Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 27

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 27 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

27Hysbysiadau cosb benodedigLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu bod person wedi cyflawni y naill neu’r llall o’r troseddau a ganlyn mewn mangre, man neu gerbyd y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas â hi neu mewn perthynas ag ef⁠—

(a)trosedd o dan adran 5(1);

(b)trosedd o dan adran 17(5),

caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd.

(2)Pan fo gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 6(6) mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y dibenion a grybwyllir yn is-adran (4), y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas ag ef, caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd.

(3)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson i gael ei ryddhau o fod yn agored i euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu cosb benodedig.

(4)Y dibenion yw dibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill y person y mae’r swyddog awdurdodedig yn credu ei fod wedi cyflawni’r drosedd.

(5)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth, mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael eu trin fel cyfeiriadau at y bartneriaeth.

(6)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael eu trin fel cyfeiriadau at y gymdeithas.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p.39), neu

(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p.24).

(8)Am ddarpariaeth bellach ynghylch cosbau penodedig, gweler Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 27 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(f)

I3A. 27 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Yn ôl i’r brig

Options/Help