12Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach
(1)Os yw corff llywodraethu yn penderfynu o dan adran 11 fod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo—
(a)llunio cynllun datblygu unigol ar ei gyfer, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys, a
(b)cynnal y cynllun, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
(2)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod y corff llywodraethu yn ystyried bod gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol—
(i)a all alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau,
(ii)na all y corff llywodraethu bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol, neu
(iii)na all y corff llywodraethu bennu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eu cyfer yn ddigonol,
a bod y corff llywodraethu yn atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1);
(b)bod y cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal;
(c)bod y corff llywodraethu yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 39(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a bod yr awdurdod, yn rhinwedd y cais neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno);
(d)bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.
(3)Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei gyfarwyddo i lunio a chynnal, neu i gynnal, cynllun datblygu unigol ar gyfer person o dan adran 14(2)(b), 14(4) neu 27(6)(a), rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal, neu gynnal, y cynllun (yn ôl y digwydd), oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
(4)Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi cytuno i gais o dan adran 36(2) i ddod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 36(4) y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, rhaid i’r corff llywodraethu gynnal y cynllun oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
(5)Os yw’r corff llywodraethu, yn dilyn cais o dan is-adran (2)(c), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.
(6)Rhaid i gorff llywodraethu sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—
(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a
(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
(7)Rhaid i gorff llywodraethu—
(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon, a
(b)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.