xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

AmrywiolLL+C

95Ystyr “yn ardal” awdurdod lleolLL+C

Yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56)

(a)yn is-adran (3A), ar ôl “Wales” mewnosoder “or who would be wholly or mainly resident in the area of a local authority in Wales were it not for provision secured for the person under Part 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”.

(b)yn is-adran (3B), ar ôl “England” mewnosoder “or who would be wholly or mainly resident in the area of a local authority in England were it not for provision secured for the person under Part 3 of the Children and Families Act 2014”.

(c)ar ôl is-adran (3B) mewnosoder—

(3C)The Welsh Ministers may make further provision by regulations about the meaning of references in this Act to a person who is “in the area” of a local authority in Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 95 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(m)

CyffredinolLL+C

96Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadauLL+C

Mae Atodlen 1 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I4A. 96 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(n)

97Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu i roi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad neu ddogfen statudol.

(3)Rhaid i ddogfen statudol a ddiwygir drwy reoliadau o dan yr adran hon gael ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig gan y person a chanddo’r swyddogaeth o wneud neu ddyroddi’r ddogfen.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “dogfen statudol” yw offeryn (ac eithrio offeryn statudol)—

(a)a wneir neu a ddyroddir o dan ddeddfiad, a

(b)sy’n ddarostyngedig i weithdrefn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ofynnol gan ddeddfiad cyn y caniateir iddo gael ei wneud neu ei ddyroddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 97 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)

98RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i gael ei arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;

(b)darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 3(4), 39(2), 45, 46, 60(4), 74(1), 75, 82, 83, 85, 90 neu 99(8);

(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 15(2);

(c)rheoliadau a wneir o dan adran 97 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 98 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)

99Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” yn is-adran (1), mae i—

(a)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol (“community, foundation or voluntary school”), a

(b)ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig (“community or foundation special school”),

yr ystyr a roddir gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

(3)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ardal yr awdurdod.

(5)Mae i gyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir gan adran 15, ac mae cyfeiriadau at awdurdod lleol yn gofalu am blentyn i gael eu dehongli yn unol â hynny.

(6)Mae Deddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) a darpariaethau blaenorol y Ddeddf hon (ac eithrio i’r graddau y bônt yn diwygio Deddfau eraill) i gael eu dehongli fel pe cynhwysid y darpariaethau hynny yn Neddf 1996.

(7)Pan fo ystyr yn cael ei roi i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r ystyr a roddir at ddibenion Deddf 1996.

(8)Caiff rheoliadau ddiwygio’r diffiniad o “corff GIG” fel ei fod yn cynnwys Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 99 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)

100Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adrannau 1, 97, 98, 99 ac 101 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw paragraff 5 o Atodlen 1 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 100 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)

101Enw byr a chynnwys y Ddeddf yn y rhestr o Ddeddfau AddysgLL+C

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(2)Mae’r Ddeddf hon i gael ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 101 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)