11Dyletswydd i benderfynu: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellachLL+C
(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.
(2)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan berson ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.
(3)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;
(b)bod y corff llywodraethu wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a bod y corff llywodraethu wedi ei fodloni—
(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a
(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
(c)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;
(d)bod y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc;
(e)bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.
(4)Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn)), oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 11(3)(c) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(a)
C2A. 11(4) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(a)
C3A. 11(4) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 11 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I3A. 11 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 11 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I5A. 11 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I6A. 11 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I7A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I8A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I9A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4
I10A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I11A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I12A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3
I13A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)
I14A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)