Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 26

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 26 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 23 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

26Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 23(1)(c)(“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—

(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, a

(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.

(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod gorfodi ddigolledu P.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Yn ôl i’r brig

Options/Help