Adran 1 - Diwygiadau i Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992
Dileu cyfyngiadau ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undeb llafur o gyflogau yn y sector cyhoeddus
12.Mae adran 1(2) yn darparu nad yw adran 116B o Ddeddf 1992 (a fewnosodwyd gan adran 15 o Ddeddf 2016), sy’n cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir didynnu taliadau tanysgrifio i undeb llafur o gyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus, yn gymwys i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig.
13.Mae rhai cyflogwyr yn didynnu tâl tanysgrifio i undeb llafur o gyflogau eu gweithwyr (cyfeirir at hyn fel didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres). Mae adran 116B yn gosod cyfyngiadau fel na chaniateir didyniadau o’r fath oni bai bod gan weithwyr yr opsiwn i dalu eu taliadau tanysgrifio i undeb drwy gyfrwng arall, a bod trefniadau wedi eu gwneud i’r undeb wneud taliadau rhesymol i’r cyflogwr o ran gwneud y didyniadau.
Datgymhwyso rheoliadau ynghylch amser cyfleuster i awdurdodau cyhoeddus Cymreig
14.Mae adran 1(3) yn darparu nad yw adrannau 172A a 172B o Ddeddf 1992 (fel y’u mewnosodwyd gan adrannau 13 a 14 o Ddeddf 2016) yn gymwys i awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig.
15.Mae adrannau 168 i 172 o Ddeddf 1992 yn gwneud darpariaeth ynghylch “amser cyfleuster”, sy’n amser i ffwrdd a ganiateir gan weithwyr at ddiben cyflawni dyletswyddau undebau llafur. Mewnosodwyd adrannau 172A a 172B, sy’n rhoi pwerau i Weinidog y Goron wneud rheoliadau ynghylch amser cyfleuster, gan adrannau 13 a 14 o Ddeddf 2016.
16.Caiff rheoliadau a wneir o dan adran 172A ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr y sector cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth am faint o amser cyfleuster a ganiateir. Mae adran 172B yn darparu y caiff Gweinidog y Goron, pan fo’n ystyried ei bod yn briodol, ac wrth roi sylw i faterion yn adran 172B(1), wneud rheoliadau i gapio’r ganran o gyfanswm bil tâl y cyflogwyr sy’n cael ei wario ar dalu swyddogion undebau am amser cyfleuster ac i gyfyngu ar hawliau swyddogion undebau i amser cyfleuster drwy ddiwygio darpariaethau yn adran 172B(4). Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan adran 172B oni fo’n dair blynedd ers i’r rheoliadau cyntaf o dan adran 172A ddod i rym.
Datgymhwyso’r trothwy o gefnogaeth 40% o’r aelodau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus pwysig mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus Cymreig
17.Mae adran 1(4) yn darparu na chaiff rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n diffinio “gwasanaethau cyhoeddus pwysig” at ddiben adran 226 o Ddeddf 1992 gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig.
18.Mae adran 219 o Ddeddf 1992 yn darparu bod camau penodol a gymerir wrth ystyried neu fwrw ymlaen ag anghydfod masnachol wedi eu diogelu gan na ellir dwyn achos o gamwedd yn eu cylch. Mae adran 226 yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni cyn y caiff undeb llafur ymgymryd â gweithredu diwydiannol yn y fath fodd fel ei fod yn denu imiwnedd o dan adran 219. Mae hynny’n cynnwys gofyniad bod yn rhaid cynnal pleidlais o aelodau’r undeb. Rhaid i o leiaf 50% (mwyafrif syml) o’r rheini sy’n pleidleisio fod o blaid gweithredu diwydiannol.
19.Mae Deddf 2016 yn diwygio adran 226 i gynnwys gofynion pellach y mae’n rhaid eu bodloni cyn bod yr imiwnedd statudol yn adran 219 yn gymwys. Mae adran 226(2)(iia) (a fewnosodwyd gan adran 2 o Ddeddf 2016) yn darparu bod yn rhaid i o leiaf 50% (mwyafrif syml) o’r rheini sydd â’r hawl i bleidleisio fwrw pleidlais; a phan fo’r rheini sydd â’r hawl i bleidleisio yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig, mae adran 226(2B) (a fewnosodwyd gan adran 3 o Ddeddf 2016) yn darparu bod yn rhaid i o leiaf 40% ohonynt bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.
20.Felly, mae adran 226 yn ei gwneud yn ofynnol bellach fod yn rhaid i o leiaf 50% o’r holl aelodau sydd â’r hawl i bleidleisio arfer eu hawl i bleidleisio, a bod yn rhaid i o leiaf 50% o’r rheini sy’n pleidleisio fwrw pleidlais o blaid gweithredu. Er enghraifft, pan fo’r anghydfod yn effeithio ar 1000 o aelodau undeb, mae hynny’n golygu bod yn rhaid i o leiaf 500 o aelodau bleidleisio a bod yn rhaid i o leiaf 251 ohonynt bleidleisio o blaid gweithredu.
21.Mae adran 226(2B) yn gosod gofyniad pellach pan fo aelodau yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig sydd wedi eu diffinio mewn rheoliadau a wneir o dan adran 226(2D) gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid i o leiaf 40% o’r aelodau hynny sydd â’r hawl i bleidleisio fwrw pleidlais o blaid gweithredu diwydiannol. O ran yr enghraifft uchod, byddai angen i o leiaf 400 o aelodau bleidleisio o blaid gweithredu i’r imiwnedd statudol yn adran 219 fod yn gymwys.
22.Mae adran 226(2)(iia) yn gymwys o ran Cymru ond mae adran 1(2) o’r Ddeddf yn darparu nad yw is-adrannau 226(2B) i (2F) yn gymwys i awdurdodau datganoledig Cymreig.
Diffiniad o awdurdodau datganoledig Cymreig
23.Mae adran 1(5) yn diffinio’r awdurdodau cyhoeddus Cymreig y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt drwy gyfeirio at y diffiniad o “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (a fewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017). Yn yr adran honno, ystyr “devolved Welsh authority” yw awdurdod cyhoeddus a bennir yn Atodlen 9A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 neu sy’n arfer swyddogaethau sydd (a) yn arferadwy o ran Cymru yn unig a (b) yn swyddogaethau nad ydynt yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â materion a gedwir yn ôl. Caniateir i Atodlen 9A gael ei diwygio gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a gymeradwyir gan y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.