Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

116Pŵer awdurdod lleol i ddarparu toiledau cyhoeddusLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff awdurdod lleol ddarparu toiledau yn ei ardal i’r cyhoedd eu defnyddio.

(2)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r strategaeth toiledau lleol berthnasol wrth benderfynu⁠—

(a)pa un ai i ddarparu toiledau o dan is-adran (1), a

(b)ar y mathau o doiledau sydd i gael eu darparu.

(3)At ddibenion is-adran (2), y strategaeth toiledau lleol berthnasol yw—

(a)yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (“prif gyngor”), y strategaeth toiledau lleol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 113 gan y cyngor hwnnw, a

(b)yn achos cyngor cymuned, y strategaeth toiledau lleol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 113 gan brif gyngor yr ardal lle y mae’r cyngor cymuned.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu toiledau o dan is-adran (1) ar neu o dan dir sy’n cydffinio â phriffordd neu briffordd arfaethedig, neu yng nghyffiniau priffordd o’r fath, oni bai—

(a)mai’r awdurdod lleol yw’r awdurdod priffyrdd (neu yn achos priffordd arfaethedig, mai’r awdurdod lleol fydd yr awdurdod priffyrdd) ar gyfer y briffordd honno, neu

(b)bod yr awdurdod lleol wedi cael cydsyniad yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, neu (yn achos priffordd arfaethedig) yr awdurdod a fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, i ddarparu toiledau o’r fath.

(5)Caiff awdurdod lleol sy’n darparu toiledau o dan yr adran hon godi ffioedd am ddefnyddio’r toiledau hynny.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae “awdurdod lleol” (“local authority”) yn cynnwys cyngor cymuned;

  • mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 113(9).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 116 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(a)