cysylltiad â’r driniaeth honno.
(3)Rhaid i unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 sy’n rhoi triniaeth arbennig i rywun arall wneud hynny o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig, pa un a roddir y driniaeth yng nghwrs busnes ai peidio.
(4)Am ddarpariaeth ynghylch esemptiad o’r gofyniad i gael trwydded, gweler adran 60.
59Darpariaeth gyffredinol ynghylch trwyddedau triniaeth arbennigLL+C
(1)Mae trwydded triniaeth arbennig yn drwydded a ddyroddir gan awdurdod lleol o dan y Rhan hon.
(2)At ddibenion y Rhan hon, mae trwydded triniaeth arbennig yn awdurdodi i’r driniaeth arbennig (neu’r triniaethau arbennig hynny) a bennir yn y drwydded gael ei rhoi yng Nghymru gan ddeiliad y drwydded.
(3)Ond nid yw trwydded i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd yng Nghymru sydd naill ai wedi ei meddiannu neu ei feddiannu gan, neu sydd i unrhyw raddau yn cael ei rheoli neu ei reoli gan, neu sydd i unrhyw raddau o dan reolaeth—
(a)yr unigolyn sy’n rhoi’r driniaeth (“P”), neu
(b)pan fo P yn rhoi’r driniaeth o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau â pherson arall (“E”), E,
oni bai bod yr amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni.
(4)Yr amodau yw bod y fangre neu’r cerbyd—
(a)wedi ei nodi yn y drwydded, a
(b)wedi ei chymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo o dan adran 70 mewn cysylltiad â’r driniaeth.
(5)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os nad yw’r gofyniad yn adran 69(2) (triniaeth i gael ei chynnal mewn mangre neu gerbyd a gymeradwywyd yn unig), yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 69(8), yn gymwys mewn cysylltiad â’r fangre neu’r cerbyd o dan sylw.
(6)Mae’r cyfnod pan yw trwydded triniaeth arbennig yn awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi i gael ei bennu yn y drwydded, a rhaid i’r cyfnod naill ai—
(a)bod yn gyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod, sy’n dechrau â dyddiad a bennir yn y drwydded, neu
(b)bod yn gyfnod o dair blynedd, sy’n dechrau â dyddiad dyroddi’r drwydded.
(7)Am ddarpariaeth ynghylch ceisiadau am drwyddedau triniaeth arbennig, ac ynghylch amrywio, adnewyddu a dirymu trwyddedau triniaeth arbennig, gweler Atodlen 3.
(8)Yn y Rhan hon—
(a)mae cyfeiriadau at gyfnod y drwydded, mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yn gyfeiriadau at y cyfnod pan yw’r drwydded yn awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi;
(b)mae cyfeiriadau at ddeiliad y drwydded, mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yn gyfeiriadau at yr unigolyn y dyroddir y drwydded iddo;
(c)mae cyfeiriadau at drwydded dros dro yn gyfeiriadau at drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi am gyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod.
Yn ddilys o 13/09/2024
Esemptiad o’r gofyniad i gael trwyddedLL+C
60Unigolion sydd wedi eu hesemptioLL+C
(1)Mae unigolyn sy’n aelod o broffesiwn o fewn is-adran (2) i gael ei drin fel pe bai wedi ei esemptio o’r gofyniad i gael ei drwyddedu mewn cysylltiad â phob triniaeth arbennig ac eithrio unrhyw driniaeth arbennig a bennir at y diben hwn mewn rheoliadau neu o dan reoliadau mewn cysylltiad ag aelodau o’r proffesiwn hwnnw.
(2)Mae proffesiwn o fewn yr is-adran hon yn broffesiwn sy’n cael ei reoleiddio gan gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (ga) o adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).
(3)Caiff rheoliadau ddarparu bod unigolyn—
(a)sy’n aelod o broffesiwn nad yw o fewn is-adran (2) ond a bennir yn y rheoliadau neu o dan y rheoliadau, neu sy’n weithiwr o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau neu o dan y rheoliadau, a
(b)sydd wedi ei gofrestru, yn rhinwedd bod yn aelod o’r proffesiwn hwnnw neu’n weithiwr o’r disgrifiad hwnnw, mewn cofrestr gymhwysol,
i gael ei drin fel pe bai wedi ei esemptio o’r gofyniad i gael ei drwyddedu mewn cysylltiad â pha driniaeth arbennig bynnag a bennir at y diben hwn, yn y rheoliadau neu o dan y rheoliadau, mewn cysylltiad ag aelodau o’r proffesiwn hwnnw neu weithwyr o’r disgrifiad hwnnw.
(4)Mae pob un o’r cofrestrau a ganlyn yn gofrestr gymhwysol—
(a)cofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a bennir mewn rheoliadau neu o dan reoliadau;
(b)cofrestr wirfoddol sydd—
(i)wedi ei hachredu gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan adran 25G o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), a
(ii)wedi ei phennu mewn rheoliadau neu o dan reoliadau.
(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad â disgrifiadau gwahanol o unigolyn.
Rhagolygol
Dynodi at ddibenion gofyniad trwyddeduLL+C
61Dynodi unigolyn at ddibenion adran 58(3)LL+C
(1)Os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni, caiff awdurdod lleol roi hysbysiad o dan yr is-adran hon i unigolyn (“P”), sy’n dynodi P at ddibenion adran 58(3) mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Yr amod yw bod yr awdurdod wedi ei fodloni—
(a)bod P yn debygol o roi’r driniaeth i rywun arall yng Nghymru,
(b)bod y driniaeth fel y mae’n debygol o gael ei rhoi gan P yn y fath fodd yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol, ac
(c)er mwyn dileu neu leihau’r risg honno, ei bod yn briodol ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â’r gofyniad yn adran 58(3).
(3)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—
(a)esbonio pam y mae’r awdurdod wedi penderfynu dynodi P,
(b)pennu’r dyddiad gan ddechrau ag ef y mae’r dynodiad i gymryd effaith, ac
(c)gwahardd P rhag rhoi’r driniaeth arbennig o dan sylw, o ddechrau’r dyddiad hwnnw, ac eithrio o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig.
(4)Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan—
(a)y caiff P apelio o dan baragraff 18 o Atodlen 3 yn erbyn y penderfyniad, a
(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.
(5)Caniateir i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3)(b) fod yn ddyddiad yr hysbysiad, neu’n ddyddiad ar ôl hynny.
(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at driniaeth arbennig y dynodir unigolyn mewn cysylltiad â hi yn gyfeiriadau at y driniaeth a bennir yn yr hysbysiad o dan yr adran hon sy’n dynodi’r unigolyn.
(7)Caiff awdurdod lleol dynnu’n ôl ddynodiad o dan is-adran (1).
(8)Os yw awdurdod lleol yn tynnu’n ôl ddynodiad unigolyn o dan is-adran (1), rhaid iddo roi hysbysiad o hyn i’r unigolyn, sy’n pennu—
(a)y rhesymau dros dynnu’r dynodiad yn ôl;
(b)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae tynnu’r dynodiad yn ôl i gymryd effaith.
(9)Os tynnir yn ôl ddynodiad unigolyn o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig, mae’r gwaharddiad a osodir o dan is-adran (3)(c) mewn cysylltiad â’r driniaeth honno yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir o dan is-adran (8)(b) i ben.
Yn ddilys o 13/09/2024
Meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedu mandadolLL+C
62Meini prawf trwyddeduLL+C
(1)Rhaid i reoliadau nodi meini prawf y mae rhaid eu bodloni ar gais gan unigolyn (“ceisydd”) am drwydded triniaeth arbennig er mwyn i’r cais gael ei ganiatáu (“meini prawf trwyddedu”).
(2)Rhaid i’r meini prawf trwyddedu a bennir yn y rheoliadau fod yn rhai sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddangos gwybodaeth am—
(a)rheoli heintiau a chymorth cyntaf, yng nghyd-destun y driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi;
(b)y dyletswyddau a osodir, o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, ar berson sydd wedi ei awdurdodi gan drwydded triniaeth arbennig i roi’r driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi.
(3)Caiff y meini prawf y trwyddedu hefyd (ymhlith pethau eraill) ymwneud—
(a)â chymhwystra unigolyn i gael trwydded (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, safonau cymhwysedd);
(b)â’r fangre neu’r cerbyd y mae rhoi triniaeth arbennig ynddi neu ynddo i gael ei awdurdodi, neu y mae cyfarpar neu ddeunydd a ddefnyddir mewn triniaeth arbennig i gael ei gadw neu ei baratoi ynddi neu ynddo (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, y cyfleusterau sydd ar gael yno a safonau hylendid);
(c)â‘r cyfarpar sydd i’w ddefnyddio wrth roi triniaeth arbennig neu mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig.
(4)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol beidio â dyroddi neu adnewyddu trwydded oni bai bod mangre neu gerbyd a nodir yn y cais wedi ei harolygu neu ei arolygu yn unol â’r rheoliadau at ddiben dyfarnu ar gydymffurfedd â’r meini prawf trwyddedu.
(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—
(a)â disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau;
(b)â disgrifiadau gwahanol o driniaeth arbennig;
(c)â’r amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth arbennig, hyd unrhyw gyfnod y rhoddir triniaeth arbennig ynddo, ac a roddir triniaeth arbennig ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall).
63Amodau trwyddedu mandadolLL+C
(1)Rhaid i reoliadau nodi amodau trwyddedu mandadol sydd i fod yn gymwys i drwyddedau triniaeth arbennig.
(2)Rhaid i’r amodau trwyddedu mandadol a bennir yn y rheoliadau gynnwys amodau sy’n gosod gofynion mewn cysylltiad—
(a)â dilysu oedran unigolyn y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi iddo;
(b)â rheoli heintiau, safonau hylendid, a chymorth cyntaf;
(c)â’r ymgynghori sydd i gael ei gynnal cyn ac ar ôl rhoi triniaeth arbennig;
(d)â chadw cofnodion.
(3)Rhaid i’r amodau a bennir yn y rheoliadau hefyd gynnwys amod sy’n gwahardd rhoi triniaeth arbennig o dan amgylchiadau pan fo’r unigolyn y byddai’r driniaeth fel arall yn cael ei rhoi iddo yn feddw, neu yr ymddengys ei fod yn feddw, pa un ai yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.
(4)Caiff amodau trwyddedu mandadol hefyd wneud darpariaeth bellach sy’n ymwneud (ymhlith pethau eraill)—
(a)â’r fangre neu’r cerbyd y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi ynddi neu ynddo, neu y mae cyfarpar neu ddeunydd a ddefnyddir mewn triniaeth arbennig i gael ei gadw neu ei baratoi ynddi neu ynddo (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, y cyfleusterau a’r cyfarpar sydd ar gael yno, a glanhau a chynnal a chadw);
(b)â’r ffordd y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, y cyfarpar a ddefnyddir wrth roi’r driniaeth arbennig neu mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth arbennig, a dillad diogelu);
(c)â safonau cymhwysedd sy’n berthnasol i roi triniaeth arbennig (gan gynnwys safonau a bennir drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, gymwysterau neu brofiad), neu roi triniaeth arbennig i ran benodedig o gorff unigolyn;
(d)â’r wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddeiliad trwydded (pa un ai drwy arddangos yr wybodaeth neu fel arall), ac i ddeiliad trwydded, cyn ac ar ôl rhoi triniaeth arbennig;
(e)ag arddangos trwydded;
(f)â’r wybodaeth sydd i gael ei darparu i awdurdod lleol yn achos euogfarnu deiliad trwydded o drosedd berthnasol;
(g)â’r amgylchiadau y mae cais i amrywio trwydded i gael ei wneud odanynt;
(h)â dychwelyd trwydded, ar ôl iddi ddod i ben, i’r awdurdod a’i dyroddodd.
(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—
(a)â disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau;
(b)â disgrifiadau gwahanol o driniaeth arbennig;
(c)â’r amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth arbennig, hyd unrhyw gyfnod y rhoddir triniaeth arbennig ynddo, ac a roddir triniaeth arbennig ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall).
(6)Mae pob trwydded triniaeth arbennig i fod yn ddarostyngedig i’r amodau trwyddedu mandadol cymwys.
(7)Yr amodau trwyddedu mandadol cymwys, mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yw’r amodau trwyddedu mandadol sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r drwydded o dan sylw fel y maent ar ddyddiad ei dyroddi o dan y Rhan hon.
64Ymgynghori ynghylch meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedu mandadolLL+C
Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 62 neu 63, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a
(b)cynnal ymgynghoriad ag unrhyw bersonau cynrychiadol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Rhagolygol
Dyroddi trwydded triniaeth arbennigLL+C
65Caniatâd neu wrthodiad mandadol i gais am drwydded triniaeth arbennigLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud yn unol ag Atodlen 3 i awdurdod lleol ddyroddi trwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi.
(2)Os nad yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf trwyddedu cymwys wedi eu bodloni mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth, ar y sail a bennir yn y cais ac mewn unrhyw fangre neu gerbyd a bennir yn y cais, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i’r ceisydd fod y cais wedi ei wrthod i’r graddau y mae’n ymwneud â rhoi’r driniaeth honno ar y sail honno ac yn y fangre neu’r cerbyd.
(3)Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf trwyddedu cymwys wedi eu bodloni mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth, ar y sail a bennir yn y cais ac mewn unrhyw fangre neu gerbyd a bennir yn y cais, rhaid i’r awdurdod ddyroddi trwydded triniaeth arbennig i’r ceisydd sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi ar y sail honno ac yn y fangre neu’r cerbyd.
(4)Y meini prawf trwyddedu cymwys, mewn perthynas â thriniaeth arbennig a bennir mewn cais, yw’r meini prawf trwyddedu sy’n gymwys i roi’r driniaeth ar y sail a bennir yn y cais.
66Disgresiwn i ganiatáu cais am drwydded triniaeth arbennigLL+C
(1)Nid yw’r gofyniad yn adran 65(3) i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig yn gymwys yn achos ceisydd sydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol.
(2)At ddiben dyfarnu a yw ceisydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol, mae euogfarn i gael ei chymryd i gynnwys euogfarn gan neu gerbron llys y tu allan i Gymru a Lloegr; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at euogfarn, neu at berson sydd wedi ei euogfarnu o drosedd, i gael eu dehongli yn unol â hynny.
(3)Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni fel y’i disgrifir yn adran 65(3) mewn cysylltiad â chais, ond bod y ceisydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd i roi triniaeth y mae’r cais yn ymwneud â hi i’r graddau y byddai’n amhriodol dyroddi’r drwydded mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth honno.
(4)Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod roi sylw i—
(a)natur ac amgylchiadau’r drosedd, a
(b)canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (11).
(5)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd fel y’i disgrifir yn is-adran (3) mewn cysylltiad â rhoi triniaeth a bennir yn y cais, rhaid iddo ddyroddi’r drwydded mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth honno.
(6)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu bod amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd fel y’i disgrifir yn is-adran (3) mewn cysylltiad â rhoi triniaeth a bennir yn y cais—
(a)ni chaiff ddyroddi’r drwydded mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth honno, a
(b)rhaid iddo roi hysbysiad i’r ceisydd fod y cais wedi ei wrthod i’r graddau y mae’n ymwneud â rhoi’r driniaeth honno.
(7)Ond mae is-adran (6) yn ddarostyngedig i’r gofynion a nodir ym mharagraffau 15 ac 16 o Atodlen 3.
(8)At ddibenion y Rhan hon, mae pob un o’r canlynol yn drosedd berthnasol—
(a)trosedd o dan y Rhan hon neu o dan Ran 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff);
(b)trosedd (pa un ai o dan gyfraith Cymru a Lloegr neu rywle arall) sydd—
(i)yn ymwneud â thrais,
(ii)o natur rywiol, neu sy’n ymwneud â deunydd neu ddelweddau rhywiol,
(iii)yn golygu tatŵio plentyn o dan 18 oed,
(iv)yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, neu
(v)yn golygu methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cynllun ar gyfer trwyddedu neu fel arall ganiatáu neu reoleiddio cyflawni gweithgaredd sy’n driniaeth arbennig at ddibenion y Ddeddf hon.
(9)Ond mae euogfarn am drosedd berthnasol i gael ei diystyru at ddibenion y Rhan hon os yw wedi ei disbyddu at ddibenion Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (p.53).
(10)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (8) drwy ychwanegu, amrywio neu ddileu disgrifiad o drosedd.
(11)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch materion sydd i gael eu hystyried wrth benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi, ac os felly, i ba raddau, ynghylch addasrwydd ceisydd i roi triniaeth arbennig.
67Caniatáu neu wrthod cais i adnewydduLL+C
Mae adrannau 65, 66 a 68 yn gymwys at ddibenion cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig fel pe bai’r cais hwnnw yn gais i ddyroddi trwydded.
Rhagolygol
Dirymu trwydded triniaeth arbennigLL+C
68Dirymu trwydded triniaeth arbennigLL+C
(1)Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr amodau yn is-adran (2), (3) neu (4) wedi eu bodloni, caiff roi hysbysiad i ddeiliad trwydded—
(a)sy’n dirymu trwydded triniaeth arbennig a ddyroddir ganddo i ddeiliad y drwydded, neu
(b)sy’n dirymu trwydded triniaeth arbennig a ddyroddir ganddo i ddeiliad y drwydded i’r graddau y mae’n awdurdodi i driniaeth arbennig benodol gael ei rhoi.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod deiliad y drwydded wedi methu â chydymffurfio ag amod trwyddedu mandadol cymwys, a
(b)bod peidio â chydymffurfio yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol.
(3)Yr amodau yw—
(a)bod deiliad y drwydded wedi ei euogfarnu o drosedd sy’n drosedd berthnasol (ac a oedd yn drosedd berthnasol ar y dyddiad y dyroddwyd y drwydded o dan sylw),
(b)bod y drwydded wedi ei dyroddi i ddeiliad y drwydded heb i’r awdurdod lleol roi sylw i natur ac amgylchiadau’r drosedd honno, fel y’i disgrifir yn adran 66, naill ai oherwydd nad oedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol o’r euogfarn, neu oherwydd na chafwyd yr euogfarn cyn dyroddi’r drwydded, ac
(c)naill ai na fyddai’r drwydded, pe bai’r awdurdod wedi rhoi sylw i natur ac amgylchiadau’r drosedd honno, fel y’i disgrifir yn adran 66, at ddibenion dyroddi’r drwydded, wedi cael ei dyroddi o gwbl (yn achos dirymu fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(a)), neu na fyddai wedi cael ei dyroddi i’r graddau y mae’n ymwneud â rhoi triniaeth benodol (yn achos dirymu fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(b) mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth honno).
(4)Yr amodau yw—
(a)i ddeiliad y drwydded wneud datganiad a oedd yn anwir neu’n gamarweiniol mewn cysylltiad â chais i ddyroddi, amrywio neu adnewyddu trwydded triniaeth arbennig, a
(b)naill ai na fyddai’r drwydded, pe bai’r awdurdod wedi gwybod bod y datganiad yn anwir neu’n gamarweiniol, wedi cael ei dyroddi o gwbl (yn achos dirymu fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(a)), neu na fyddai wedi cael ei dyroddi i’r graddau y mae’n ymwneud â rhoi triniaeth benodol (yn achos dirymu fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(b)).
(5)Mae dirymiad o dan yr adran hon yn cael effaith—
(a)pan ddaw’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan Atodlen 3 mewn cysylltiad â’r dirymiad i ben, os na chaiff apêl ei dwyn o dan yr Atodlen honno o fewn y cyfnod hwnnw;
(b)â’r dyddiad y tynnir yn ôl unrhyw apêl neu apêl bellach a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r dirymiad, neu ddyddiad dyfarniad terfynol ar unrhyw apêl neu apêl bellach aflwyddiannus a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r dirymiad, pan fo’r apêl neu’r apêl bellach wedi ei dwyn o dan Atodlen 3 a phan na fo apêl bellach ar gael o dan yr Atodlen honno;
(c)pan ddaw’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl bellach o dan Atodlen 3 i ben, pan fo apêl a gaiff ei dwyn o dan Atodlen 3 mewn cysylltiad â’r dirymiad wedi ei thynnu’n ôl neu’n aflwyddiannus, ac mae apêl bellach o dan Atodlen 3 ar gael ond ni chaiff ei dwyn o fewn y cyfnod hwnnw.
(6)At ddibenion is-adran (5)(b) ac (c) uchod, caiff apêl ei dwyn o dan Atodlen 3 os caiff ei dwyn o fewn y cyfnod y darperir ar ei gyfer yn yr Atodlen honno ar gyfer dwyn apêl o’r math o dan sylw.
(7)Am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer dirymiadau, gweler Atodlen 3.
Yn ddilys o 13/09/2024
Mangreoedd a cherbydau a gymeradwywydLL+C
69Rhoi triniaeth arbennig yng nghwrs busnes: gofyniad i gael cymeradwyaethLL+C
(1)Rhaid i berson sy’n cynnal busnes y rhoddir triniaeth arbennig yng nghwrs y busnes hwnnw gydymffurfio â’r gofynion yn is-adrannau (2) a (3).
(2)Y gofyniad cyntaf yw sicrhau bod y driniaeth, i’r graddau y mae wedi ei chynnal yng nghwrs y busnes—
(a)yn achos triniaeth arbennig a roddir mewn mangre, yn cael ei rhoi mewn mangre a gymeradwyir o dan adran 70 mewn cysylltiad â’r driniaeth;
(b)yn achos triniaeth arbennig a roddir mewn cerbyd, yn cael ei rhoi mewn cerbyd a gymeradwyir o dan adran 70 mewn cysylltiad â’r driniaeth.
(3)Yr ail ofyniad yw sicrhau cydymffurfedd â’r amodau cymeradwyo mandadol cymwys.
(4)Yr amodau cymeradwyo mandadol cymwys, at y diben hwn, yw’r amodau cymeradwyo mandadol y mae cymeradwyaeth i’r fangre neu’r cerbyd o dan sylw yn ddarostyngedig iddynt. (Am yr amodau cymeradwyo mandadol, gweler adran 70(3).)
(5)Mae is-adrannau (6) a (7) yn gymwys yn achos arddangosfa, adloniant neu ddigwyddiad arall—
(a)y mae gan aelodau o’r cyhoedd fynediad iddo, a
(b)lle y rhoddir triniaeth arbennig gan berson yng nghwrs busnes.
(6)Mae’r person sy’n trefnu’r arddangosfa, yr adloniant neu’r digwyddiad i gael ei drin at ddibenion yr adran hon fel pe bai’n cynnal busnes y rhoddir y driniaeth arbennig yng nghwrs y busnes hwnnw.
(7)Mae’r fangre lle y cynhelir yr arddangosfa, yr adloniant neu’r digwyddiad i gael ei thrin at ddibenion yr adran hon fel y fangre lle y rhoddir y driniaeth arbennig yng nghwrs y busnes hwnnw.
(8)Caiff rheoliadau—
(a)darparu nad yw’r naill ofyniad neu’r llall yn is-adrannau (2) a (3), neu’r ddau ohonynt, yn gymwys mewn cysylltiad â disgrifiad o fangre, neu gerbyd, a bennir yn y rheoliadau;
(b)darparu i unrhyw un neu ragor o is-adrannau (5) i (7) fod yn gymwys gydag addasiadau, neu beidio â bod yn gymwys, mewn cysylltiad â disgrifiad o berson, neu ddisgrifiad o fangre neu gerbyd, a bennir yn y rheoliadau.
(9)At ddibenion is-adran (8), caniateir i fangreoedd neu gerbydau gael eu disgrifio drwy gyfeirio at unrhyw un neu ragor o’r canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)y personau sy’n rheoli’r mangreoedd neu’r cerbydau neu y mae’r mangreoedd neu’r cerbydau o dan eu rheolaeth;
(b)natur y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ynddynt (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, yr ystod o driniaethau arbennig a roddir yn y mangreoedd neu’r cerbydau);
(c)yr amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt yn y mangreoedd neu’r cerbydau (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth arbennig yn y mangreoedd neu’r cerbydau, hyd unrhyw gyfnod y rhoddir triniaeth arbennig ynddo yn y mangreoedd neu’r cerbydau, ac a roddir triniaeth arbennig yn y mangreoedd neu’r cerbydau ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall);
(d)nifer yr unigolion y rhoddir triniaethau arbennig ganddynt yn y mangreoedd neu’r cerbydau.
(10)At ddibenion yr adran hon ac adran 70, mae unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig i gael ei drin fel pe bai’n cynnal busnes y rhoddir y driniaeth honno yng nghwrs y busnes hwnnw.
70Cymeradwyo mangreoedd a cherbydau mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennigLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais a gyflwynir iddo gan berson sy’n cynnal busnes y rhoddir triniaeth arbennig yn ei ardal neu y mae’n debygol y rhoddir triniaeth arbennig yn ei ardal yng nghwrs y busnes hwnnw, drwy ddyroddi tystysgrif o dan yr adran hon (“tystysgrif gymeradwyo”), gymeradwyo mewn cysylltiad â’r driniaeth arbennig fangre neu gerbyd sydd o fewn is-adran (2).
(2)Mae mangre neu gerbyd o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw, yn achos mangre, yn ardal yr awdurdod lleol;
(b)os yw’r awdurdod lleol, yn achos cerbyd, yn ystyried bod y cerbyd yn cael ei yrru, ei ddefnyddio neu ei gadw yn ardal yr awdurdod lleol neu’n debygol o gael ei yrru, ei ddefnyddio neu ei gadw yno.
(3)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth—
(a)ar gyfer meini prawf y mae rhaid eu bodloni er mwyn i gais am gymeradwyaeth gael ei ganiatáu;
(b)ar gyfer yr amgylchiadau pan fo cais am gymeradwyaeth i gael ei ganiatáu;
(c)ar gyfer yr amodau (“amodau cymeradwyo mandadol”) y mae cymeradwyaeth o dan yr adran hon i fod yn ddarostyngedig iddynt;
(d)ynghylch apelio yn erbyn gwrthod cais am gymeradwyaeth.
(4)Caiff yr amodau cymeradwyo mandadol, ymhlith pethau eraill, gynnwys amodau sy’n ymwneud ag arolygu mangreoedd a cherbydau a gymeradwyir o dan yr adran hon, ac arddangos tystysgrif gymeradwyo.
(5)Rhaid i dystysgrif gymeradwyo bennu cyfnod, os nad yw’r gymeradwyaeth wedi dod i ben yn flaenorol o dan adran 72 neu 73, y mae’r gymeradwyaeth y mae’n ymwneud â hi i gael effaith ar ei gyfer, sef naill ai—
(a)cyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod, sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir y dystysgrif gymeradwyo (y “dyddiad cymeradwyo”), neu
(b)cyfnod o dair blynedd, sy’n dechrau â’r dyddiad cymeradwyo.
(6)Oni bai ei bod yn peidio â chael effaith cyn hynny o dan adran 72 neu 73, mae cymeradwyaeth o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben.
(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)y ffordd y mae ceisiadau am gymeradwyaeth i gael eu gwneud a sut i ddelio â hwy (gan gynnwys ar gyfer talu ffi mewn cysylltiad â chais, ac ar gyfer cynnal arolygiadau cyn i gymeradwyaeth gael ei rhoi);
(b)yr amgylchiadau pan na chaniateir i gais am gymeradwyaeth gael ei ganiatáu, neu pan ganiateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi yn ôl disgresiwn yr awdurdod y cyflwynir y cais iddo;
(c)adnewyddu cymeradwyaeth;
(d)amrywio cymeradwyaeth.
(8)Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (7)(a) gynnwys (ymhlith pethau eraill)—
(a)darpariaeth ynghylch sut y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais;
(b)darpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad i dalu ffi (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i’r awdurdod lleol wrthod bwrw ymlaen â’r cais).
(9)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—
(a)â disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau;
(b)â disgrifiadau gwahanol o driniaeth arbennig;
(c)â’r amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth arbennig mewn mangre neu gerbyd, hyd unrhyw gyfnod y rhoddir triniaeth arbennig ynddo mewn mangre neu gerbyd, ac a roddir triniaeth arbennig ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall).
71Tystysgrifau cymeradwyoLL+C
(1)Rhaid i dystysgrif gymeradwyo ddatgan—
(a)y dyddiad cymeradwyo;
(b)y driniaeth arbennig y mae’r fangre (neu’r cerbyd) o dan sylw wedi ei chymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo mewn cysylltiad â hi;
(c)y dyddiad, pan ddaw i ben, y bydd y gymeradwyaeth, oni bai ei bod yn peidio â chael effaith cyn hynny o dan adran 72 neu 73, yn dod i ben o dan adran 70(6).
(2)Yn achos cymeradwyo mangre, rhaid i dystysgrif gymeradwyo hefyd ddatgan cyfeiriad y fangre.
(3)Yn achos cymeradwyo cerbyd, rhaid i dystysgrif gymeradwyo hefyd—
(a)os oes gan y cerbyd rif cofrestru, ddatgan y rhif hwnnw;
(b)os nad oes gan y cerbyd rif cofrestru, nodi’r cerbyd ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod sy’n dyroddi’r dystysgrif yn ystyried ei bod yn briodol.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys tystysgrifau cymeradwyo.
(5)Yn yr adran hon, mae i “dyddiad cymeradwyo” yr un ystyr ag yn adran 70(5).
72Terfynu cymeradwyaeth yn wirfoddolLL+C
(1)Pan fo person y mae awdurdod lleol wedi cymeradwyo mangre neu gerbyd ar ei gais o dan adran 70, mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig, yn dymuno i’r gymeradwyaeth beidio â chael effaith, caiff y person roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod.
(2)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae’r gymeradwyaeth i beidio â chael effaith.
(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw gymeradwyaeth sy’n dod i ben yn gynharach o dan adran 70(6) neu 73, mae’r gymeradwyaeth yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad i ben.
(4)Rhaid i awdurdod y rhoddir hysbysiad iddo o dan yr adran hon gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad i sylw unrhyw bersonau y mae’r awdurdod yn meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt.
(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ynghylch gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys yn yr hysbysiad.
Rhagolygol
73Dirymu cymeradwyaethLL+C
(1)Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y ddau amod yn is-adran (2) wedi eu bodloni, caiff roi hysbysiad i berson (“P”) y cymeradwywyd mangre neu gerbyd ar ei gais o dan adran 70 gan yr awdurdod, sy’n dirymu’r gymeradwyaeth i’r fangre neu’r cerbyd o dan yr adran honno mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Yr amodau yw—
(a)na chydymffurfiwyd â’r amodau cymeradwyo mandadol sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r fangre neu’r cerbyd, a
(b)bod peidio â chydymffurfio yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol.
(3)Mae paragraffau 15 i 21 o Atodlen 3 yn gymwys mewn cysylltiad â dirymiad o dan yr adran hon fel pe bai’r dirymiad yn ddirymiad o dan adran 68 (dirymu trwydded triniaeth arbennig) ac at y diben hwn mae cyfeiriadau yn y paragraffau hynny—
(a)at ddeiliad trwydded, i gael eu trin fel cyfeiriadau at P;
(b)at hysbysiad a roddir o dan adran 68, i gael eu trin fel cyfeiriadau at hysbysiad o dan is-adran (1);
(c)at swyddogaethau o dan adran 68, i gael eu trin fel cyfeiriadau at swyddogaethau o dan yr adran hon.
(4)Caiff dirymiad o dan yr adran hon effaith—
(a)pan ddaw’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan Atodlen 3 mewn cysylltiad â’r dirymiad i ben, os na chaiff apêl ei dwyn o dan yr Atodlen honno o fewn y cyfnod hwnnw;
(b)â’r dyddiad y tynnir yn ôl unrhyw apêl neu apêl bellach a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r dirymiad, neu ddyddiad dyfarniad terfynol ar unrhyw apêl neu apêl bellach aflwyddiannus a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r dirymiad, pan fo’r apêl neu’r apêl bellach wedi ei dwyn o dan Atodlen 3 a phan na fo apêl bellach ar gael o dan yr Atodlen honno;
(c)pan ddaw’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl bellach o dan Atodlen 3 i ben, pan fo apêl a gaiff ei dwyn o dan Atodlen 3 mewn cysylltiad â’r dirymiad wedi ei thynnu’n ôl neu’n aflwyddiannus, ac mae apêl bellach o dan Atodlen 3 ar gael ond ni chaiff ei dwyn o fewn y cyfnod hwnnw.
Rhagolygol
74Dirymu cymeradwyaeth: gofynion hysbysuLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n rhoi hysbysiad o dan un o’r darpariaethau a bennir yn is-adran (2) i berson mewn cysylltiad â dirymiad, neu ddirymiad arfaethedig, o gymeradwyaeth o dan adran 70 gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad i sylw unrhyw bersonau y mae’r awdurdod yn meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt.
(2)Y darpariaethau yw adran 73 a pharagraff 15(3) neu 17 o Atodlen 3 (fel y’i cymhwysir gan adran 73(3)).
Rhagolygol
Cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywydLL+C
75Dyletswydd i gynnal cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywydLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr—
(a)o’r trwyddedau triniaeth arbennig sydd wedi eu dyroddi ganddo ond nad ydynt wedi peidio â chael effaith eto, a
(b)o’r mangreoedd a’r cerbydau sydd wedi eu cymeradwyo ganddo ar hyn o bryd o dan adran 70.
(2)Rhaid i bob cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â thrwydded gofnodi—
(a)enw deiliad y drwydded;
(b)y dyddiad y dyroddwyd y drwydded;
(c)y driniaeth y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(d)cyfnod y drwydded;
(e)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3), gyfeiriad y fangre lle yr awdurdodir i’r driniaeth gael ei rhoi;
(f)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rif cofrestru’r cerbyd;
(g)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol.
(3)Rhaid i bob cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â mangre neu gerbyd a gymeradwywyd gofnodi—
(a)enw’r person y rhoddwyd y cymeradwyaeth ar ei gais;
(b)yn achos cofnod mewn cysylltiad â mangre, gyfeiriad y fangre;
(c)yn achos cofnod mewn cysylltiad â cherbyd sydd â rhif cofrestru, rif cofrestru’r cerbyd;
(d)yn achos cofnod mewn cysylltiad â cherbyd nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;
(e)y driniaeth y mae’r gymeradwyaeth yn gymwys mewn cysylltiad â hi;
(f)y dyddiad y rhoddwyd y gymeradwyaeth;
(g)cyfnod para’r gymeradwyaeth.
(4)Caiff y gofrestr hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod sy’n ei chynnal yn ystyried ei bod yn briodol.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drefnu i’r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan yr adran hon gael eu cyflawni drwy gofrestr ganolog a gedwir gan awdurdod lleol a benodir yn unol â’r trefniadau.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn unrhyw drefniadau a wneir o dan is-adran (5) ac iddynt gyfrannu at gost y trefniadau hynny.
(7)Caiff y gofynion y caniateir iddynt gael eu gosod ar awdurdod o dan is-adran (6) gynnwys (ymhlith pethau eraill) gofyniad i rannu gwybodaeth â’r awdurdod a benodir i gadw’r gofrestr ganolog.
(8)At ddibenion yr adran hon, mae “cofrestr ganolog” yn gofrestr sy’n cwmpasu ardaloedd pob awdurdod lleol.
Yn ddilys o 13/09/2024
FfioeddLL+C
76FfioeddLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded triniaeth arbennig godi ffi ar ddeiliad y drwydded, naill ai’n gyfnodol neu fel arall, am gyhyd ag y mae’r drwydded yn parhau i gael effaith.
(2)Caiff awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo mangre neu gerbyd o dan adran 70 godi ffi ar y person y rhoddwyd y gymeradwyaeth i’w gais, naill ai’n gyfnodol neu fel arall, am gyhyd ag y mae’r gymeradwyaeth yn parhau i gael effaith.
(3)Mae swm ffi a godir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i gael ei ddyfarnu gan yr awdurdod, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad â’r Rhan hon.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol (yn ddarostyngedig i is-adran (3)) i ddyfarnu ar swm y ffi.
(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â ffioedd a godir o dan yr adran hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—
(a)â’r ffordd y mae ffi i gael ei thalu;
(b)ag ad-dalu ffi (neu gyfran ohoni) mewn achosion o ordalu;
(c)ag adennill ffi sy’n ddyledus i awdurdod ac nad yw wedi ei thalu.
Rhagolygol
Hysbysiadau stopLL+C
77Hysbysiadau stopLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a)bod unigolyn yn rhoi triniaeth arbennig yn ardal yr awdurdod yn groes i adran 58(2) neu (3) (gofyniad i gael trwydded), neu
(b)bod person yn cynnal busnes, ac yng nghwrs y busnes hwnnw y rhoddir triniaeth arbennig yn ardal yr awdurdod, yn groes i’r gofyniad yn adran 69(2) (gofyniad i gael cymeradwyaeth).
(2)Caiff yr awdurdod roi hysbysiad o dan yr adran hon i’r unigolyn hwnnw neu’r person hwnnw (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “P”).
(3)Yn y Rhan hon cyfeirir at hysbysiad a roddir o dan yr adran hon fel hysbysiad stop.
(4)Rhaid i hysbysiad stop ddatgan bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod P yn torri (yn ôl y digwydd) adran 58(2) neu (3) neu’r gofyniad yn adran 69(2), a—
(a)mewn achos pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (1)(a), wahardd P rhag rhoi’r driniaeth o dan sylw yn unrhyw le yng Nghymru, o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, ac eithrio o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig;
(b)mewn achos pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (1)(b), wahardd y driniaeth arbennig o dan sylw rhag cael ei rhoi yn unrhyw le yng Nghymru yng nghwrs y busnes sy’n cael ei gynnal gan P, o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, ac eithrio mewn mangre neu mewn cerbyd a gymeradwyir o dan adran 70.
(5)Rhaid i hysbysiad stop ddatgan hefyd—
(a)y caiff P apelio o dan adran 81 yn erbyn yr hysbysiad, a
(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.
Rhagolygol
Hysbysiadau camau adferLL+C
78Trwyddedau triniaeth arbennig: hysbysiadau camau adfer i ddeiliad trwyddedLL+C
(1)Os yw awdurdod lleol a ddyroddodd drwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi wedi ei fodloni bod deiliad y drwydded yn torri amod trwyddedu mandadol cymwys, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i ddeiliad y drwydded.
(2)Yn y Rhan hon cyfeirir at hysbysiad a roddir o dan yr adran hon fel hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded.
(3)Rhaid i hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded—
(a)datgan bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod deiliad y drwydded yn torri amod trwyddedu mandadol cymwys;
(b)pennu’r materion a arweiniodd at y toriad;
(c)pennu’r camau sydd i gael eu cymryd gan ddeiliad y drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r amodau trwyddedu mandadol cymwys;
(d)pennu cyfnod (y “cyfnod cydymffurfio”) ar gyfer cymryd y camau hynny nad yw’n llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.
(4)Rhaid i hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded hefyd ddatgan—
(a)y caiff deiliad y drwydded apelio o dan adran 81 yn erbyn yr hysbysiad, a
(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.
(5)Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod torri’r amod yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol, caiff yr hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded hefyd wahardd deiliad y drwydded rhag rhoi’r driniaeth hyd nes bod y camau a bennir o dan is-adran (3)(c) wedi eu cymryd.
(6)Caiff y gwaharddiad ymwneud â rhoi’r driniaeth gan ddeiliad y drwydded mewn ardal yng Nghymru sydd wedi ei phennu yn yr hysbysiad, neu ymwneud â rhoi’r driniaeth gan ddeiliad y drwydded yn unrhyw le yng Nghymru.
(7)Pan fo hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded wedi ei roi i ddeiliad trwydded, nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn yn ystod y cyfnod cydymffurfio mewn cysylltiad—
(a)â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu
(b)ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw.
(8)Os yw’r camau a bennir mewn hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded wedi eu cymryd yn ystod y cyfnod cydymffurfio, nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn mewn cysylltiad—
(a)â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu
(b)ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw cyn i’r camau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.
(9)Ond nid oes dim byd yn is-adran (7) neu (8) sy’n atal achos am drosedd o dan adran 82 rhag cael ei gychwyn, ar unrhyw adeg, mewn cysylltiad â thorri gwaharddiad ar roi triniaeth sydd wedi ei gynnwys mewn hysbysiad camau adfer i ddeiliad trwydded o dan is-adran (5).
79Mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd: hysbysiadau camau adfer ar gyfer mangreLL+C
(1)Os yw awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo mangre neu gerbyd o dan adran 70 wedi ei fodloni bod person yn torri’r gofyniad yn adran 69(3) (cydymffurfedd â’r amodau cymeradwyo mandadol cymwys) mewn cysylltiad â’r fangre neu’r cerbyd, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i’r person.
(2)Yn y Rhan hon cyfeirir at hysbysiad a roddir i berson (“P”) o dan yr adran hon fel hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre.
(3)Rhaid i hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre—
(a)datgan bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod P yn torri’r gofyniad yn adran 69(3);
(b)pennu’r materion a arweiniodd at y toriad;
(c)pennu’r camau sydd i gael eu cymryd gan P er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad;
(d)pennu cyfnod (y “cyfnod cydymffurfio”) ar gyfer cymryd y camau hynny nad yw’n llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.
(4)Rhaid i hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre hefyd ddatgan—
(a)y caiff P apelio o dan adran 81 yn erbyn yr hysbysiad, a
(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.
(5)Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod torri’r gofyniad yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol, caiff yr hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre hefyd wahardd triniaeth arbennig rhag cael ei rhoi, hyd nes bod y camau a bennir o dan is-adran (3)(c) wedi eu cymryd, yn y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu (yn ôl y digwydd) yn y cerbyd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(6)Nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn yn erbyn P yn ystod y cyfnod cydymffurfio mewn cysylltiad—
(a)â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu
(b)ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw.
(7)Os yw’r camau a bennir mewn hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre wedi eu cymryd yn ystod y cyfnod cydymffurfio, nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn yn erbyn P mewn cysylltiad—
(a)â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu
(b)ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw cyn i’r camau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.
(8)Ond nid oes dim byd yn is-adran (6) neu (7) sy’n atal achos am drosedd o dan adran 82 rhag cael ei gychwyn, ar unrhyw adeg, mewn cysylltiad â thorri gwaharddiad ar roi triniaeth sydd wedi ei gynnwys mewn hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre o dan is-adran (5).
(9)Os yw hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre a roddir i berson yn gwahardd rhoi triniaeth arbennig fel y’i disgrifir yn is-adran (5), rhaid i’r awdurdod a’i rhoddodd gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad i sylw unrhyw bersonau y mae’r awdurdod yn meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt.
80Tystysgrif gwblhauLL+C
(1)Mae’r adran hon ac adran 81 yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 78 neu 79 i berson (“P”).
(2)Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod P wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r awdurdod roi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i P (“tystysgrif gwblhau”) sy’n rhyddhau’r hysbysiad.
(3)Caiff P wneud cais i’r awdurdod ar unrhyw adeg am dystysgrif gwblhau.
(4)Mae’r cais—
(a)i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, a
(b)i gynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod.
(5)Os yw awdurdod lleol yn gwrthod cais o dan is-adran (3), rhaid iddo roi hysbysiad i P fod y cais wedi ei wrthod.
(6)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)nodi rhesymau’r awdurdod dros wrthod y cais,
(b)datgan y caiff P apelio o dan adran 81 yn erbyn y penderfyniad, ac
(c)pennu’r cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.
(7)Rhaid i awdurdod lleol sy’n rhoi tystysgrif neu hysbysiad o dan yr adran hon gymryd camau rhesymol i ddwyn y dystysgrif neu’r hysbysiad i sylw unrhyw bersonau y mae’r awdurdod yn meddwl bod y dystysgrif neu’r hysbysiad yn debygol o effeithio arnynt.
Rhagolygol
Apelau yn erbyn hysbysiadau stop a hysbysiadau camau adferLL+C
81ApelauLL+C
(1)Caiff person (“P”) apelio i lys ynadon—
(a)yn erbyn hysbysiad a roddir i P o dan adran 77;
(b)yn erbyn hysbysiad a roddir i P o dan adran 78 neu 79;
(c)os rhoddir hysbysiad i P o dan adran 80(5), yn erbyn gwrthod cais P am dystysgrif gwblhau.
(2)Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad o dan sylw.
(3)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).
(4)At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.
(5)Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a)cadarnhau’r hysbysiad neu’r gwrthodiad;
(b)yn achos apêl yn erbyn hysbysiad a roddir i P o dan adran 77, 78 neu 79, ddiddymu neu amrywio’r hysbysiad;
(c)yn achos apêl yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif gwblhau, ddiddymu’r gwrthodiad;
(d)mewn unrhyw achos, anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys;
a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.
(6)Pan fo llys ynadon, ar apêl o dan yr adran hon, yn diddymu neu’n amrywio hysbysiad a roddwyd i P gan awdurdod lleol, neu’n diddymu’r gwrthodiad i gais am dystysgrif gwblhau, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad neu (yn ôl y digwydd) y gwrthodiad.
(7)Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.
(8)Ar apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—
(a)cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon;
(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
(9)Nid yw dwyn apêl o dan yr adran hon yn erbyn hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith yr hysbysiad.
Rhagolygol
Troseddau sy’n ymwneud â’r system trwyddedu a chymeradwyoLL+C
82TroseddauLL+C
(1)Mae person sy’n torri adran 58 (gofyniad i gael trwydded) yn cyflawni trosedd.
(2)Mae person sy’n torri gwaharddiad a bennir, o dan adran 61(3)(c), mewn hysbysiad a roddir o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58(3)) yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri’r gofyniad yn adran 69(2) (gofyniad i gael cymeradwyaeth) yn cyflawni trosedd.
(4)Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 77 (hysbysiadau stop) yn cyflawni trosedd.
(5)Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 78 (hysbysiadau camau adfer i ddeiliad trwydded) yn cyflawni trosedd.
(6)Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 79 (hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre) yn cyflawni trosedd.
(7)Mae person sydd, mewn cais i ddyroddi, amrywio neu adnewyddu trwydded triniaeth arbennig neu gais am gymeradwyaeth i fangre neu gerbyd o dan adran 70—
(a)yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol, a
(b)naill ai’n gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol neu’n ddi-hid o ran a yw’n anwir neu’n gamarweiniol,
yn cyflawni trosedd.
(8)Yn is-adran (7), ystyr “yn anwir neu’n gamarweiniol” yw anwir neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.
(9)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
Rhagolygol
GorfodiLL+C
83Swyddogion awdurdodedigLL+C
Mae cyfeiriadau yn adrannau 84 i 92 at swyddog awdurdodedig yn gyfeiriadau at unrhyw berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi i arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, naill ai—
(a)gan yr awdurdod, neu
(b)gan unrhyw berson y mae’r awdurdod wedi ymrwymo i drefniadau ag ef i’r person hwnnw arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.
84Pwerau mynediad etc.LL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig, os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre sydd o fewn is-adran (4).
(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre drwy rym o dan yr adran hon.
(4)Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes gan y swyddog reswm dros gredu—
(a)bod triniaeth arbennig wedi ei rhoi, yn cael ei rhoi neu’n debygol o gael ei rhoi yn y fangre, neu
(b)bod deunydd neu gyfarpar y bwriedir ei ddefnyddio wrth roi triniaeth arbennig, neu mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig, yn cael ei gadw neu ei baratoi yn y fangre.
(5)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 83 cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon.
(6)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
85Gwarant i fynd i mewn i anneddLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, at ddiben arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i fangre—
(a)a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, ond
(b)sydd o fewn is-adran (2).
(2)Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes rheswm dros gredu—
(a)bod triniaeth arbennig wedi ei rhoi, yn cael ei rhoi neu’n debygol o gael ei rhoi yn y fangre, neu
(b)bod deunydd neu gyfarpar y bwriedir ei ddefnyddio wrth roi triniaeth arbennig, neu mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig, yn cael ei gadw neu ei baratoi yn y fangre.
(3)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(4)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
(5)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
86Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraillLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)ei bod, at ddiben arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, yn angenrheidiol mynd i mewn i fangre nas defnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, a
(b)bod gofyniad a nodir yn un neu ragor o is-adrannau (3) i (6) wedi ei fodloni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)Y gofyniad yw—
(a)bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a
(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.
(4)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(5)Y gofyniad yw nad yw’r fangre wedi ei meddiannu.
(6)Y gofyniad yw—
(a)bod meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, a
(b)bod aros i’r meddiannydd ddychwelyd yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(7)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
(8)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
87Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd adran 84, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 85 neu 86, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 85 neu 86 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant—
(a)rhaid rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;
(b)rhaid i’r swyddog gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig;
(c)rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;
(d)rhaid i’r swyddog gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.
(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 85 neu 86 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
(4)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
88Pwerau arolygu etc.LL+C
(1)Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 84, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 85 neu 86, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon—
(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono;
(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.
(2)Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu unrhyw beth y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.
(3)Os yw’r swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—
(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
(6)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.
(7)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
89Rhwystro etc. swyddogionLL+C
(1)Mae unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 84 i 88 yn cyflawni trosedd.
(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—
(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 88(1), neu
(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 88(1)(b) neu (d),
yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 88(6).
90Pŵer i wneud pryniannau prawfLL+C
Caiff swyddog awdurdodedig wneud unrhyw bryniannau a threfniadau, a sicrhau y darperir unrhyw wasanaethau, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon.
91Eiddo a gedwir: apelauLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 88(1)(c) gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.
(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.
(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p.30).
92Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 88(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—
(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, a
(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.
(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P.
Rhagolygol
Diwygio ystyr triniaeth arbennigLL+C
93Pŵer i ychwanegu neu ddileu triniaethau arbennigLL+C
(1)Caiff rheoliadau ddiwygio adran 57 drwy—
(a)ychwanegu math neu ddisgrifiad o driniaeth at y rhestr yn yr adran honno neu ddileu math neu ddisgrifiad o driniaeth oddi arni, neu
(b)amrywio cyfeiriad yn yr adran honno at fath neu ddisgrifiad o driniaeth.
(2)At y diben hwn caniateir i driniaeth gael ei disgrifio drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—
(a)y disgrifiad o unigolyn sy’n rhoi’r driniaeth;
(b)y disgrifiad o unigolyn sy’n cael y driniaeth.
(3)Nid yw’r pŵer i ychwanegu math neu ddisgrifiad o driniaeth at y rhestr yn adran 57 drwy reoliadau o dan yr adran hon i gael ei arfer mewn cysylltiad â thriniaeth ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried—
(a)bod y driniaeth yn un y gellir ei rhoi at ddibenion esthetig, neu at ddibenion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn therapiwtig, a
(b)y gall rhoi’r driniaeth at y dibenion hynny achosi niwed i iechyd dynol.
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a
(b)cynnal ymgynghoriad ag unrhyw bersonau cynrychiadol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud diwygiadau i’r Rhan hon sy’n ganlyniadol i’r diwygiad i adran 57 a wneir gan y rheoliadau.
DehongliLL+C
94Dehongli’r Rhan honLL+C
(1)Yn y Rhan hon—
ystyr “aciwbigo” (“acupuncture”) yw gosod nodwyddau ym meinwe unigolyn at ddibenion adfer neu ddibenion therapiwtig, ond ac eithrio gosod nodwyddau mewn meinwe at ddiben chwistrellu unrhyw sylwedd;
mae i “amodau cymeradwyo mandadol” (“mandatory approval conditions”) yr ystyr a roddir yn adran 70;
mae i “amodau trwyddedu mandadol cymwys” (“applicable mandatory licensing conditions”) yr ystyr a roddir yn adran 63(7);
mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—
(a)
trelar, lled-drelar, neu beth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei dynnu gan gerbyd arall;
(b)
unrhyw beth ar gerbyd;
(c)
rhan o gerbyd y gellir ei datgysylltu;
(d)
cynhwysydd neu strwythur arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei gario gan gerbyd arall neu ar gerbyd arall;
mae i “cyfnod y drwydded” (“licence period”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8);
mae i “deiliad trwydded” (“licence holder”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8);
ystyr “electrolysis” (“electrolysis”) yw gwaredu gwallt corff unigolyn drwy basio cerrynt trydan drwy’r gwreiddyn drwy osod nodwydd neu chwiliedydd;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan neu gyfleuster symudol (ond nid yw’n cynnwys cerbyd);
mae i “meini prawf trwyddedu” (“licensing criteria”) yr ystyr a roddir yn adran 62;
mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83;
ystyr “tatŵio” (“tattooing”) yw mewnosod mewn priciau a wnaed yng nghroen, neu ym mhilen fwcaidd, unigolyn unrhyw ddeunydd sy’n lliwio a ddyluniwyd i adael marc lled-barhaol neu barhaol (gan gynnwys microbigmentiad);
mae i “triniaeth arbennig” (“special procedure”) yr ystyr a roddir yn adran 57 ;
ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw trosedd a restrir yn adran 66(8);
mae i “trwydded dros dro” (“temporary licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59;
mae i “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59;
ystyr “tyllu’r corff” (“body piercing”) yw gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi—
(b)
i wrthrych o ddisgrifiad a ragnodir mewn rheoliadau neu o dan reoliadau,
gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn neu ei dynnu o gorff yr unigolyn;
mae i “tystysgrif gwblhau” (“completion certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 80;
mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 70.
(2)At ddibenion y diffiniad o “tyllu’r corff” yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at wneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn yn cynnwys cyfeiriad at wneud bwlch yng nghyfanrwydd y croen neu’r bilen fwcaidd mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) drwy bric neu endoriad.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi gwrthrych neu ddisgrifiad o wrthrych drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill) y rhan o’r corff y mae’r trydylliad yn cael ei roi ynddi.
(4)At ddibenion y Rhan hon—
(a)mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail safle sefydlog os yw’n cael ei rhoi mewn mangre sydd—
(i)naill ai wedi ei meddiannu gan yr unigolyn sy’n rhoi’r driniaeth (“P”), neu sydd i unrhyw raddau yn cael ei rheoli gan yr unigolyn hwnnw neu sydd i unrhyw raddau o dan reolaeth yr unigolyn hwnnw, neu
(ii)pan fo P yn rhoi’r driniaeth o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, â pherson arall (“E”), naill ai wedi ei meddiannu gan E, neu sydd i unrhyw raddau yn cael ei rheoli gan E neu sydd o dan reolaeth E;
(b)mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail symudol os yw’n cael ei rhoi mewn cerbyd;
(c)mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail beripatetig os yw’n cael ei rhoi mewn mangreoedd gwahanol amrywiol nad ydynt o fewn paragraff (a)(i) neu (ii);
(d)mae triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ar sail dros dro—
(i)os yw’n cael ei rhoi yng nghwrs adloniant, arddangosfa neu ddigwyddiad arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, a
(ii)os nad yw’r cyfnod pan y’i rhoddir yn yr adloniant hwnnw, yr arddangosfa honno neu’r digwyddiad hwnnw yn hwy na saith niwrnod.
(5)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niwed i iechyd dynol yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) cyfeiriadau at—
(a)niwed i iechyd corfforol unigolyn sy’n deillio o (ymhlith pethau eraill)—
(i)anaf corfforol,
(ii)dod i gysylltiad ag unrhyw ffurf ar haint neu halogiad, neu
(iii)gwneud unigolyn yn agored, neu’n fwy agored, i unrhyw ffurf ar haint neu halogiad;
(b)niwed i iechyd meddwl unigolyn.
RHAN 5LL+CRHOI TWLL MEWN RHAN BERSONOL O’R CORFF
Troseddau sy’n gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corffLL+C
95Y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentynLL+C
(1)Mae’n drosedd i berson yng Nghymru—
(a)rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person sydd o dan 18 oed, neu
(b)gwneud trefniadau i roi, yng Nghymru, dwll mewn rhan bersonol o gorff person penodol sydd o dan 18 oed.
(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(3)Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—
(a)bod y cyhuddedig yn credu bod y person y rhoddwyd y twll y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) iddo, neu y gwnaed y trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) mewn cysylltiad ag ef, yn 18 oed neu’n hŷn, a
(b)naill ai—
(i)bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu
(ii)na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person o dan 18 oed.
(4)At ddibenion is-adran (3)(b)(i), mae’r cyhuddedig (yn achos trosedd o dan is-adran (1)(a)) i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person arall—
(a)os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a
(b)pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.
(5)Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
96Beth yw rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff?LL+C
(1)At ddibenion adran 95, rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yw tyllu’r corff mewn rhan bersonol a restrir yn is-adran (2), pan fo’n cael ei roi ac eithrio yng nghwrs triniaeth feddygol.
(2)Y rhannau personol o’r corff yw—
(a)yr anws;
(b)y fron (gan gynnwys y deth a’r areola);
(c)y ffolen;
(d)rhych y pen ôl;
(e)y pidyn (gan gynnwys y blaengroen);
(f)y perinëwm;
(g)y mons pubis;
(h)y ceillgwd;
(i)y tafod;
(j)y fwlfa.
(3)Yn yr adran hon, mae i “tyllu’r corff” yr ystyr a roddir yn adran 94.
(4)At ddibenion yr adran hon, mae triniaeth feddygol yn driniaeth a gyflawnir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig, at ddibenion y canlynol, neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)diagnosio, atal, monitro, trin neu liniaru clefyd, afiechyd, anabledd, neu annormaledd corfforol neu feddyliol arall, neu
(b)atal cenhedlu.
GorfodiLL+C
97Camau gorfodi gan awdurdodau lleolLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol—
(a)dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau yn ei ardal o dan adran 95;
(b)ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ei ardal o dan adran 95;
(c)cymryd unrhyw gamau eraill gyda golwg ar ostwng nifer y troseddau sy’n digwydd o dan adran 95 yn ei ardal.
(2)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)ystyried, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, i ba raddau y mae’n briodol i’r awdurdod gynnal yn ei ardal raglen o gamau gorfodi mewn perthynas ag adran 95, a
(b)i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnal rhaglen o’r fath.
(3)At ddibenion is-adran (2), mae rhaglen o gamau gorfodi mewn perthynas ag adran 95 yn rhaglen sy’n golygu cymryd pob un neu unrhyw un neu ragor o’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
(4)At ddiben arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (2), rhaid i awdurdod lleol gynnal unrhyw ymgynghoriad y mae’n ystyried ei fod yn briodol â phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol.
98Swyddogion awdurdodedigLL+C
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at swyddog awdurdodedig yn gyfeiriadau at unrhyw berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Rhan hon.
99Pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff cwnstabl neu swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre ar unrhyw adeg resymol—
(a)os oes gan y cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni, a
(b)os yw’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
(3)Ni chaiff person y cyfeirir ato yn is-adran (1) fynd i mewn i fangre drwy rym o dan yr adran hon.
(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 98 cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon.
(5)Yn yr adran hon ac yn adrannau 100 i 103, mae “mangre” yn cynnwys unrhyw fan ac unrhyw gerbyd (ac eithrio awyren neu hofrenfad), stondin neu strwythur symudol.
100Gwarant i fynd i mewn i anneddLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni, a
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi cwnstabl neu swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
101Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraillLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni,
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac
(c)bod gofyniad a nodir yn un neu ragor o is-adrannau (3) i (6) wedi ei fodloni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi cwnstabl neu swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)Y gofyniad yw—
(a)bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a
(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu berson yr ymddengys yn rhesymol i’r ynad heddwch ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.
(4)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(5)Y gofyniad yw nad yw’r fangre wedi ei meddiannu.
(6)Y gofyniad yw—
(a)bod meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, a
(b)bod aros i’r meddiannydd ddychwelyd yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(7)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
102Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff person sy’n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd adran 99, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 100 neu 101, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r person yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Os yw meddiannydd mangre y mae person wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 100 neu 101 yn bresennol ar yr adeg y mae’r person yn ceisio gweithredu’r warant—
(a)rhaid rhoi enw’r person i’r meddiannydd;
(b)os nad yw’n gwnstabl mewn lifrai, rhaid i’r person gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y person yn gwnstabl neu’n swyddog awdurdodedig;
(c)rhaid i’r person gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;
(d)rhaid i’r person gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.
(3)Os nad yw mangre y mae person wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 100 neu 101 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r person ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y person iddi.
103Pwerau arolygu etc.LL+C
(1)Caiff cwnstabl neu swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 99, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 100 neu 101, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni—
(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono;
(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.
(2)Os yw cwnstabl neu swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd u unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—
(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y cwnstabl neu’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
(3)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
(4)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
(5)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.
104Rhwystro etc. cwnstabl neu swyddogLL+C
(1)Mae unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol gwnstabl neu swyddog awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 99 i 103 yn cyflawni trosedd.
(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—
(a)â darparu i gwnstabl neu swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 103(1), neu
(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 103(1)(b) neu (d),
yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 103(5).
105Pŵer i wneud pryniannau prawfLL+C
Caiff swyddog awdurdodedig wneud unrhyw bryniannau a threfniadau, a sicrhau y darperir unrhyw wasanaethau, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon.
106Eiddo a gedwir: apelauLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 103(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.
(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.
(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p.30) (pŵer i wneud gorchmynion mewn cysylltiad ag eiddo sydd ym meddiant yr heddlu).
107Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig neu gwnstabl (“swyddog gorfodi”) wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 103(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—
(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog gorfodi wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni, a
(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.
(3)Caiff y llys orchymyn i P gael ei ddigolledu—
(a)pan fo’r swyddog gorfodi yn swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol, gan yr awdurdod lleol, neu
(b)pan fo’r swyddog gorfodi yn gwnstabl, gan brif gwnstabl yr heddlu y mae’r cwnstabl yn aelod ohono.
(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at “heddlu” yn gyfeiriad at heddlu ar gyfer ardal sy’n ardal heddlu at ddibenion adran 1 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p.16).
Rhagolygol
RHAN 6LL+CASESIADAU O’R EFFAITH AR IECHYD
108Gofyniad i gynnal asesiadau o’r effaith ar iechydLL+C
(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd gan gyrff cyhoeddus.
(2)Mae asesiad o’r effaith ar iechyd yn asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl Cymru neu ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o bobl Cymru.
(3)Rhaid i’r rheoliadau bennu—
(a)yr amgylchiadau y mae rhaid i gorff cyhoeddus gynnal asesiad o’r effaith ar iechyd odanynt;
(b)y ffordd y mae asesiad o’r effaith ar iechyd i gael ei gynnal.
(4)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cymorth i gorff cyhoeddus arall sy’n cynnal asesiad o’r effaith ar iechyd.
(5)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r cymorth i gael ei roi, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ynghylch pryd y mae i gael ei roi.
(6)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau a bennir yn y rheoliadau.
(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a
(b)cynnal ymgynghoriad ag unrhyw bersonau cynrychiadol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
109Asesiadau o’r effaith ar iechyd: eu cyhoeddi a’u hystyriedLL+C
(1)Pan fo corff cyhoeddus wedi cynnal asesiad o’r effaith ar iechyd yn unol â rheoliadau o dan adran 108 rhaid iddo—
(a)cyhoeddi’r asesiad, a
(b)ystyried yr asesiad wrth arfer y swyddogaethau hynny y cynhaliwyd yr asesiad mewn cysylltiad â hwy.
(2)Wrth ystyried yr asesiad, rhaid i’r corff cyhoeddus weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(3)At ddiben is-adran (2), mae’r cyfeiriad at weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy i gael ei ddehongli yn unol ag adran 5 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi asesiadau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ynghylch pryd y mae asesiadau i gael eu cyhoeddi.
110Ystyr “corff cyhoeddus”LL+C
(1)At ddibenion adrannau 108 a 109, mae pob un o’r personau a ganlyn yn “corff cyhoeddus”—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)awdurdod lleol;
(c)Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)yr Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ganlyn—
(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(ii)Felindre;
(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(h)[y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil];
(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
(2)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (1) drwy—
(a)ychwanegu person,
(b)dileu person, neu
(c)diwygio cyfeiriad at berson.
(3)Ond ni chaiff y rheoliadau ddiwygio is-adran (1) drwy ychwanegu person oni bai bod y person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
(4)Os yw’r rheoliadau yn diwygio is-adran (1) er mwyn ychwanegu person a chanddo swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, dim ond mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd o natur gyhoeddus y mae adrannau 108 a 109 yn gymwys i’r person hwnnw.
(5)Yn yr adran hon—
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Yn ddilys o 01/04/2019
RHAN 7LL+CGWASANAETHAU FFERYLLOL
111Asesiadau o anghenion fferyllolLL+C
(1)Ar ôl adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol: telerau ac amodau), mewnosoder—
“82APharmaceutical needs assessments
(1)A Local Health Board must prepare and publish an assessment of needs for pharmaceutical services in its area.
(2)A Local Health Board must—
(a)keep the assessment most recently published by it under subsection (1) under review, and
(b)revise it as appropriate.
(3)Regulations must—
(a)specify a date by which a Local Health Board is to prepare and publish its first assessment under subsection (1);
(b)make provision about circumstances in which a Local Health Board is to review and if appropriate revise its assessment (and may make such provision by reference to, among other things, a period within which or following which a Local Health Board is to review and if appropriate revise its assessment);
(c)make provision about the way in which an assessment is to be published.
(4)The regulations may make other provision about the preparation, publication, review and revision of an assessment under subsection (1), including (among other things) about—
(a)the information to be contained in an assessment (which may include, among other things, information relating to persons with whom a Local Health Board has entered into a general medical services contract);
(b)the extent to which an assessment is to take account of likely future needs and of other matters;
(c)consultation to be carried out in connection with an assessment;
(d)procedural requirements.”
(2)Yn adran 203 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) (gorchmynion, rheoliadau a chyfarwyddydau), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(6A)A statutory instrument containing the first regulations under section 82A (pharmaceutical needs assessments) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by resolution of, the National Assembly for Wales.”
112Rhestrau fferyllolLL+C
(1)Mae adran 83 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) (rheoliadau o ran gwasanaethau fferyllol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2), ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “satisfied,” i ddiwedd y paragraff, rhodder “satisfied as mentioned in subsection (2B), and”.
(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)The regulations may specify persons or descriptions of persons who are not to be included in a list prepared by virtue of subsection (2)(a).
(2B)The Local Health Board is satisfied as mentioned in this subsection if, having regard to the assessment most recently published by it under section 82A and to any matters specified in the regulations, it is satisfied that granting the application would meet a need in its area for the services, or some of the services, specified in the application.
(2C)In relation to cases where the Local Health Board is satisfied as mentioned in subsection (2B), the regulations may make provision as to—
(a)the procedure for determining whether to grant the application;
(b)matters to be taken into account for the purpose of determining whether to grant the application.”
(4)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)The regulations may prescribe circumstances in which two or more applications referred to in subsection (2)(c)(i) or (ii) may or must be considered together by the Local Health Board.”
(5)Yn is-adran (4)—
(a)yn lle’r geiriau o “include” i “the case” rhodder “make provision for the Local Health Board to take into account prescribed matters”;
(b)hepgorer paragraff (a);
(c)ym mharagraff (b), yn lle “they” rhodder “two or more applications referred to in subsection (2)(c)(i) or (ii)”;
(d)ym mharagraff (c), yn lle “subsection (2)(c)” rhodder “subsection (2B)”.
(6)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)The regulations may in particular make the provision mentioned in subsection (5), with or without modifications.”
(7)Yn is-adran (6)—
(a)cyn paragraff (a) mewnosoder—
“(za)as to circumstances in which the Local Health Board may invite applications for inclusion in a pharmaceutical list,”;
(b)ar ôl paragraff (f), mewnosoder—
“(fa)about the timescale for dealing with an application,”;
(c)ym mharagraff (g), ar ôl y geiriau “other grounds on which” mewnosoder “or circumstances in which”;
(d)ar ôl paragraff (m) mewnosoder—
“(n)as to circumstances in which a Local Health Board may, or must, remove a person or an entry in respect of premises from the pharmaceutical list for breach of a term or condition of arrangements made with the Local Health Board for the provision of pharmaceutical services.”
(8)Ar ôl is-adran (6), mewnosoder—
“(6A)The regulations, if they make provision within subsection (6)(n), must specify that a person or entry is not to be removed by a Local Health Board unless—
(a)the Local Health Board has given notice under section 106A (notice in relation to breach of arrangements) in respect of the breach, and
(b)the person in respect of whom the notice was given has failed to comply with a requirement of that notice.”
(9)Ar ôl is-adran (10) mewnosoder—
“(10A)The regulations may make provision for a Local Health Board to give reasons for decisions made by virtue of this section.”
(10)Yn adran 84 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42), yn is-adran (2)—
(a)ar ôl “application” mewnosoder “on grounds corresponding to the conditions referred to in section 107(2), (3) or (4) as read with section 109”;
(b)ar ôl “appeal” hepgorer “(by way of redetermination)”.
(11)Yn adran 84 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—
“(4)If regulations made under section 83 include provision for a Local Health Board to remove a person or an entry in respect of premises from a pharmaceutical list, the regulations must also make provision—
(a)requiring the Local Health Board to give notice of its intention to remove the person or entry (including provision requiring the notice to give reasons for the intended removal);
(b)about making representations.”
(12)Yn Atodlen 6 i Ddeddf Iechyd 2009 (p.21) (diddymiadau a dirymiadau), yn y tabl, hepgorer y cofnod sy’n ymwneud ag adran 83(6)(d) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
RHAN 8LL+CDARPARU TOILEDAU
Strategaethau toiledau lleolLL+C
113Strategaethau toiledau lleol: llunio ac adolyguLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol cyn diwedd y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r adran hon i rym.
(2)Rhaid i strategaeth toiledau lleol gynnwys—
(a)asesiad o’r angen i doiledau yn ardal yr awdurdod lleol fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio,
(b)datganiad sy’n nodi’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd i ddiwallu’r angen hwnnw, ac
(c)unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn briodol.
(3)Rhaid i awdurdod lleol gynnal adolygiad o’i strategaeth toiledau lleol ar ôl pob etholiad cyffredin a gynhelir ar gyfer ei ardal o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70); a rhaid i bob adolygiad gael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau â dyddiad yr etholiad.
(4)Caiff awdurdod lleol, yn ychwanegol at adolygiad sy’n ofynnol gan is-adran (3), gynnal adolygiadau eraill o’i strategaeth toiledau lleol.
(5)Pan yw awdurdod leol yn adolygu ei strategaeth toiledau lleol, rhaid iddo gyhoeddi datganiad o’r camau y mae wedi eu cymryd yn unol â’r strategaeth yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddwyd y strategaeth ddiwethaf, a
(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad y dechreuodd yr adolygiad hwnnw.
(6)Pan yw awdurdod lleol yn adolygu ei strategaeth toiledau lleol ac yn ystyried bod angen ei newid, rhaid iddo—
(a)diwygio’r strategaeth, a
(b)cyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig.
(7)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth—
(a)llunio strategaeth toiledau lleol,
(b)adolygu strategaeth toiledau lleol,
(c)ymgynghori ar strategaeth toiledau lleol o dan adran 115, neu
(d)cyhoeddi strategaeth toiledau lleol.
(8)Rhaid i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (7) wneud darpariaeth ynghylch—
(a)yr asesiad o’r angen—
(i)i doiledau fod ar gael i ddefnyddwyr priffyrdd a llwybrau teithio llesol eu defnyddio;
(ii)i doiledau fod ar gael i’w defnyddio gan ddefnyddwyr safleoedd a chyfleusterau eraill sydd, gan roi sylw i feini prawf a nodir yn y canllawiau, yn gyfleusterau o arwyddocâd penodol ar gyfer trafnidiaeth;
(iii)i doiledau fod ar gael i’w defnyddio yng nghyffiniau safleoedd ac mewn cysylltiad â digwyddiadau sydd, gan roi sylw i feini prawf a nodir yn y canllawiau, o arwyddocâd penodol neu o ddiddordeb diwylliannol, o ddiddordeb o ran chwaraeon neu o ddiddordeb hanesyddol, poblogaidd neu genedlaethol;
(iv)i doiledau sydd mewn mangreoedd sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol) fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio,
(b)hybu ymwybyddiaeth gyhoeddus o doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, ac
(c)cydweithredu rhwng awdurdodau lleol.
(9)Yn is-adran (8) mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66).
(10)At ddibenion is-adran (8), mae llwybr yn llwybr teithio llesol os y’i dangosir fel llwybr teithio llesol ar y map a luniwyd yn fwyaf diweddar gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7).
(11)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (7).
(12)At ddibenion y Rhan hon, mae “toiledau” yn cynnwys—
(a)cyfleusterau newid ar gyfer babanod, a
(b)mannau newid ar gyfer personau anabl.
114Strategaethau toiledau lleol: datganiad cynnydd interimLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi cyhoeddi strategaeth toiledau lleol o dan adran 113 (pa un ai yn unol ag adolygiad o’r strategaeth, neu fel arall) lunio a chyhoeddi datganiad cynnydd interim yn unol â’r adran hon.
(2)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi adolygu ei strategaeth toiledau lleol o dan adran 113(3), ond nad yw wedi ei diwygio, lunio a chyhoeddi datganiad cynnydd interim yn unol â’r adran hon.
(3)Mae datganiad cynnydd interim yn ddatganiad o’r camau y mae’r awdurdod wedi eu cymryd yn unol â’i strategaeth toiledau lleol yn ystod y cyfnod (“cyfnod y datganiad”) o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad—
(a)y cyhoeddwyd y strategaeth honno ddiwethaf gan yr awdurdod, yn achos gofyniad a osodir gan is-adran (1);
(b)yr adolygwyd y strategaeth honno ddiwethaf gan yr awdurdod, yn achos gofyniad a osodir gan is-adran (2).
(4)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei ddatganiad cynnydd interim heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl diwrnod olaf cyfnod y datganiad.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth lunio datganiad cynnydd interim; a rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.
115Strategaethau toiledau lleol: ymgynghoriLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw berson y mae’n ystyried ei fod yn debygol o fod â buddiant yn y ddarpariaeth o doiledau yn ei ardal sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio cyn iddo gyhoeddi ei strategaeth toiledau lleol o dan—
(a)adran 113(1), neu
(b)adran 113(6)(b).
(2)Fel rhan o’r ymgynghori, rhaid i’r awdurdod lleol roi strategaeth toiledau lleol ddrafft ar gael i bob person yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (1).
Pŵer awdurdod lleol i ddarparu toiledau cyhoeddusLL+C
116Pŵer awdurdod lleol i ddarparu toiledau cyhoeddusLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol ddarparu toiledau yn ei ardal i’r cyhoedd eu defnyddio.
(2)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r strategaeth toiledau lleol berthnasol wrth benderfynu—
(a)pa un ai i ddarparu toiledau o dan is-adran (1), a
(b)ar y mathau o doiledau sydd i gael eu darparu.
(3)At ddibenion is-adran (2), y strategaeth toiledau lleol berthnasol yw—
(a)yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (“prif gyngor”), y strategaeth toiledau lleol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 113 gan y cyngor hwnnw, a
(b)yn achos cyngor cymuned, y strategaeth toiledau lleol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 113 gan brif gyngor yr ardal lle y mae’r cyngor cymuned.
(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu toiledau o dan is-adran (1) ar neu o dan dir sy’n cydffinio â phriffordd neu briffordd arfaethedig, neu yng nghyffiniau priffordd o’r fath, oni bai—
(a)mai’r awdurdod lleol yw’r awdurdod priffyrdd (neu yn achos priffordd arfaethedig, mai’r awdurdod lleol fydd yr awdurdod priffyrdd) ar gyfer y briffordd honno, neu
(b)bod yr awdurdod lleol wedi cael cydsyniad yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, neu (yn achos priffordd arfaethedig) yr awdurdod a fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, i ddarparu toiledau o’r fath.
(5)Caiff awdurdod lleol sy’n darparu toiledau o dan yr adran hon godi ffioedd am ddefnyddio’r toiledau hynny.
(6)Yn yr adran hon—
117Pŵer i wneud is-ddeddfau mewn perthynas â thoiledauLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol sy’n darparu toiledau o dan adran 116 wneud is-ddeddfau o ran ymddygiad personau sy’n eu defnyddio neu sy’n mynd i mewn iddynt.
(2)Pan fo cyngor cymuned yn gwneud is-ddeddfau o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â thoiledau a ddarperir ganddo, nid yw’r is-ddeddfau (os oes rhai) a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2), mewn perthynas â’r toiledau hynny gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal lle y mae’r cyngor cymuned, yn cael unrhyw effaith yn ystod y cyfnod y mae’r is-ddeddfau a wneir gan y cyngor cymuned mewn grym.
(3)At ddibenion yr adran hon, mae “awdurdod lleol” i gael ei ddarllen yn unol ag adran 116.
118Diwygiadau canlyniadolLL+C
Am ddiwygiadau o ganlyniad i’r Rhan hon, gweler Atodlen 4.
RHAN 9LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Troseddau sgorio hylendid bwyd: derbyniadau cosb benodedigLL+C
119Derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwydLL+C
Yn adran 22 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (dccc 2), yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1)Ni chaiff awdurdod bwyd ddefnyddio ei dderbyniadau cosb benodedig ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.”
CyffredinolLL+C
120Troseddau gan gyrff corfforaethol etc.LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—
(a)corff corfforaethol;
(b)partneriaeth;
(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.
(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—
(a)un o uwch-swyddogion y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu
(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),
mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—
(a)mewn perthynas â chorff corfforaethol, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol;
(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;
(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu.
(4)Yn is-adran (3)(a), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.
(5)Yn yr adran hon ac adrannau 121 a 122, ystyr “partneriaeth” yw—
(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p.39), neu
(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p.24).
121Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraillLL+C
(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).
(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).
(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol.
(4)Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p.86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
122Rhoi hysbysiadauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i berson roi hysbysiad i berson arall (“P”) neu’n awdurdodi person i wneud hynny.
(2)Rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig.
(3)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi i P mewn unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—
(a)drwy ei ddanfon at P;
(b)drwy ei adael mewn unrhyw gyfeiriad a bennir gan P yn gyfeiriad ar gyfer rhoi hysbysiadau neu ei bostio i gyfeiriad o’r fath, neu (os nad yw P wedi pennu cyfeiriad at y diben hwn) drwy ei adael yng nghyfeiriad arferol P neu ei bostio i’r cyfeiriad hwnnw;
(c)os yw’r amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni, drwy ei anfon yn electronig at P.
(4)Yr amodau yw—
(a)bod P wedi nodi i’r person sy’n anfon yr hysbysiad ei fod yn barod i gael yr hysbysiad yn electronig, ac wedi darparu i’r person hwnnw gyfeiriad addas at y diben hwnnw, a
(b)bod yr hysbysiad yn cael ei anfon i’r cyfeiriad hwnnw.
(5)Cyfeiriad arferol P, at ddiben is-adran (3)(b), yw—
(a)os yw P yn gorff corfforaethol, gyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(b)os yw P yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel partner mewn partneriaeth, gyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;
(c)os yw P yn awdurdod lleol, brif swyddfa’r awdurdod lleol;
(d)mewn unrhyw achos arall, breswylfa neu fan busnes hysbys diwethaf P.
(6)Ni chaniateir i hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 27 neu 49 gael ei roi i P drwy ei anfon yn electronig.
(7)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3)(a) at ddanfon hysbysiad at P—
(a)os yw P yn gorff corfforaethol, yn gyfeiriad at ddanfon yr hysbysiad at ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw;
(b)os yw P yn bartneriaeth, yn gyfeiriad at ddanfon yr hysbysiad at bartner neu berson y mae busnes y bartneriaeth o dan ei reolaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.
(8)Mae hysbysiad a roddir i P drwy ei adael mewn man yn unol ag is-adran (3)(b) i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi ar yr adeg y’i gadawyd yn y man hwnnw.
123RheoliadauLL+C
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(c)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.
(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
(a)rheoliadau a wneir o dan adran 6(5), 10(6), 11(5), 13, 15, 16, 17(3), 28(7) neu 50(2) neu baragraff 6 neu 9 o Atodlen 1;
(b)rheoliadau a wneir o dan adran 60, 62, 63, 66(10), 69(8), 70(3)(a) neu (c), 93 neu 94(1);
(c)rheoliadau a wneir o dan adran 108 neu 110(2);
(d)rheoliadau a wneir o dan adran 125 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
124DehongliLL+C
(1)Ac eithrio fel y’i darperir yn benodol fel arall, yn y Ddeddf hon—
ystyr “a bennir” a “penodedig” (“specified”), mewn perthynas â darpariaeth a wneir mewn rheoliadau, yw wedi ei bennu yn y rheoliadau;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at feddiannydd mangre, i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gerbyd, yn gyfeiriadau at y person yr ymddengys fod ganddo ofal am y cerbyd, ac mae “nad yw wedi ei meddiannu” i gael ei ddehongli yn unol â hynny.
125Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.LL+C
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol;
(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” yw deddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, sydd wedi ei gynnwys yn un o’r canlynol neu wedi ei wneud o dan un ohonynt—
(a)Deddf Seneddol;
(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
126Dod i rymLL+C
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adran 1;
(b)adrannau 120 i 125;
(c)yr adran hon;
(d)adran 127.
(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
127Enw byrLL+C
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Yn ddilys o 29/09/2020
(a gyflwynir gan adrannau 27 a 49)
ATODLEN 1LL+CCOSBAU PENODEDIG
DehongliLL+C
1Yn yr Atodlen hon—
Cynnwys hysbysiad cosb benodedigLL+C
2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)datgan y drosedd honedig, a
(b)rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.
3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod dyroddi y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;
(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;
(c)y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;
(d)effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(f)y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;
(g)y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;
(h)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.
4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—
(a)hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a
(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.
5Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.
Swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thaluLL+C
6Y gosb yw’r swm hwnnw a bennir mewn rheoliadau.
7Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb benodedig.
Swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei daluLL+C
8(1)Mae swm gostyngol yn daladwy, yn lle’r swm a bennir mewn rheoliadau o dan baragraff 6, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.
(2)Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.
(3)Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.
(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p.80).
9Y swm gostyngol yw’r swm hwnnw a bennir mewn rheoliadau.
Effaith hysbysiad a thaluLL+C
10(1)Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.
11Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
12Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
13Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.
14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—
(a)os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod dyroddi yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd yr hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a
(b)os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.
TreialLL+C
15Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person hwnnw.
16Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—
(a)drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod dyroddi o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;
(b)yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.
Tynnu hysbysiadau yn ôlLL+C
17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod dyroddi yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi cael ei roi.
(2)Caiff yr awdurdod dyroddi roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.
(3)Os yw’n gwneud hynny—
(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a
(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.
Derbyniadau cosb benodedigLL+C
18(1)Ni chaiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 27 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau Pennod 1 o’r Rhan hon a rheoliadau a wneir odani.
(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 49 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau Pennod 2 o’r Rhan hon a rheoliadau a wneir odani.
Yn ddilys o 01/03/2021
(a gyflwynir gan adran 29)
ATODLEN 2LL+CYSMYGU: DIWYGIADAU CANLYNIADOL
1Mae Deddf Iechyd 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2Ym mhennawd Pennod 1 o Ran 1 ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.
3Yn adran 1 (cyflwyniad), yn is-adran (1) ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.
4Yn adran 2 (mangreoedd di-fwg)—
(a)yn is-adran (1) ar ôl “Premises” mewnosoder “in England”;
(b)yn is-adran (2) ar ôl “Premises” mewnosoder “in England”;
(c)yn is-adran (5) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
5Yn adran 3 (mangreoedd di-fwg (esemptiadau)), yn is-adran (1)—
(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)ar ôl “premises” yn y ddau le mewnosoder “in England”.
6Yn adran 4 (mannau di-fwg ychwanegol)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(ii)ar ôl “place” yn y ddau le mewnosoder “in England”;
(b)yn is-adran (3)—
(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(ii)yn lle “authority’s” rhodder “Secretary of State’s”.
7Yn adran 5 (cerbydau), yn is-adran (1)—
(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.
8Yn adran 6 (arwyddion dim ysmygu), yn is-adrannau (2), (3) a (4) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
9Yn adran 8 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn man di-fwg), yn is-adran (3) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
10Yn adran 9 (cosbau penodedig), yn is-adran (1A) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
11Yn adran 10 (gorfodi)—
(a)yn is-adran (1) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)yn is-adran (4) yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.
12Yn adran 11 (rhwystro etc swyddogion), yn is-adran (5) yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.
13Yn adran 12 (dehongli a’r môr tiriogaethol)—
(a)yn is-adran (2) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)hepgorer is-adran (3)(b).
14Yn adran 82 (dehongli), yn is-adran (1) hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.
15Yn Atodlen 1 (cosbau penodedig), ym mharagraffau 4 a 17 yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
16Yn Atodlen 2 (pwerau mynediad, etc), ym mharagraff 10 yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.
17Yn adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (prynu tybaco, cynhyrchion nicotin etc ar ran personau o dan 18 oed), yn is-adran (5), ar ôl paragraff (b), mewnosoder—
“(c)in relation to Wales—
(i)the reference to the Secretary of State in paragraph 4 of Schedule 1 to the Health Act 2006 is to be read as a reference to the Welsh Ministers;
(ii)the power of the Welsh Ministers to make regulations under paragraph 4 of Schedule 1 as so applied is to be exercised by statutory instrument;
(iii)a statutory instrument containing such regulations made by the Welsh Ministers is to be subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.”
Yn ddilys o 13/09/2024
(a gyflwynir gan adran 59)
ATODLEN 3LL+CDARPARIAETH BELLACH MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU TRINIAETH ARBENNIG
Cais am drwydded triniaeth arbennigLL+C
1Caiff cais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig ymwneud ag un driniaeth arbennig, neu fwy nag un.
2Mae cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi i gael ei wneud—
(a)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardal un awdurdod lleol yn unig, i’r awdurdod lleol hwnnw;
(b)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, i un o’r awdurdodau lleol hynny.
3(1)Rhaid i gais—
(a)pennu â pha driniaeth y mae’n ymwneud;
(b)rhoi pa fanylion bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo ynghylch y sail ar gyfer rhoi’r driniaeth (er enghraifft, pa un a yw’r driniaeth i gael ei rhoi ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall);
(c)datgan pa un a yw’n gais am drwydded dros dro ai peidio.
(2)O ran cais—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo;
(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(3)Yr awdurdod sydd i osod y ffi honno (os oes un) gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad â delio â cheisiadau.
4(1)Rhaid i gais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad preswylio arferol y ceisydd;
(b)unrhyw enw masnachu arfaethedig;
(c)rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (os oes un) y ceisydd;
(d)yn achos cais i ddyroddi trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3) (mangre neu gerbyd a feddiennir neu a reolir gan bersonau penodol, neu sydd o dan eu rheolaeth), cyfeiriad pob un o’r mangreoedd y mae rhoi’r driniaeth i gael ei awdurdodi gan y drwydded;
(e)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rhif cofrestru’r cerbyd;
(f)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a gaiff, er enghraifft, gynnwys gwybodaeth am unrhyw drosedd y mae’r ceisydd wedi ei euogfarnu ohoni (pa un a’i cyflawnwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ai peidio).
(2)Ar unrhyw adeg ar ôl cael cais ond cyn dyfarnu arno, caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i ddyfarnu ar y cais.
(3)Caiff yr wybodaeth bellach honno gynnwys unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gwirio hunaniaeth y ceisydd.
(4)Caiff rheoliadau—
(a)gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi sydd i ddod gyda chais a wneir iddo;
(b)gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch y ffordd y mae cais i gael ei wneud, yr wybodaeth sydd i gael ei darparu, a’r ffordd y mae awdurdod i ddelio â chais).
Cynnwys trwydded triniaeth arbennigLL+C
5(1)Rhaid i drwydded triniaeth arbennig—
(a)datgan enw deiliad y drwydded;
(b)bod â ffotograff o ddeiliad y drwydded;
(c)pennu cyfeiriad preswyl neu gyfeiriad busnes ar gyfer deiliad y drwydded;
(d)enwi’r awdurdod y dyroddir y drwydded ganddo;
(e)pennu pob triniaeth y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(f)pennu cyfnod y drwydded ac, yn achos trwydded dros dro, ddatgan ei bod yn drwydded dros dro.
(2)Rhaid i drwydded y mae’n ofynnol iddi, gan adran 59(3), nodi mangre neu gerbyd (yn ôl y digwydd)—
(a)pennu cyfeiriad y fangre;
(b)yn achos cerbyd sydd â rhif cofrestru, ddatgan y rhif cofrestru;
(c)yn achos cerbyd nad oes ganddo rif cofrestru, nodi’r cerbyd ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod sy’n dyroddi’r drwydded yn ystyried ei bod yn briodol.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys trwyddedau triniaeth arbennig (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch cynnwys gwybodaeth am yr amodau trwyddedu mandadol cymwys).
Copi o’r drwyddedLL+C
6(1)Os yw trwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, caiff deiliad y drwydded wneud cais am gopi i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.
(2)O ran cais o dan is-baragraff (1)—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a
(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(3)Rhaid i’r awdurdod ganiatáu’r cais os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y drwydded ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, a
(b)pan fo’r drwydded ar goll neu wedi ei dwyn, bod yr heddlu wedi ei hysbysu am hyn.
(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl caniatáu cais o dan is-baragraff (1), mae awdurdod i ddyroddi copi o’r drwydded i’r ceisydd.
7Mae copi o drwydded a ddyroddir gan awdurdod o dan baragraff 6—
(a)i gael ei ardystio gan yr awdurdod fel copi gwir, a
(b)i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon ac unrhyw ofynion a osodir gan y Rhan hon neu o dan y Rhan hon fel y drwydded wreiddiol.
Trwydded yn dod i benLL+C
8(1)Mae trwydded triniaeth arbennig i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—
(a)diwedd cyfnod y drwydded;
(b)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae dirymu’r drwydded yn cael effaith;
(c)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae’r drwydded yn peidio â chael effaith o dan baragraff 14(3) (terfynu trwydded yn wirfoddol);
(d)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi gan unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, y dyddiad y mae tynnu’r dynodiad yn ôl yn cymryd effaith.
(2)Ond mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 10.
Adnewyddu trwyddedLL+C
9(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais gan ddeiliad y drwydded, adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.
(2)Mae cais i adnewyddu trwydded i gael ei wneud i’r awdurdod a roddodd y drwydded.
(3)O ran cais i adnewyddu trwydded—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw,
(b)mae i gynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, ac
(c)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
10Os ceir cais i adnewyddu trwydded cyn y byddai’r drwydded oni bai am y paragraff hwn yn cael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben, nid yw’r drwydded i gael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben—
(a)tra bo’r cais i adnewyddu yn yr arfaeth;
(b)tra caniateir i apêl gael ei dwyn o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â’r cais;
(c)tra bo apêl a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r cais o dan baragraff 18 neu 19, o fewn y cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan y paragraff hwnnw, eto i gael ei phenderfynu.
Amrywio trwyddedLL+C
11(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais i’r perwyl hwn gan ddeiliad trwydded, amrywio trwydded triniaeth arbennig a ddyroddwyd ganddo.
(2)Caiff effaith amrywiad (ymhlith pethau eraill)—
(a)ychwanegu, diwygio neu ddileu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(b)yn ddarostyngedig i adran 59(4) (gofyniad bod mangre neu gerbyd wedi ei nodi mewn trwydded, ac wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo), awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd nas nodwyd cyn hynny yn y drwydded at y diben hwn;
(c)dileu cyfeiriad at fangre neu gerbyd a nodwyd cyn hynny yn y drwydded.
(3)Ni chaniateir i drwydded gael ei hamrywio o dan y paragraff hwn er mwyn—
(a)trosglwyddo’r drwydded o ddeiliad y drwydded i unigolyn arall;
(b)estyn cyfnod y drwydded.
12(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a
(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(2)Rhaid i gais gynnwys—
(a)manylion y newidiadau arfaethedig sydd i gael eu gwneud i’r drwydded, a
(b)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw.
13(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig drwy ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded i awdurdodi iddi gael ei rhoi—
(a)rhaid iddo bennu’r driniaeth o dan sylw, a
(b)mae i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n gais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i’r driniaeth honno gael ei rhoi (ac mae dyddiad yr amrywio i gael ei drin, ar gyfer cymhwyso’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, fel dyddiad dyroddi trwydded sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi).
(2)Ond nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys at ddibenion dyfarnu ar gyfnod y drwydded.
Terfynu trwydded yn wirfoddolLL+C
14(1)Pan fo deiliad trwydded yn dymuno i drwydded triniaeth arbennig beidio â chael effaith, caiff deiliad y drwydded roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.
(2)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y dyddiad y mae’r drwydded i beidio â chael effaith ag ef.
(3)Os nad yw’r drwydded wedi dod i ben yn gynharach o dan baragraff 8(1)(a), (b) neu (d), mae’r drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a ddatgenir o dan is-baragraff (2) i ben.
Yr hawl i gyflwyno sylwadauLL+C
15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn bwriadu—
(a)rhoi hysbysiad i geisydd o dan adran 65(2) neu 66(6) fod cais wedi ei wrthod (gan gynnwys o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)),
(b)rhoi hysbysiad i ddeiliad trwydded o dan adran 68 fod trwydded wedi ei dirymu (gan gynnwys o dan yr adran honno fel y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)), neu
(c)rhoi hysbysiad i unigolyn o dan adran 61(1), sy’n dynodi’r unigolyn hwnnw mewn cysylltiad â triniaeth arbennig.
(2)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 16 a 17, cyfeirir at y ceisydd neu ddeiliad y drwydded fel “A”.
(3)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i A (“hysbysiad rhybuddio”) sy’n nodi’r hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud a phaham.
(4)Rhaid i hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff A, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, naill ai—
(a)cyflwyno sylwadau ynghylch y cynnig, neu
(b)hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau.
(5)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio fod yn llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.
(6)Caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a)os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod nad yw A yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu
(b)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio yn dod i ben ac nad yw A wedi cyflwyno sylwadau na hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno gwneud hynny.
(7)Os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau—
(a)rhaid i’r awdurdod ganiatáu cyfnod rhesymol pellach i A i gyflwyno sylwadau, a
(b)caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, os yw A yn methu â chyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod pellach hwnnw.
(8)Os yw A yn cyflwyno sylwadau (naill ai o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio neu o fewn y cyfnod pellach a ganiateir o dan is-baragraff (7)(a)), rhaid i’r awdurdod ystyried y sylwadau.
(9)Caniateir i’r sylwadau a gyflwynir gan A o dan y paragraff hwn gael eu cyflwyno ar lafar neu fel arall; ac yn achos sylwadau ar lafar, caiff A neu gynrychiolydd A eu cyflwyno.
Hysbysiad o benderfyniadLL+C
16(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15 mewn cysylltiad â hysbysiad arfaethedig o dan adran 65(2), 66(6) neu 68, yn penderfynu cymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio.
(2)Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan adran 65, 66 neu 68 (yn ôl y digwydd) nodi rhesymau’r awdurdod dros roi’r hysbysiad.
(3)Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan—
(a)y caiff A apelio o dan baragraff 18 yn erbyn y penderfyniad,
(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo, ac
(c)yn achos dirymiad o dan adran 68, y dyddiad (yn absenoldeb apêl o dan baragraff 18) y mae’r dirymiad i gymryd effaith.
17Os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15, yn penderfynu peidio â chymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’r penderfyniad i A.
ApelauLL+C
18(1)Caiff ceisydd apelio i lys ynadon yn erbyn—
(a)gwrthod cais am drwydded triniaeth arbennig;
(b)gwrthod cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig;
(c)gwrthod cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.
(2)Caiff deiliad trwydded apelio i lys ynadon yn erbyn dirymiad o dan adran 68.
(3)Caiff unigolyn y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad i roi’r hysbysiad.
(4)Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad—
(a)yn achos apêl o dan is-baragraff (1) neu (2), yr hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod y cais neu o’r penderfyniad i ddirymu;
(b)yn achos apêl o dan is-baragraff (3), yr hysbysiad o dan adran 61(1).
(5)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).
(6)At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.
(7)Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yr apelir yn ei erbyn, neu
(b)diddymu neu amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn,
a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.
(8)Os yw’r llys ynadon yn diddymu neu’n amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn, caiff anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.
19(1)Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon o dan baragraff 18 gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.
(2)Ar apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—
(a)cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon;
(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
20(1)Pan fo llys, ar apêl o dan baragraff 18 neu 19, yn amrywio neu’n gwrth-droi penderfyniad awdurdod lleol, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd, deiliad y drwydded, neu berson o fewn paragraff 18(3) (yn ôl y digwydd) am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r penderfyniad.
(2)Nid yw dwyn apêl o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir gan awdurdod lleol neu hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith y penderfyniad neu’r hysbysiad.
Dirprwyo swyddogaethauLL+C
21(1)Mae swyddogaethau awdurdod lleol o dan y darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon wedi eu dirprwyo, yn rhinwedd yr is-baragraff hwn, i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17)—
(a)adran 65(2) a 66(3) (gan gynnwys fel y’u cymhwysir yn rhinwedd adran 67 a pharagraff 13(1)), mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(b)adran 68, mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(c)paragraff 15(8);
(d)paragraffau 16 a 17.
(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17) i fod yn gymwys mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod a ddirprwyir i bwyllgor trwyddedu yn rhinwedd is-baragraff (1) fel y maent yn gymwys i swyddogaeth a ddirprwyir o dan y Ddeddf honno, ac fel pe bai cyfeiriadau ynddynt at awdurdod trwyddedu yn gyfeiriadau at yr awdurdod o dan sylw—
(a)adran 7(9) (atgyfeirio’n ôl i awdurdod), a
(b)adran 10 (isddirprwyo).
(3)Wrth gymhwyso adran 10(4) o’r Ddeddf honno yn rhinwedd is-baragraff (2), mae’r rhestr o swyddogaethau yn is-baragraff (1)(a) i (d) wedi ei rhoi yn lle’r rhestr o swyddogaethau yn yr adran honno.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sy’n gymwys i bwyllgorau trwyddedu a’u his-bwyllgorau at ddiben arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth o ran—
(a)dilysrwydd a chworwm;
(b)mynediad y cyhoedd;
(c)cyhoeddusrwydd;
(d)cofnodion.
(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y rheoliadau, caiff pob pwyllgor trwyddedu, at ddibenion arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn ei is-bwyllgorau.
Diwygiadau canlyniadolLL+C
22(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 13(11) (ystyr “local authority” yn Rhan 8), ym mharagraff (a) ar ôl “district” mewnosoder “in England”.
(3)Yn adran 14 (aciwbigo)—
(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a
(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.
(4)Yn adran 15 (tatŵio etc)—
(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a
(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.
23Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2), ym mhob tabl yn Atodlen 1 (pwerau i wneud is-ddeddfau) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud—
(a)ag adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30);
(b)ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).
(a gyflwynir gan adran 118)
ATODLEN 4LL+CDARPARU TOILEDAU: DIWYGIADAU CANLYNIADOL
1(1)Mae adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (darparu cyfleusterau cyhoeddus) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1)—
(a)yn lle “A county council, a local authority” rhodder “A county council in England, a local authority in England”;
(b)hepgorer “or community”.
(3)Yn y pennawd, ar ôl “conveniences”, mewnosoder “in England”.
2Yn adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darparu cyfleusterau cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr ffyrdd), yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4)The powers in subsection (1) are without prejudice to—
(a)section 87 of the Public Health Act 1936 (provision of public conveniences in England);
(b)section 116 of the Public Health (Wales) Act 2017 (local authority power to provide public toilets in Wales).”
3(1)Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, mae Atodlen 1 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mhob tabl, hepgorer y cofnod sy’n ymwneud ag adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936.
(3)Ym mhob tabl, yn y lle priodol mewnosoder—
“Adran 117 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 | Rheoleiddio ymddygiad personau mewn toiledau | Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned” |