Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, RHAN 9 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

RHAN 9LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Troseddau sgorio hylendid bwyd: derbyniadau cosb benodedigLL+C

119Derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwydLL+C

Yn adran 22 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (dccc 2), yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Ni chaiff awdurdod bwyd ddefnyddio ei dderbyniadau cosb benodedig ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 119 mewn grym ar 4.10.2017 gan O.S. 2017/949, ergl. 2(c)

CyffredinolLL+C

120Troseddau gan gyrff corfforaethol etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan⁠—

(a)corff corfforaethol;

(b)partneriaeth;

(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)un o uwch-swyddogion y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),

mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforaethol, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu.

(4)Yn is-adran (3)(a), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

(5)Yn yr adran hon ac adrannau 121 a 122, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p.39), neu

(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p.24).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 120 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(b)

121Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraillLL+C

(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol.

(4)Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p.86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 121 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(b)

122Rhoi hysbysiadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i berson roi hysbysiad i berson arall (“P”) neu’n awdurdodi person i wneud hynny.

(2)Rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig.

(3)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi i P mewn unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)drwy ei ddanfon at P;

(b)drwy ei adael mewn unrhyw gyfeiriad a bennir gan P yn gyfeiriad ar gyfer rhoi hysbysiadau neu ei bostio i gyfeiriad o’r fath, neu (os nad yw P wedi pennu cyfeiriad at y diben hwn) drwy ei adael yng nghyfeiriad arferol P neu ei bostio i’r cyfeiriad hwnnw;

(c)os yw’r amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni, drwy ei anfon yn electronig at P.

(4)Yr amodau yw—

(a)bod P wedi nodi i’r person sy’n anfon yr hysbysiad ei fod yn barod i gael yr hysbysiad yn electronig, ac wedi darparu i’r person hwnnw gyfeiriad addas at y diben hwnnw, a

(b)bod yr hysbysiad yn cael ei anfon i’r cyfeiriad hwnnw.

(5)Cyfeiriad arferol P, at ddiben is-adran (3)(b), yw—

(a)os yw P yn gorff corfforaethol, gyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)os yw P yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel partner mewn partneriaeth, gyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)os yw P yn awdurdod lleol, brif swyddfa’r awdurdod lleol;

(d)mewn unrhyw achos arall, breswylfa neu fan busnes hysbys diwethaf P.

(6)Ni chaniateir i hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 27 neu 49 gael ei roi i P drwy ei anfon yn electronig.

(7)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3)(a) at ddanfon hysbysiad at P—

(a)os yw P yn gorff corfforaethol, yn gyfeiriad at ddanfon yr hysbysiad at ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw;

(b)os yw P yn bartneriaeth, yn gyfeiriad at ddanfon yr hysbysiad at bartner neu berson y mae busnes y bartneriaeth o dan ei reolaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.

(8)Mae hysbysiad a roddir i P drwy ei adael mewn man yn unol ag is-adran (3)(b) i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi ar yr adeg y’i gadawyd yn y man hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 122 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(b)

123RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau a wneir o dan adran 6(5), 10(6), 11(5), 13, 15, 16, 17(3), 28(7) neu 50(2) neu baragraff 6 neu 9 o Atodlen 1;

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 60, 62, 63, 66(10), 69(8), 70(3)(a) neu (c), 93 neu 94(1);

(c)rheoliadau a wneir o dan adran 108 neu 110(2);

(d)rheoliadau a wneir o dan adran 125 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 123 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(b)

124DehongliLL+C

(1)Ac eithrio fel y’i darperir yn benodol fel arall, yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “a bennir” a “penodedig” (“specified”), mewn perthynas â darpariaeth a wneir mewn rheoliadau, yw wedi ei bennu yn y rheoliadau;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at feddiannydd mangre, i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gerbyd, yn gyfeiriadau at y person yr ymddengys fod ganddo ofal am y cerbyd, ac mae “nad yw wedi ei meddiannu” i gael ei ddehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 124 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(b)

125Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol;

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” yw deddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, sydd wedi ei gynnwys yn un o’r canlynol neu wedi ei wneud o dan un ohonynt⁠—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 125 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(b)

126Dod i rymLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 1;

(b)adrannau 120 i 125;

(c)yr adran hon;

(d)adran 127.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 126 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(c)

127Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 127 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(1)(d)

Yn ôl i’r brig

Options/Help