Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 63

 Help about opening options

No versions valid at: 01/02/2018

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/02/2018. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 63 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 06 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Yn ddilys o 13/09/2024

63Amodau trwyddedu mandadolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i reoliadau nodi amodau trwyddedu mandadol sydd i fod yn gymwys i drwyddedau triniaeth arbennig.

(2)Rhaid i’r amodau trwyddedu mandadol a bennir yn y rheoliadau gynnwys amodau sy’n gosod gofynion mewn cysylltiad—

(a)â dilysu oedran unigolyn y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi iddo;

(b)â rheoli heintiau, safonau hylendid, a chymorth cyntaf;

(c)â’r ymgynghori sydd i gael ei gynnal cyn ac ar ôl rhoi triniaeth arbennig;

(d)â chadw cofnodion.

(3)Rhaid i’r amodau a bennir yn y rheoliadau hefyd gynnwys amod sy’n gwahardd rhoi triniaeth arbennig o dan amgylchiadau pan fo’r unigolyn y byddai’r driniaeth fel arall yn cael ei rhoi iddo yn feddw, neu yr ymddengys ei fod yn feddw, pa un ai yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.

(4)Caiff amodau trwyddedu mandadol hefyd wneud darpariaeth bellach sy’n ymwneud (ymhlith pethau eraill)—

(a)â’r fangre neu’r cerbyd y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi ynddi neu ynddo, neu y mae cyfarpar neu ddeunydd a ddefnyddir mewn triniaeth arbennig i gael ei gadw neu ei baratoi ynddi neu ynddo (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, y cyfleusterau a’r cyfarpar sydd ar gael yno, a glanhau a chynnal a chadw);

(b)â’r ffordd y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, y cyfarpar a ddefnyddir wrth roi’r driniaeth arbennig neu mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth arbennig, a dillad diogelu);

(c)â safonau cymhwysedd sy’n berthnasol i roi triniaeth arbennig (gan gynnwys safonau a bennir drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, gymwysterau neu brofiad), neu roi triniaeth arbennig i ran benodedig o gorff unigolyn;

(d)â’r wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddeiliad trwydded (pa un ai drwy arddangos yr wybodaeth neu fel arall), ac i ddeiliad trwydded, cyn ac ar ôl rhoi triniaeth arbennig;

(e)ag arddangos trwydded;

(f)â’r wybodaeth sydd i gael ei darparu i awdurdod lleol yn achos euogfarnu deiliad trwydded o drosedd berthnasol;

(g)â’r amgylchiadau y mae cais i amrywio trwydded i gael ei wneud odanynt;

(h)â dychwelyd trwydded, ar ôl iddi ddod i ben, i’r awdurdod a’i dyroddodd.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) mewn cysylltiad—

(a)â disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau;

(b)â disgrifiadau gwahanol o driniaeth arbennig;

(c)â’r amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt (gan gynnwys drwy gyfeirio at, ymhlith pethau eraill, pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth arbennig, hyd unrhyw gyfnod y rhoddir triniaeth arbennig ynddo, ac a roddir triniaeth arbennig ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall).

(6)Mae pob trwydded triniaeth arbennig i fod yn ddarostyngedig i’r amodau trwyddedu mandadol cymwys.

(7)Yr amodau trwyddedu mandadol cymwys, mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yw’r amodau trwyddedu mandadol sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r drwydded o dan sylw fel y maent ar ddyddiad ei dyroddi o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth