PENNOD 1CREDYDAU TRETH
54Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo person i fod â hawlogaeth i gredyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.
(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
(a)ynghylch amodau y mae hawlogaeth i gredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt;
(b)ynghylch swm credyd;
(c)ynghylch y ffordd y mae person sydd â hawlogaeth i gredyd i gael budd ohono (er enghraifft, darpariaeth i dynnu didyniadau o’r dreth a fyddai fel arall i’w chodi ar berson, ac i daliadau gael eu rhoi i berson, mewn amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);
(d)ynghylch y weithdrefn ar gyfer hawlio credyd (er enghraifft, darpariaeth ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu gan hawlydd i ategu hawliad);
(e)ynghylch amodau y mae unrhyw fudd mewn cysylltiad â chredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt, neu y caiff fod yn ddarostyngedig iddynt, (er enghraifft, amodau sy’n gwneud taliadau neu ad-daliadau i ACC yn ofynnol, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);
(f)ynghylch amgylchiadau y caiff ACC atal credyd oddi tanynt;
(g)sy’n caniatáu i ACC ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth a dogfennau gael eu darparu, ac yn caniatáu i ACC archwilio mangreoedd, naill ai mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan y rheoliadau, neu fel arall at ddiben cadarnhau sefyllfa person o ran hawlogaeth i gredyd, neu o ran gofyniad i roi ad-daliad i ACC o dan y rheoliadau;
(h)ynghylch dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;
(i)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad ag achosion o fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir gan y rheoliadau neu oddi tanynt;
(j)ynghylch adolygiadau ac apelau.
(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.