Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 39

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 39 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

39Ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” a thermau allweddol eraillLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

  • mae i “awdurdod cartref” yr ystyr a roddir i “home authority” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (2);

  • mae i “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” yr ystyr a roddir i “beginning of the detention” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “llety ieuenctid perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant youth accommodation” gan adran 562(1A)(b) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” (“detained person”) yw plentyn neu berson ifanc—

    (a)

    sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

    (b)

    sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr,

    ac mewn darpariaethau sy’n gymwys pan gaiff person ei ryddhau mae’n cynnwys person a oedd, yn union cyn ei ryddhau, yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)i baragraff (a) o’r diffiniad o “home authority” yn adran 562J(1) o Ddeddf Addysg 1996 (awdurdod cartref plentyn sy’n derbyn gofal) fod yn gymwys gydag addasiadau at ddibenion y Rhan hon;

(b)i ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 562J(4) o Ddeddf Addysg 1996 fod yn gymwys gydag addasiadau neu hebddynt at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 39 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(d)

Yn ôl i’r brig

Options/Help