Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Trefniadau awdurdodau lleol

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 10/06/2022

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Croes Bennawd: Trefniadau awdurdodau lleol yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Trefniadau awdurdodau lleolLL+C

68Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—

(a)cyrff addysg, a

(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, neu yn achos plant o’r fath, eu rhieni,

ynghylch arfer gan gyrff addysg eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—

(a)perchenogion sefydliadau perthnasol, a

(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac, yn achos plant o’r fath, eu rhieni,

ynghylch y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir ar gyfer plant neu bobl ifanc.

(3)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth i bartïon mewn anghytundeb gael mynediad at help i’w ddatrys oddi wrth bersonau sy’n annibynnol ar y partïon.

(4)Rhaid i awdurdod lleol hybu’r defnydd o’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i blant, eu rhieni a phobl ifanc nad yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon yn effeithio ar unrhyw hawliau a all fod ganddynt i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “corff addysg” yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;

(c)awdurdod lleol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad perthnasol” yw—

(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ar y rhestr a gynhelir o dan adran 56;

(d)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)Academi.

(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 69 mae awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am blant y mae’n gofalu amdanynt nad ydynt yn ei ardal [F1a phersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth y mae’r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod cartref iddynt].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 68 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 68 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 68 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I5A. 68 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 68 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(m), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

69Gwasanaethau eirioli annibynnolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt;

(b)atgyfeirio unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol;

(c)atgyfeirio unrhyw berson sy’n gyfaill achos i blentyn y mae’n gyfrifol amdano ac sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol.

(2)Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau eirioli annibynnol” yw cyngor a chymorth (drwy gynrychiolaeth neu fel arall) i blentyn, person ifanc neu gyfaill achos—

(a)sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon,

(b)sy’n ystyried pa un ai i apelio i’r Tribiwnlys ai peidio, neu

(c)sy’n cymryd rhan, neu sy’n bwriadu cymryd rhan, mewn trefniadau a wneir o dan adran 68.

(3)Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau fod yn annibynnol ar unrhyw berson sydd—

(a)yn destun apêl i’r Tribiwnlys, neu

(b)yn ymwneud ag ymchwilio i apêl o’r fath neu ddyfarnu arni.

(4)Caiff y trefniadau gynnwys darpariaeth i’r awdurdod lleol wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, sy’n cyflawni swyddogaethau yn unol â’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I8A. 69 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I9A. 69 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I10A. 69 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I11A. 69 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I12A. 69 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(m), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

Yn ôl i’r brig

Options/Help