- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56)—
(a)yn is-adran (3A), ar ôl “Wales” mewnosoder “or who would be wholly or mainly resident in the area of a local authority in Wales were it not for provision secured for the person under Part 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”.
(b)yn is-adran (3B), ar ôl “England” mewnosoder “or who would be wholly or mainly resident in the area of a local authority in England were it not for provision secured for the person under Part 3 of the Children and Families Act 2014”.
(c)ar ôl is-adran (3B) mewnosoder—
“(3C)The Welsh Ministers may make further provision by regulations about the meaning of references in this Act to a person who is “in the area” of a local authority in Wales.”
Mae Atodlen 1 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu i roi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a
(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad neu ddogfen statudol.
(3)Rhaid i ddogfen statudol a ddiwygir drwy reoliadau o dan yr adran hon gael ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig gan y person a chanddo’r swyddogaeth o wneud neu ddyroddi’r ddogfen.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “dogfen statudol” yw offeryn (ac eithrio offeryn statudol)—
(a)a wneir neu a ddyroddir o dan ddeddfiad, a
(b)sy’n ddarostyngedig i weithdrefn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ofynnol gan ddeddfiad cyn y caniateir iddo gael ei wneud neu ei ddyroddi.
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i gael ei arfer drwy offeryn statudol.
(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—
(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;
(b)darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.
(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
(a)rheoliadau o dan adran 3(4), 39(2), 45, 46, 60(4), 74(1), 75, 82, 83, 85, 90 neu 99(8);
(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 15(2);
(c)rheoliadau a wneir o dan adran 97 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(1)Yn y Ddeddf hon—
mae “addysg” (“education”) yn cynnwys addysg lawnamser a rhan-amser, ond nid yw’n cynnwys addysg uwch; ac mae “addysgol” (“educational”) ac “addysgu” (“educate”) (a thermau cysylltiedig eraill) i gael eu dehongli yn unol â hynny;
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir gan adran 2;
mae i “awdurdod cartref” (“home authority”) yr ystyr a roddir gan adran 39;
ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac eithrio pan fo cyfeiriad penodol yn cael ei wneud at awdurdod lleol yn Lloegr;
ystyr “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Commissioning Board”) yw corff a sefydlir o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw—
Bwrdd Iechyd Lleol, neu
ymddiriedolaeth GIG;
mae i “corff llywodraethu”, mewn perthynas â chorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach, yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13);
ystyr “cyfaill achos” (“case friend”) yw person a benodir o dan adran 85;
mae i “cynllun addysg personol” (“personal education plan”) yr ystyr a roddir gan adran 15;
ystyr “cynllun AIG” (“EHC plan”) yw cynllun o fewn adran 37(2) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal);
mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir gan adran 10;
mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir gan adran 3;
mae i “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” (“beginning of detention”) yr ystyr a roddir gan adran 39;
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir)—
Deddf Seneddol;
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon);
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf sy’n dod o fewn paragraff (a) neu o dan Fesur neu Ddeddf sy’n dod o fewn paragraff (b);
ystyr “grŵp comisiynu clinigol” (“clinical commissioning group”) yw corff a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
mae “hyfforddiant” (“training”) yn cynnwys—
hyfforddiant llawnamser a rhan-amser;
hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden;
mae i “llety ieuenctid perthnasol” (“relevant youth accommodation”) yr ystyr a roddir gan adran 39;
ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru a benodir o dan adran 91;
ystyr “panel lleyg” (“lay panel”) yw’r panel o bersonau a benodir o dan adran 91(5);
ystyr “panel cadeirydd cyfreithiol” (“legal chair panel”) yw’r panel o bersonau a benodir o dan adran 91(4) (ac ystyr “cadeirydd cyfreithiol” (“legal chair”) yw aelod o’r panel);
ystyr “perchennog” (“proprietor”), mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;
ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, ond sy’n iau na 25 oed;
mae i “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” (“detained person”) yr ystyr a roddir gan adran 39;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
ystyr “rhagnodedig” ac “a ragnodir” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “sefydliad prif ffrwd yn y sector addysg bellach” (“mainstream institution in the further education sector”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach nad yw wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol;
ystyr “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
mae i “swyddog adolygu annibynnol” (“independent reviewing officer”) yr ystyr a roddir gan adran 15;
ystyr “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yw tîm a sefydlir o dan adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru (gweler adran 91);
mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);
ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlir o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
mae i “ymddiriedolaeth sefydledig GIG” yr ystyr a roddir i “NHS foundation trust” gan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—
ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol,
ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig nas sefydlwyd mewn ysbyty,
ysgol feithrin a gynhelir, neu
uned cyfeirio disgyblion;
ystyr “ysgol brif ffrwd a gynhelir” (“mainstream maintained school”) yw ysgol a gynhelir—
nad yw’n ysgol arbennig, a
nad yw’n uned cyfeirio disgyblion.
(2)Yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” yn is-adran (1), mae i—
(a)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol (“community, foundation or voluntary school”), a
(b)ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig (“community or foundation special school”),
yr ystyr a roddir gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
(3)Yn y Ddeddf hon—
(a)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
(b)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr.
(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ardal yr awdurdod.
(5)Mae i gyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir gan adran 15, ac mae cyfeiriadau at awdurdod lleol yn gofalu am blentyn i gael eu dehongli yn unol â hynny.
(6)Mae Deddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) a darpariaethau blaenorol y Ddeddf hon (ac eithrio i’r graddau y bônt yn diwygio Deddfau eraill) i gael eu dehongli fel pe cynhwysid y darpariaethau hynny yn Neddf 1996.
(7)Pan fo ystyr yn cael ei roi i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r ystyr a roddir at ddibenion Deddf 1996.
(8)Caiff rheoliadau ddiwygio’r diffiniad o “corff GIG” fel ei fod yn cynnwys Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
(1)Daw’r adran hon ac adrannau 1, 97, 98, 99 ac 101 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw paragraff 5 o Atodlen 1 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(3)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;
(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
(2)Mae’r Ddeddf hon i gael ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys