Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, PENNOD 4. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 4LL+CCASGLU A RHEOLI’R DRETH

CofrestruLL+C

34Cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwyLL+C

(1)Rhaid i ACC gadw cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy.

(2)Mae person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy os yw’r person yn weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediadau trethadwy.

(3)Rhaid i gofnod person ar y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(4)Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae ACC o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion casglu a rheoli’r dreth.

(5)Caiff ACC gyhoeddi gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 34 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(h)

35Dyletswydd i fod yn gofrestredigLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC.

(2)Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy ond nad yw wedi ei gofrestru—

(a)gwneud cais ysgrifenedig i ACC i gael ei gofrestru, a

(b)gwneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.

(3)Rhaid i ACC gofrestru’r person os yw wedi ei fodloni bod y cais—

(a)yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan ACC i gofrestru’r person, a

(b)ar y ffurf a bennir gan ACC (os o gwbl).

(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais.

(5)Os yw ACC yn cofrestru’r person, rhaid i’r hysbysiad nodi cofnod y person yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4A. 35(1) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I5A. 35(2)-(5) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(i)

36Newidiadau a chywiro gwybodaethLL+C

(1)Rhaid i berson cofrestredig roi hysbysiad i ACC am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y person yn y gofrestr fod yn anghywir.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid yn digwydd.

(3)Rhaid i berson sydd wedi darparu gwybodaeth i ACC at ddiben sy’n ymwneud â chofrestru roi hysbysiad i ACC os yw’r person yn darganfod bod unrhyw ran o’r wybodaeth yn anghywir.

(4)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n ddechrau â’r diwrnod y mae’r person yn darganfod yr anghywirdeb.

(5)Os yw ACC wedi ei fodloni bod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr yn anghywir, caiff gywiro’r gofrestr (pa un a yw’r person cofrestredig y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi rhoi hysbysiad i ACC am yr anghywirdeb ai peidio).

(6)Os yw ACC yn cywiro cofnod person yn y gofrestr, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r person yn nodi’r cofnod fel y’i cywirwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I7A. 36 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(j)

37Canslo cofrestriadLL+C

(1)Rhaid i berson cofrestredig sy’n peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais ysgrifenedig i ACC i ganslo cofrestriad y person hwnnw.

(2)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy.

(3)Caiff ACC ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni bod y person wedi peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy (pa un a yw’r person wedi gwneud cais i ganslo’r cofrestriad ai peidio).

(4)Ond ni chaiff ACC ganslo cofrestriad y person oni bai ei fod wedi ei fodloni

[F1(a)] bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu wedi ei thalu[F2, a

(b)bod yr holl gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo ac y mae’r person wedi ei hawlio—

(i)wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i’r person ei dalu, neu

(ii)wedi ei dalu i’r person.]

(5)Caiff ACC hefyd ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni nad yw’r person wedi cyflawni gweithrediadau trethadwy ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny.

(6)Os yw ACC yn canslo cofrestriad person, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y canslo i’r person.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I9A. 37(1)-(4) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I10A. 37(5)(6) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(k)

38Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â chofrestruLL+C

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (h) (a fewnosodir gan adran 24 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(i)penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I12A. 38 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(l)

Cyfrifo trethLL+C

39Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifydduLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys—

(a)asesiad o swm y dreth sydd i’w godi ar y person mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu (gweler adran 41), a

(b)naill ai—

(i)datganiad gan y person fod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar y ffurflen dreth, a’r wybodaeth mewn unrhyw ddogfen sy’n mynd gyda’r ffurflen dreth, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y person, neu

(ii)os yw’r person yn awdurdodi asiant i lenwi a dychwelyd y ffurflen dreth ar ran y person, ardystiad gan yr asiant fod y person wedi gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)Rhaid dychwelyd y ffurflen dreth ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

(4)Dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth—

(a)yw diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo, oni bai y caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r dyddiad ffeilio, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(5)Y cyfnodau cyfrifyddu y mae’n rhaid i berson ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â hwy—

(a)yw’r cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7), oni bai y caiff y cyfnodau hynny eu hamrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7) eu hamrywio o dan adran 40, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r cyfnodau cyfrifyddu, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(6)Yn achos person sy’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy (neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig), a

(ii)sy’n dod i ben â diwrnod a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir gan ACC i’r person;

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob cyfnod dilynol o 3 mis y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo.

(7)Yn achos person nad yw’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy, a

(ii)sy’n dod i ben â diwedd y chwarter calendr y mae’r person yn dechrau gwneud hynny (neu, os yw’n gynharach, y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig);

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob chwarter calendr dilynol y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo (ond os daw’r person yn gofrestredig cyn diwedd chwarter calendr, daw’r cyfnod cyfrifyddu sy’n ymwneud â’r chwarter hwnnw i ben â’r diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig).

(8)Yn yr adran hon, ystyr “chwarter calendr” yw cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I14A. 39(1)-(4) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I15A. 39(5)-(8) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(m)

40Pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilioLL+C

(1)Caiff ACC amrywio—

(a)hyd cyfnod cyfrifyddu;

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth.

(2)Gwneir amrywiad drwy ddyroddi hysbysiad i’r person y mae’r amrywiad yn gymwys iddo.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi manylion yr amrywiad.

(4)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad o dan yr adran hon naill ai—

(a)ar gais person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy neu sy’n bwriadu gwneud hynny, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(5)Rhaid i gais i amrywio gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(6)Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r person a wnaeth y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I17A. 40 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(n)

41Y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifydduLL+C

(1)Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo.

(2)Ond os yw’r person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ar y safle yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w godi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo (yn hytrach na’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo).

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r person wedi rhoi hysbysiad i ACC, cyn dyroddi’r anfoneb dirlenwi, nad yw’r person yn dymuno manteisio arni.

(4)Caiff y person amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy roi hysbysiad pellach i ACC.

(5)Caiff person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy, neu sy’n bwriadu gwneud hynny, wneud cais ysgrifenedig i ACC am gymhwyso is-adran (2)—

(a)i’r holl warediadau trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy arno, neu

(b)i ddisgrifiad o warediadau trethadwy a bennir yn y cais,

fel pe bai’r cyfeiriad at gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriad at gyfnod hwy.

(6)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais; ac os yw ACC yn caniatáu’r cais, rhaid i’r hysbysiad bennu’r cyfnod hwy a’r gwarediadau trethadwy y mae’r cyfnod hwy i’w gymhwyso mewn perthynas â hwy.

(7)Caiff ACC amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy ddyroddi hysbysiad pellach i’r person.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “anfoneb dirlenwi” yw anfoneb—

(a)a ddyroddir mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, a

(b)sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3.

(9)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I19A. 41(1)-(8) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I20A. 41(9) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/955, ergl. 2(d)

Talu, adennill ac ad-dalu trethLL+C

42Talu trethLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n dychwelyd ffurflen dreth dalu’r swm o dreth a nodir ar y ffurflen dreth fel y swm yr aseswyd ei fod i’w godi ar y person ar ddiwrnod ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

[F3(1A)Ond os yw swm o gredyd treth wedi ei osod yn erbyn y swm hwnnw o dreth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 54, y swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu erbyn y dyddiad hwnnw yw’r swm sy’n parhau i fod yn weddill ar ôl y gosod yn erbyn (os oes unrhyw swm o’r fath).]

(2)Pan asesir bod swm o dreth i’w godi ar y person o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i’r ffurflen dreth o dan adran 41 o DCRhT (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), rhaid i’r person dalu’r swm—

(a)os gwneir y diwygiad ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny, ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, neu

(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ar y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad i ACC am y diwygiad.

(3)Gweler y darpariaethau a ganlyn yn DCRhT am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o dreth mewn amgylchiadau eraill—

  • adran 42(4A) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir i ffurflen dreth gan ACC);

  • adran 45(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth yn ystod ymholiad);

  • adran 50(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth ar ôl cwblhau ymholiad);

  • adran 52(5) (swm sy’n daladwy yn unol â dyfarniad ACC);

  • adran 61(2) (swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I22A. 42 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

43Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gadw cofnod (sef “crynodeb treth gwarediadau tirlenwi”) o—

(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y person, F4...

[F5(aa)swm y credyd treth a hawliwyd gan y person, a]

(b)y dreth a dalwyd gan y person,

mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi, a

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.

(3)Mae’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yn gywir ac yn gyflawn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I24A. 43(1)(3) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

I25A. 43(2) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(o)

44Gohirio adennillLL+C

(1)Mae adran 181B o DCRhT (ceisiadau i ohirio) (a fewnosodir gan baragraff 63 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3)—

(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a), a

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder , ac

(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.

(3)Yn is-adran (4)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder a

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,.

(4)Yn is-adran (5)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)yn lle’r geiriau o “caiff ganiatáu” i’r diwedd rhodder neu

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I27A. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

45Dim gofyniad i ollwng neu ad-dalu treth oni thelir yr holl drethLL+C

Yn adran 67 o DCRhT (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad), ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I29A. 45 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill