Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

24Rhwystro etc. swyddogionLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 19 i 23 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—

(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 23(1), neu

(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 23(1)(b) neu (d),

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 23(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 24 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2