Rhoi hysbysiad etc.LL+C
88Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan honLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu neu awdurdod lleol i—
(a)hysbysu person am rywbeth, neu
(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).
(2)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—
(a)drwy ddanfon yr hysbysiad neu’r ddogfen at y person,
(b)drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,
(c)drwy adael yr hysbysiad neu’r ddogfen yng nghyfeiriad cywir y person, neu
(d)os yw’r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni, drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig.
(3)Ni chaiff corff llywodraethu nac awdurdod lleol anfon hysbysiad neu ddogfen at berson yn electronig ond os yw’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)rhaid i’r person y mae’r hysbysiad i gael ei roi iddo neu y mae’r ddogfen i gael ei rhoi iddo—
(i)bod wedi nodi wrth y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a
(ii)bod wedi darparu i’r corff llywodraethu neu i’r awdurdod lleol gyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw, a
(b)mae’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.
(4)At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) fel y mae’n gymwys i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw cyfeiriad hysbys diwethaf y person.
(5)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y gadawyd yr hysbysiad neu’r ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.
[(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig yn unol â’r adran hon i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.]
Diwygiadau Testunol
Addasiadau (ddim yn newid testun)
Gwybodaeth Cychwyn