Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 42

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/01/2022

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 42 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

42Dyletswydd i gadw cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r person yn gaeth—

(a)gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 12, neu

(b)gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 14 neu 19.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio o dan adran 40(5).

(3)Os yw’r awdurdod cartref ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn awdurdod cartref yng Nghymru, rhaid i’r awdurdod cartref gadw’r cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(4)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys pan fo’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i’r cynllun datblygu unigol gael ei gadw.

(5)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â chynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gan awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod cartref, oni ddygir y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal i sylw’r awdurdod cartref.

(6)Rhaid i’r awdurdod cartref roi gwybod i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth a rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn ei fod yn cadw cynllun datblygu unigol tra bo’r person yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(7)Rhaid i’r awdurdod cartref roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.

(8)Pan fo awdurdod cartref yn cadw cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—

(a)trefnu i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol gael ei darparu i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)os yw’r cynllun yn pennu y dylai’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol yn cael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol” yw—

(a)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun datblygu unigol,

(b)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’n ymarferol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun gael ei darparu, darpariaeth addysgol sy’n cyfateb mor agos â phosibl i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, neu

(c)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun yn briodol mwyach ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r awdurdod cartref yn ystyried ei bod yn briodol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 42 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 42 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5

I4A. 42 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

Yn ôl i’r brig

Options/Help