Pwysau trethadwy deunyddLL+C
18Pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwyLL+C
(1)Mewn perthynas â phwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig—
(a)rhaid i weithredwr y safle lle y gwneir y gwarediad trethadwy ei gyfrifo;
(b)caiff ACC ei gyfrifo os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.
(2)Mae’r pwysau trethadwy i’w gyfrifo—
(a)yn unol ag adran 19, os y’i cyfrifir gan y gweithredwr;
(b)yn unol ag adran 22, os y’i cyfrifir gan ACC.
(3)Pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5)—
(a)pan na fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a
(b)pan fo ACC—
(i)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a
(ii)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,
yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.
(4)Pan fo’r gweithredwr—
(a)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a
(b)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddychwelyd neu ddiwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r gwarediad,
pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan y gweithredwr, oni bai bod ACC yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (5) wedi hynny.
(5)Pan fo ACC—
(a)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd ar ôl i ffurflen dreth gael ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a
(b)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,
pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 18 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
19Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan y gweithredwrLL+C
(1)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn y ffordd a ganlyn.
(2)Rhaid i’r gweithredwr bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20.
(3)Os oes gan y gweithredwr gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, caiff y gweithredwr gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennir o dan is-adran (2), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).
(4)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I4A. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
20Pennu pwysau deunydd gan y gweithredwrLL+C
(1)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy gan ddefnyddio pont bwyso.
(2)Rhaid i’r gweithredwr sicrhau, at ddibenion is-adran (1)—
(a)bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn y gwneir y gwarediad, a
(b)bod y bont bwyso yn bodloni pob un o’r gofynion mewn deddfwriaeth pwysau a mesurau sy’n gymwys i’r bont bwyso (os oes rhai).
(3)Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.
(4)Rhaid i gais—
(a)cael ei gyflwyno mewn unrhyw fodd,
(b)cynnwys unrhyw wybodaeth, ac
(c)cael ei gyflwyno gydag unrhyw ddogfennau,
a bennir gan ACC (naill ai’n gyffredinol neu mewn achos penodol).
(5)Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—
(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a
(b)os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.
(6)Mewn perthynas â chymeradwyaeth—
(a)caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;
(b)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau;
(c)caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;
(d)caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.
(7)Os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth i’r gweithredwr ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid i’r gweithredwr—
(a)defnyddio’r dull hwnnw mewn perthynas â’r gwarediad (yn hytrach na’r dull a ddisgrifir yn is-adran (1)), a
(b)gwneud hynny yn unol ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo.
(8)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth pwysau a mesurau” yw Deddf Pwysau a Mesurau 1985 (p. 72) a rheoliadau a wneir (yn llwyr neu yn rhannol) o dan y Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I7A. 20(3)-(6) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(b)
21Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunyddLL+C
(1)Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.
(2)Rhaid i gais am gymeradwyaeth gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.
(3)Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—
(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a
(b)os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.
(4)Ni chaiff ACC roi cymeradwyaeth i’r gweithredwr gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd onid yw—
(a)y dŵr yno oherwydd—
(i)bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu,
(ii)bod rhaid ei ddefnyddio i echdynnu mwyn,
(iii)bod rhaid ei ychwanegu yng nghwrs proses ddiwydiannol, neu
(iv)ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol, neu
(b)y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr.
(5)Mewn perthynas â chymeradwyaeth—
(a)caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;
(b)caiff bennu disgowntiau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o warediadau trethadwy;
(c)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud taliad yn ofynnol mewn cysylltiad â phrofion ar ddeunydd);
(d)caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;
(e)caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.
(6)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gadw cofnod o bob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd (sef “cofnod disgownt dŵr”).
(7)Caiff ACC bennu—
(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw cofnod disgownt dŵr;
(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.
(8)Mae’r cofnod i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r gweithredwr ei dychwelyd, mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y mae treth i’w chodi ar y gwarediad mewn cysylltiad ag ef, yn gywir ac yn gyflawn.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I9A. 21(1)-(5)(7) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(c)
I10A. 21(6)(8) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
22Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACCLL+C
(1)Pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid iddo wneud hynny—
(a)drwy bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli gan ddefnyddio unrhyw ddull sy’n briodol ym marn ACC, a
(b)pan fo cymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, drwy gymhwyso’r disgownt i’r pwysau a bennir o dan baragraff (a), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).
(2)Ond os yw wedi ei fodloni bod methiant neu doriad a grybwyllir yn adran 23 wedi digwydd mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy, caiff ACC, wrth gyfrifo’r pwysau, gymryd y camau a nodir yn yr adran honno mewn cysylltiad â’r methiant neu’r toriad.
(3)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I12A. 22 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
23Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC: achosion o beidio â chydymffurfioLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.
(2)Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r gwarediad, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).
(3)Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â phennu pwysau’r deunydd yn y gwarediad yn unol ag adran 20, caiff ACC—
(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu
(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.
(4)Pan fo ACC wedi ei fodloni—
(a)bod gan weithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, ond
(b)ei fod yn torri amod sydd ynghlwm â’r gymeradwyaeth,
caiff ACC gymryd y camau a nodir yn is-adran (5).
(5)Caiff ACC—
(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu
(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.
(6)Pan fo ACC wedi ei fodloni nad oes cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).
(7)Pan fo ACC wedi ei fodloni nad yw’r cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy yn bodloni gofyniad a bennir o dan adran 21(7), caiff ACC—
(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu
(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.
(8)Yn yr adran hon, mae i “cofnod disgownt dŵr” yr ystyr a roddir gan adran 21(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I14A. 23 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
24Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd LL+C
Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (g) (a fewnosodir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT) mewnosoder—
“(h)penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I16A. 24 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(d)
25Pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunyddLL+C
Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â phwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig (gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd), ei diddymu neu ei diwygio fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I18A. 25 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(d)